Oriel y Bont

student-25

Inside/Out

1 Tachwedd 2023 – 29 Chwefror, 2024
Agor 10am - 5pm Dydd Llun - dydd Gwener

Teithiau tu fewn a thu allan i Gymoedd Cymru gan 3 artist yn sgwrsio gyda'i gilydd a gyda gweithiau gan 2 artist o gasgliad PDC.

Mae arddangosfa newydd o'r enw Inside / Out yn agor ym mis Tachwedd yn Oriel y Bont, gyda gwaith gan 3 artist cyfoes; Helen Acklam, David Morgan-Davies a James Vassallo sydd wedi defnyddio ffotograffiaeth, sain, peintio, cerflunwaith a lluniadu i gyfleu eu perthynas unigryw â thirlun Cymreig De Cymru. Cyflwynir y gweithiau hyn hefyd mewn perthynas â gweithiau gan yr arlunydd o gasgliad Amgueddfa PDC Bryn Richards a’r ffotograffydd Ray Klimek, i ffurfio sgwrs am y gorffennol a’r presennol, yr hunan a lle.

Yn y pen draw, yn fwy na daearyddiaeth, mae'r gweithiau'n ffurfio trosiad ar gyfer lapio ein hunain mewn amser, gan ddatgelu hanesion cudd sy'n treiddio allan, dros amser. Gan gyfeirio at y diwydiannau creulon a greithiodd a newidiodd fryniau De Cymru i deithiau ailgys


Ymweld Oriel y Bont

Amseroedd agor Dydd Llun - Dydd Gwener 10.00 am - 5.00 pm

Mae mynediad am ddim ac mae caffi rhagorol yn yr un adeilad.

Mae'r Oriel yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ofynion arbennig, ffoniwch ymlaen llaw ar 01443 480480 a byddwn yn hapus i'ch cynghori neu’ch helpu.

Mae Oriel y Bont yn Adeilad Tŷ Crawshay ar Gampws Trefforest, Pontypridd, CF37 1DL

Dyma’r cyfarwyddiadau i’r Brifysgol ac mae yma fanylion ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus a pharcio hefyd.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch defnyddio'r oriel, ffoniwch 01443 480480 a byddwn yn hapus i'ch cynghori neu'ch helpu. I ymuno â'r rhestr bostio i gael gwybod ymlaen llaw am arddangosfeydd a digwyddiadau sydd ar ddod, e-bostiwch [email protected]

ymuno â’r rhestr bostio