Dylech nodi bod ffi o £10 ar gyfer y gwasanaeth hwn, a throsiant o 10 diwrnod gwaith o dderbyn y taliad.

Mae'r llythyr yn cadarnhau'r canlynol:

  • Y cwrs a astudiwyd
  • Dyddiadau mynychu
  • Y dyfarniad a gafwyd (os yw'n berthnasol)
  • Iaith astudio

Ffurflen Gydsynio / Prawf o Hunaniaeth

Ceisiadau gan gyn-fyfyrwyr - Os ydych chi'n gyn-fyfyriwr sy'n gwneud cais, bydd angen i chi lwytho sgan neu lun o brawf o hunaniaeth â llun ohonoch e.e. trwydded yrru neu basbort

Ceisiadau gan drydydd partïon (e.e. cwmnïau olrhain geirdaon) - Yn anffodus, dim ond gan drydydd partïon sydd â ffurflen gydsynio Prifysgol De Cymru wedi'i llenwi a'i hatodi y gallwn ni dderbyn ceisiadau. Lawrlwythwch y ffurflen gydsynio a'i hatodi wrth lenwi'r ffurflen ar-lein.  Ni ddylech atodi unrhyw ffurflen gydsynio arall, gan na fyddan nhw'n cael eu derbyn.

Bydd yr holl fanylion personol a ddarperir yn cael eu cadw a'u prosesu gan y Brifysgol yn unol â'r ddeddf diogelu data.  I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r Brifysgol yn defnyddio eich data personol, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd.  

Ar ôl llenwi'r ffurflen ar-lein a lanlwytho'r ffurflen gydsynio, byddwch yn cael ymateb awtomatig yn nodi sut mae gwneud y taliad o £10.

GWNEWCH EICH CAIS YMA