Menopos yn y gweithle: archwilio'r heriau y mae menywod ethnig leiafrifol yn eu hwynebu
5 Mawrth, 2025
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2025/03-march/Shehla-Khan.jpg)
Mae Dr Shehla Khan, uwch ddarlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol, yn benderfynol o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau ac anghydraddoldebau iechyd.
Mae ei gwaith diweddar, 'Unveiling Inequalities: Exploring the Menopausal Experiences of Ethnic Minority Women in the Workplace', yn edrych ar yr heriau unigryw y mae menywod ethnig leiafrifol yn eu hwynebu yn ystod y menopos, yn enwedig mewn lleoliadau proffesiynol.
Mae'r ymchwil yma’n dangos sut mae ffactorau diwylliannol, cymdeithasol a systemig yn effeithio ar iechyd a lles y menywod hyn. Trwy ganolbwyntio ar y gweithle, nod Dr Khan yw taflu goleuni ar y rhwystrau penodol a wynebir gan fenywod ethnig leiafrifol, fel diffyg cefnogaeth, camddealltwriaeth diwylliannol, a pholisïau gweithle nad ydyn nhw o bosibl yn diwallu eu hanghenion.
"Mae fy angerdd dros greu cymdeithas amrywiol a theg yn gyrru fy ymchwil ar feithrin gweithleoedd cynhwysol lle gall cymunedau sydd wedi’u hymyleiddio ffynnu. Rydw i wedi canolbwyntio ar hunaniaethau rhyweddol a grymuso menywod ethnig leiafrifol, gan fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal eu cynnydd.
Un broblem allweddol yw diffyg dealltwriaeth o’r menopos a'i effaith ar y menywod hyn. Mae ymchwil, polisïau a chefnogaeth mewn gweithleoedd yn aml yn anwybyddu eu profiadau, gan waethygu anghydraddoldebau systemig. Gan gydnabod y bwlch hwn, roeddwn i’n teimlo cyfrifoldeb cryf i roi llais cryfach iddyn nhw ac eirioli dros newid ystyrlon.
Wrth ei gwraidd, mae'r ymchwil yma’n ymwneud â gwelededd a newid. Rydw i am dynnu sylw at y brwydrau y mae menywod ethnig leiafrifol yn eu hwynebu wrth ddelio â’r menopos mewn lleoliadau proffesiynol ac eirioli dros gefnogaeth ystyrlon, systemig.
Y nod yw ceisio polisïau gweithle ystyrlon sy'n cydnabod croestoriadedd ac yn cynnig cefnogaeth sy’n briodol o safbwynt diwylliannol. Os gall yr ymchwil yma arwain at sgyrsiau go iawn, polisïau gwell, ac amgylcheddau lle mae menywod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u deall yn hytrach na'u hynysu, bydd wedi cyflawni rhywbeth gwirioneddol effeithiol.
Mae cymorth presennol sy’n ymwneud â’r menopos yn aml yn gyffredinol ei natur, gyda stigma diwylliannol yn gwneud trafodaethau agored yn anodd. Fy nod yw codi ymwybyddiaeth o'r heriau penodol ar sail profiadau byw croestoriadol. Fy ngobaith yw y bydd sefydliadau'n gweithredu polisïau sy'n cynnwys gweithio hyblyg, cymorth iechyd wedi'i dargedu, a deialog agored, gan ddileu'r stigma a chreu amgylcheddau lle gall menywod ffynnu.
Rwy'n rhagweld heriau fel sicrhau'r cysylltiadau cywir mewn cymunedau a dod o hyd i unigolion sy'n teimlo'n gyfforddus a pharod i gymryd rhan a rhannu eu profiadau’n agored. Mae ymchwil lwyddiannus yn dibynnu ar ymddiriedaeth a pherthnasoedd cryf, ac rwy'n dod â blynyddoedd o brofiad o weithio yn y gymuned ddu ac ethnig leiafrifol yng Nghymru.
Gan adeiladu ar y rhwydweithiau sefydledig hyn, fy nod yw cynnwys cyfranogwyr mewn deialog agored, gan feithrin ymdeimlad o ymddiriedaeth a fydd yn arwain at ddata cyfoethog, ystyrlon.
Mae fy ymchwil yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 - creu Cymru Iachach, Cymru Fwy Cyfartal, a Chymru o Gymunedau Cydlynus - gan bwysleisio bod y menopos yn fater o gydraddoldeb yn y gweithle yn hytrach na 'rhywbeth i fenywod' yn unig. Mae'n tynnu sylw at y croestoriad rhwng hil, rhywedd ac iechyd, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn y gweithle. Trwy gynnwys profiadau menywod ethnig leiafrifol, mae'n cryfhau ymdrechion amrywiaeth a chynhwysiant, gan eirioli dros degwch iechyd fel agwedd allweddol ar gydraddoldeb yn y gweithle.
Rhaid i ddiwylliannau gweithleoedd gefnogi dilyniant gyrfaol menywod, gan fynd i'r afael â'r diffyg cynrychiolaeth mewn rolau uwch. I wneud hyn bydd angen meithrin amgylchedd sy’n cynnwys systemau cymorth cryf, gan gynnwys mentrau menopos penodol. Mae’r camau allweddol yn cynnwys gwella hyfforddiant i reolwyr, grwpiau cymorth, ac opsiynau gwaith hyblyg, gan sicrhau nad oes rhaid i fenywod ddioddef yn dawel.
Rwy'n cael fy nghymell gan y nod o greu gweithleoedd lle gall pawb ffynnu heb deimlo eu bod yn cael eu hymyleiddio. Mae sicrhau cefnogaeth deg yn meithrin cymdeithasau iachach ac yn cryfhau darpariaethau cynhwysol i bob aelod o'n cymunedau."