argus south

DIGWYDDIADAU TRAFODAETH PANEL AR-LEIN SOUTH WALES ARGUS

Cefnogodd ein tîm South Wales Argus trwy gyflwyno eu digwyddiadau trafodaeth panel ar-lein diweddaraf.  Fe wnaeth un ohonynt ganolbwyntio ar adfywio Casnewydd, a’r llall ar ailddechrau’r diwydiant twristiaeth.  Roedd y ddau ddigwyddiad yn cynnwys llu o ffigurau proffil uchel yn y diwydiant.

Roedden ni’n gyfrifol am drefnu’r digwyddiad ar-lein, rheoli’r feddalwedd, briffio aelodau’r panel, ateb unrhyw ymholiadau gan gynrychiolwyr neu siaradwyr cyn y digwyddiad, a delio â chwestiynau a ofynnwyd i’r panel yn ystod y digwyddiad.  Ffilmiwyd trafodaethau’r panel ac anfonwyd y ddolen i’r ffilmiau hyn i’r Argus i’w dosbarthu ymhlith eu darllenwyr fel sesiwn wedi’i recordio. 

Dywedodd golygydd y South Wales Argus, Gavin Thompson: “Roedd cymaint yn haws i ni gynnal ein digwyddiadau oherwydd Katrina a thîm digwyddiadau Prifysgol De Cymru. Trwy ddarparu’r gefnogaeth y tu ôl i’r llenni, roedd modd i fi ganolbwyntio ar gynnal y drafodaeth fyw.

“Buon ni’n gweithio’n agos gyda thîm y brifysgol trwy gydol cyfnod cynllunio a chyflwyno’r digwyddiad, a gyda’n gilydd, fe wnaethon ni gyflwyno cynnwys a oedd yn ddifyr a defnyddiol i’n cynulleidfa o berchnogion busnes.”

USW logo colour BILINGUAL (PNG) Email

DIWRNOD CYFLWYNO YMCHWILWYR ÔL-RADDEDIG AR-LEIN PRIFYSGOL DE CYMRU 2020

Buom yn gweithio ar ran Ysgol y Graddedigion ym Mhrifysgol De Cymru ym mis Gorffennaf 2020 i gyflwyno’r gefnogaeth i’r digwyddiad ar-lein ar gyfer eu Diwrnod Cyflwyno Ôl-raddedigion 2020.

Roedd y digwyddiad rhithwir diwrnod llawn yn cynnwys dros 50 o gynrychiolwyr ar-lein, a mwy na 20 o gyflwyniadau.  Fe wnaethom ddarparu dwy sesiwn friffio ar wahân cyn y digwyddiad i feirniaid a siaradwyr fel ei gilydd, i sicrhau bod y digwyddiad yn mynd yn esmwyth ar y diwrnod.

Yn ogystal â gweithgareddau rhithwir y brif ystafell, fe wnaethom sefydlu ystafelloedd cyfarfod preifat ar-lein er mwyn i feirniaid drafod enillwyr ac i unigolion wneud cyflwyniadau i feirniaid mewn gofod cyfarfod preifat ar-lein.

Ein rôl ni oedd cysylltu â’r rheiny a oedd yn cynnal y digwyddiad i sicrhau bod y digwyddiad yn cadw at yr amserlen, ac ateb unrhyw ymholiadau technegol yn ystod y diwrnod.

Dywedodd y Rheolwr Prosiect ar gyfer y Diwrnod Cyflwyno, Llinos Spargo: “A ninnau yng nghanol pandemig byd-eang, roedd ceisio symud ein diwrnod cyflwyno Ymchwilwyr Ôl-raddedig i fod yn ddigwyddiad ar-lein yn hynod anodd a braidd yn frawychus.  Ar ôl siarad â Katrina a’i thîm, roedd newid i gyflwyno’r digwyddiad ar-lein yn hawdd. Roedd gweithio gyda’r tîm cynadledda a digwyddiadau yn ystod y cyfnod trefnu ac ar ddiwrnod y digwyddiad yn broses ddi-dor; roedd y sesiynau briffio ar gyfer y cyflwynwyr a’r beirniaid wedi’u trefnu’n rhagorol, felly hefyd y drefn ar gyfer y diwrnod”.

