Rheoli Digwyddiadau

 

Mae pob aelod o’n tîm mewnol yn rheolwr digwyddiadau profiadol, sy’n meddu ar ystod unigryw o sgiliau i ddiwallu eich anghenion cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad. Mae ein pecynnau rheoli digwyddiadau wedi’u datblygu i gefnogi cleientiaid nad oes ganddynt yr adnoddau, y sgiliau na’r adnoddau dynol angenrheidiol - neu’r rheiny sydd eisiau cymorth proffesiynol.

 

Trwy ddarparu digwyddiadau gan ddefnyddio cyfleusterau mewnol ac allanol, rydym wedi rheoli digwyddiadau allanol yn y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Castell Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru a mwy.

 

Beth bynnag rydych chi'n ei gynllunio, mae gennym bortffolio o opsiynau i greu pecyn Rheoli Digwyddiad wedi'i deilwra sy'n benodol i'ch gofynion.