Cyrraedd Yma

Cyrraedd ein Campws yng Nghaerdydd

Wedi'i leoli yng nghanol Canol Dinas Caerdydd, mae'n hawdd cyrraedd y campws mewn car ac mae ganddo gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol.

Ymweld â ni
Abstract view of the University's Cardiff Campus.

Cyfarwyddiadau

Prifysgol De Cymru 
86-88 Adam St. 
Caerdydd  
CF24 2FN 

Ffôn: +443455760101 
E-bost: [email protected] 

O gyffyrdd 29, 32 neu 33 o'r M4. 

Mae maes parcio mawr gyferbyn ag adeilad ATRiuM ar Adam Street, gellir dod o hyd i barcio amgen yn Knox Road. 

Mae angen i chi droi i'r chwith oddi ar Fitzalan Place i gyrraedd maes parcio Knox Road os ydych chi'n dod o adeilad ATRiuM. 

Y cod post yw CF24 2FN. 

Mae'r ATRiuM yn daith gerdded 10 munud o Orsaf drenau Caerdydd Canolog a thaith gerdded 5 munud o Orsaf drenau Caerdydd Heol y Frenhines. 

Peidiwch â cholli'r cyfle i arbed rhywfaint o arian. Mae GWR yn cynnig prisiau tocynnau cystadleuol a heb unrhyw ffioedd archebu, gallwch deithio’n hyderus. 

Gwasanaethir Caerdydd yn rheolaidd gan gwasanaethau National Express o Erddi Sofia a Megabus o Kingsway.  

Mae yna hefyd wasanaethau uniongyrchol i ac o feysydd awyr Heathrow, Gatwick, Stansted a Bryste.  

Mae Gerddi Soffia 25 munud ar droed o'r ATRiuM tra bod Ffordd y Brenin 15 munud i ffwrdd ar droed. 

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd 11 milltir o ganol y ddinas ac yn cael ei wasanaethu gan gysylltiadau bysiau a rheilffyrdd rheolaidd.  

Mae Maes awyr Heathrow yn Llundain tua dwy awr a hanner i ffwrdd ac mae yna hefyd maes awyr ym Mryste. 

student-25

Cyfle i Adnabod Caerdydd

O fannau teithio sy’n hawd i’w gyrraedd, i sinemâu, bwyd stryd, theatr fyw, siopau coffi, chwaraeon byd-eang, cerddoriaeth, gwyliau a chymaint mwy, ni fyddwch byth yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i ffordd i dreulio'ch amser.