ASTUDIAETHAU ACHOSION DIGWYDDIADAU BYW

House of Lords partnership event.jpg

PRIFYSGOL DE CYMRU YN NHŶ’R ARGLWYDDI 2020 

Ym mis Chwefror 2020, fel rhan o Wythnos Cymru yn Llundain, fe wnaethom drefnu derbyniad corfforaethol yn Nhŷ’r Arglwyddi, lle cyflwynwyd llu o randdeiliaid proffil uchel i ystod drawiadol Prifysgol De Cymru o bartneriaethau diwydiant.

Roeddem ni’n gyfrifol am gysylltu â’r lleoliad, trefnu’r cyflenwadau offer clyweledol, rheoli ymatebion rhestr y gwesteion a briffio gwesteion ar y protocolau llym ar gyfer cyrraedd Tŷ’r Arglwyddi, a goruchwylio’r digwyddiad ar y diwrnod.

Dywedodd Sian Oborne, Pennaeth Swyddfa Weithredol Prifysgol De Cymru: ‘Diolch o waelod calon am eich holl waith caled, eich hyblygrwydd a’ch diwydrwydd wrth drefnu digwyddiad mor llwyddiannus.

Roedd yn bleser gweithio gyda Katrina a’r tîm, a ddeliodd â phopeth yn wych a gyda chwaeth, creadigrwydd a phroffesiynoldeb llwyr.’

Hannah Fry - Royal Institution Christmas Lecture

CYFRES DARLITHOEDD NADOLIG Y SEFYDLIAD BRENHINOL

Ym mis Rhagfyr 2019, buom yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr academaidd a myfyrwyr i gyflwyno digwyddiad byw ar bob un o’n tri champws (Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd) ar ran y Sefydliad Brenhinol yn Llundain.

Roedd y digwyddiad unigryw hwn, a ailadroddwyd ym mhob lleoliad, yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd yn gwylio ffilmiau y tu ôl i’r llenni o Ddarlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol, a ddangoswyd ar y teledu ychydig wythnosau yn ddiweddarach.

Roedd ein tîm yn gyfrifol am gofrestru’r digwyddiadau ar-lein, rheoli rhestrau gwesteion a oedd yn mynychu, goruchwylio’r cyflenwr offer clyweledol, cysylltu â’r adran Ystadau, Diogelwch ac Arlwyo i gyflwyno’r digwyddiad a goruchwylio pob digwyddiad ar y diwrnod, er mwyn sicrhau y glynwyd at yr amserlen.

Dywedodd y Dr Stewart Eyres: “Byddai cynnal y digwyddiad proffil uchel hwn gyda phartner sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol ar draws pob un o’n tri safle wedi bod yn amhosibl heb y gefnogaeth a’r cydlynu gwych gan y tîm Cynadledda a Digwyddiadau. Roedden nhw’n allweddol i ddarparu profiad proffesiynol a difyr ar gyfer aelodau’r cyhoedd a fynychodd.”

USW logo colour BILINGUAL (PNG) Email

CYNHADLEDD Y BARTNERIAETH ARLOESI YM MYD ADDYSG (PIE) 2020

Buom yn cydweithio ag un o dimau prosiect Prifysgol De Cymru a’r Dr Francis Cowe i gyflwyno Cynhadledd y Bartneriaeth Arloesi ym Myd Addysg yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddechrau mis Mawrth 2020 ar gyfer 200 o gynrychiolwyr.

Daeth y digwyddiad hwn â’r holl sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn Ne Cymru at ei gilydd, a oedd wedi bod yn cydweithio ar brosiect arloesi am y 18 mis diwethaf, a bu’r digwyddiad hwn yn arddangos llwyddiannau’r prosiect. 

Roedd ein rôl yn cynnwys dod o hyd i leoliad addas, cysylltu â’r lleoliad a’r tîm arlwyo, sefydlu’r system gofrestru ar-lein a monitro niferoedd y cynrychiolwyr, hyrwyddo’r digwyddiad ymhlith cynulleidfaoedd ehangach, trefnu’r gofynion clyweledol, fel llwyfan, sain / goleuadau, a briffio’r holl arddangoswyr a siaradwyr cyn y digwyddiad.

