PDC sy'n cyflawni'r cynnydd uchaf yng Nghymru yn y Complete University Guide 2026

11 Mehefin, 2025

Four students sat on sofas smiling and studying in the library.

Mae Prifysgol De Cymru wedi codi 18 safle yn rhestr ddiweddaraf y Complete University Guide, i safle 77 yn y tabl.

Er bod y Brifysgol yn parhau i fod yn chweched yng Nghymru, hi sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf o holl brifysgolion Cymru.

Roedd perfformiad gwell mewn 19 maes pwnc eleni, gan gynnwys:

  • Celf a Dylunio – safle 25 allan o 83 o brifysgolion (o safle 44 y llynedd)
  • Gwyddoniaeth Fforensig – safle 28 allan o 36 (o safle 30 y llynedd)
  • Hanes – safle 55 allan o 90 (o safle 71 y llynedd)
  • Systemau a Thechnoleg Gwybodaeth– safle 7 allan o 18 (o safle 12 y llynedd)
  • Y Gyfraith – safle 53 allan o 112 (o safle 62 y llynedd)
  • Gwyddor Chwaraeon – safle 28 allan o 85 (o safle 48 y llynedd)

Mae Meddygaeth Gyflenwol yn parhau i fod ymhlith y 10 uchaf, yn drydydd allan o 11 yn y DU.

Perfformiodd bynciau eraill yn dda mewn metrigau unigol hefyd, megis Deilliannau Graddedigion, Rhagolygon Graddedigion ‘On Track’, a Boddhad Myfyrwyr, gan gynnwys:

  • Mae Peirianneg Awyrenegol ac Awyrofod (safle 24 o 33 prifysgol) ar y brig yn y DU am Foddhad Myfyrwyr.
  • Mae Busnes a Rheoli (safle 81 o 122) a Seicoleg (safle 71 o 118) ill dau yn 2il yng Nghymru am Foddhad Myfyrwyr.
  • Mae Peirianneg Sifil (safle 23 o 60) ar y brig yn y DU ar gyfer Deilliannau Graddedigion a Rhagolygon Graddedigion ‘On Track’.
  • Mae Drama, Dawns a Sinemateg (safle 59 o 94) ar y brig yng Nghymru ar gyfer Parhad.
  • Mae Addysg (safle 71 o 91) yn 3ydd yn y DU ar gyfer Boddhad Myfyrwyr.
  • Mae Astudiaethau Iechyd (safle 18 o 35) yn 2il yn y DU ar gyfer Deilliannau Graddedigion a Rhagolygon Graddedigion ‘On Track’.
  • Mae Cymdeithaseg (safle 83 o 101) ar y brig yng Nghymru ar gyfer Rhagolygon Graddedigion ‘On Track’.

Gwellodd perfformiad PDC mewn pump o'r metrigau ac arhosodd yr un fath mewn tri.

Y metrigau a wellodd oedd Safonau Mynediad (safle 61 o 71), Parhad (safle 71 o 101), Gwariant Gwasanaethau Academaidd (safle 31 o 34), Rhagolygon Graddedigion ‘On Track’ (safle 63 o 81), a Deilliannau Rhagolygon Graddedigion (safle 96 o 103).

Dywedodd Dr James Gravelle, Dirprwy Is-Ganghellor PDC: "Rydym yn falch iawn o weld y Brifysgol yn cyflawni cynnydd o'r fath yn safleoedd Complete University Guide, sy'n dilyn ein safle uchaf erioed yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian ar gyfer 2025.

"Mae'n arbennig o galonogol nodi'r lefelau uchel o foddhad myfyrwyr a rhagolygon cryf graddedigion mewn nifer o bynciau, a'r cynnydd mewn safleoedd ar gyfer ystod o gyrsiau.

"Unwaith eto, hoffwn ddiolch i gydweithwyr ar draws y sefydliad am eu hymdrech barhaus a'u hymrwymiad i'n myfyrwyr."