Cyfleusterau ar gyfer digwyddiadau:
Gyda chyfleusterau cynadledda a digwyddiadau o’r radd flaenaf ar gael ar ein safleoedd yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd, gan gynnwys canolfan gynadledda ymroddedig sy’n cynnwys 11 ystafell gyfarfod ym Mhontypridd, does dim amheuaeth y gallwn ddarparu gofod i chi.
· Ystafelloedd mawr
· Theatrau cyfoes
· Neuaddau arddangos
· Ystafelloedd bwrdd gweithredol
· Stiwdio ddawns
· Ystafelloedd cyfarfod
· Gofod rhwydweithio
· Cyfleusterau digwyddiadau chwaraeon
O deithiau preswyl i weithdai, cyfarfodydd preifat i seremonïau gwobrwyo, arddangosfeydd a mwy, mae’n bosibl trawsnewid ein holl safleoedd yn ofod ar gyfer cynnal digwyddiadau unigryw.
@ Y Ganolfan Gynadledda ym Mhontypridd
Rydym yn falch o gynnal ein lleoliad cynadledda pwrpasol, sydd wedi'i leoli ar gampws Trefforest. Gydag 11 ystafell gyfarfod, mae'r ganolfan yn elwa o:
- Offer clyweledol ym mhob ystafell
- Wi-Fi am ddim
- Cymorth clyweledol safonol am ddim
- Technegydd clyweledol / TG ymroddedig trwy gydol eich digwyddiad (dim cost ychwanegol)
-
Parcio
am ddim* Cyfyngedig
- Dodrefn hyblyg
- Golau dydd naturiol
- System aerdymheru
- Dŵr potel gwydr ecogyfeillgar
- Mannau addas ar gyfer rhwydweithio a lluniaeth
- Pecynnau lluniaeth hyblyg
Ar ben hynny, gall tîm y Ganolfan Gynadledda ddarparu amcanbrisiau ar gyfer y gwasanaethau canlynol a fydd yn dyrchafu eich digwyddiad ymhellach, trwy berthnasoedd gwaith agos â chyflenwyr digwyddiadau lleol:
- Ffilmio neu ffrydio eich digwyddiad
- Systemau pleidleisio i annog rhyngweithio ac i gasglu adborth
- System archebu ar-lein
- Adloniant
- Gofynion trafnidiaeth
- Argraffu bathodynnau a choladu