Ar y diwrnod, roedd ein rôl yn cynnwys rheoli’r ddesg gofrestru, dosbarthu bathodynnau, sicrhau bod y digwyddiad yn cadw at yr amserlen a bod yn brif gyswllt ar gyfer y lleoliad, y siaradwyr a’r timau arlwyo.

Dywedodd Arweinydd y Prosiect, Leah Jones: “‘Roedd Katrina a Cara yn eithriadol o gymwynasgar o’r diwrnod cyntaf. Fe wnaeth eu gwybodaeth a’u profiad o drefnu digwyddiadau gyfrannu at lwyddiant y gynhadledd, a doedd dim byd yn ormod o drafferth iddyn nhw.’

USW logo colour BILINGUAL (PNG) Email

RHEITHGOR DINASYDDION 2020

Fe wnaethom ni ddarparu’r lleoliad ar gyfer Rheithgor Dinasyddion 2020; sef prosiect ymchwil ar ofal cymdeithasol yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru.  Roedd y prosiect hwn yn cynnwys ‘barnwr’ yn cyflwyno’n fyw o’n Canolfan Gynadledda yn Nhrefforest i reithgor rhithwir ar-lein, a oedd yn cynnwys aelodau cyffredin o’r cyhoedd sy’n byw ym mhob cwr o Gymru.  Clywodd y Rheithgor dystiolaeth gan dystion trwy gydol yr wythnos, ac wedyn bu’n ymgynghori ar y diwrnod olaf i roi eu dyfarniad.  Bydd yn cyhoeddi’r argymhellion hynny ar ofal cymdeithasol i Lywodraeth Cymru. 

Cyhyd ag y gwyddom ni, hwn oedd Rheithgor Dinasyddion Ar-lein cyntaf y byd, ac roedd yn hanfodol fod gan y Ganolfan Gynadledda wi-fi rhagorol er mwyn cynnal y prosiect yn llwyddiannus. Fe wnaethom gyflawni hyn heb unrhyw broblemau technegol, gan gynnwys ffrydio’r trafodion yn fyw ar amrywiaeth o blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Roedd ein cynorthwyydd TG mewnol yn gaffaeliad i’n tîm ar y prosiect hwn​. 

Roedd y prosiect 5 diwrnod wedi’i gyfyngu gan amser oherwydd y gynulleidfa rithwir, felly fe wnaeth ein tîm arlwyo ddarparu egwyliau lluniaeth a chinio ar amseroedd dynodedig i’r tîm ymchwil a oedd yn gweithio yn ein Canolfan Gynadledda.

Dywedodd y Dr Rachel Iredale, Prif Ymchwilydd: “Diolch am ofalu amdanom ni mor dda yn y Ganolfan Gynadledda drwy gydol yr wythnos. Roeddem ni’n teimlo ein bod wedi cael croeso da, yn teimlo’n ddiogel ac fe gawsom ni ofal da iawn. 

Roedd yn bwysig iawn fod fy mhrosiect ymchwil Rheithgor Dinasyddion yn mynd yn dda gan ei fod yn cael ei ddarlledu’n fyw gyda swyddogion o Lywodraeth Cymru yn cymryd rhan ac yn gwylio.  Aeth y cyfan yn esmwyth iawn o safbwynt pawb, ac rydym ni wedi cael llawer o adborth gwych, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.

A fyddech cystal â diolch i’r tîm, yn enwedig Richard, wnaeth ddatrys nifer o broblemau TG yn effeithlon iawn i ni, a Gaynor a ddaeth â bwyd a diod i ni ar yr adegau cywir.  Roedd safon y glanhau yn uchel iawn, ac roedd pob ystafell y gwnaethom ei defnyddio yn lân iawn. 

Felly diolch eto am bopeth yr wythnos ddiwethaf; fydden ni ddim wedi gallu ei wneud heboch chi!