Sut i Gofrestru
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr gwblhau cofrestriad ar ddechrau pob sesiwn academaidd. Cofrestru yw'r broses ffurfiol o ddod yn fyfyriwr yn y Brifysgol. Mae'r gwasanaeth cofrestru ar-lein yn eich galluogi i gwblhau'r broses hon ar-lein.
Cyn i chi allu cofrestru ar-lein, rhaid i chi wneud cais i astudio'ch cwrs dewisol. Os ydych yn cyrraedd i gofrestru ac nad ydych wedi gwneud cais dilynwch y cyswllt lle gallwch wneud a chyflwyno cais i astudio eich cwrs dewisol.
Byddwch yn derbyn e-bost yn cynnwys eich rhif adnabod myfyriwr. Hwn fydd eich enw defnyddiwr ar gyfer eich cyfrif TG drwy gydol eich amser yn y Brifysgol. Sicrhewch eich bod yn cofrestru ar-lein cyn gynted ag y byddwch yn derbyn eich e-bost. Y cam cyntaf yw sefydlu eich cyfrif TG, y cam nesaf fydd cwblhau Cofrestru Ar-Lein.
Pan fyddwch wedi cwblhau cofrestru ar-lein, byddwch yn gallu casglu eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr.
I sefydlu taliad(au) ffioedd dysgu, ewch i'r Ganolfan Talu am fwy o wybodaeth.
Anfonir gwahoddiad atoch i'ch cyfrif e-bost personol pan fydd y gwasanaeth ar agor i chi ei gofrestru.
Os ydych chi'n gymwys i ddefnyddio'r gwasanaeth cofrestru ar-lein, byddwch wedi derbyn e-bost i'ch cyfrif e-bost Prifysgol yn cadarnhau eich cymhwysedd. Bydd neges bersonol yn cael ei dangos ar UniLife yn eich hysbysu bod y gwasanaeth ar gael i chi. Os bydd yn rhaid i chi ailsefyll unrhyw fath o asesiad, byddwch yn gymwys i gofrestru ar-lein ar ôl i chi lwyddo.
Mewngofnodwch i'ch cyfrif UniLife i gychwyn y broses gofrestru a gwirio a ydych yn gymwys i gofrestru a chychwyn y broses.
Mae gwybodaeth gofrestru ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol newydd a rhai sy'n dychwelyd, ynghyd â gofynion monitro presenoldeb, ar gael yma.
Mae gwybodaeth gofrestru ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol newydd a rhai sy'n dychwelyd, ynghyd â gofynion monitro presenoldeb, ar gael yma.
RHAID i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd mewn Colegau Partner gofrestru'n gyntaf gyda'u coleg.
Dim ond ar ôl gwneud hynny y gallant symud ymlaen gyda chofrestriad PDC.