Manylir ar rai o'r cyfleusterau mwyaf poblogaidd ar y campus i'w llogi isod. Mae ein holl safleoedd yn dyblu fel lleoliadau ffilmio, sydd wedi cael eu defnyddio gan y BBC, Sky a Channel 4 ar gyfer ffilmio rhaglenni teledu amrywiol ar hyd y blynyddoedd.
Theatrau Darlithio: Mae gennym sawl theatr, yn dal rhwng 150 ac 800 o
westeion, o theatrau traddodiadol i arddull cabaret. Mae pob ystafell yn cynnig
offer TG a chlyweledol integredig, gan gynnwys mynediad at gyfrifiaduron,
taflunio, sgrin a chyfleusterau siartiau troi.
Neuaddau Arddangos: Mae ein lleoliadau hefyd yn cynnwys gofod allanol ar gyfer cofrestru, arlwyo, rhwydweithio a seminarau, ac rydym yn gweithio'n ddi-dor ar y cyd â'n neuaddau cynadledda cyfagos.
Ystafelloedd Bwrdd: Mae ein holl safleoedd yn cynnwys ystafelloedd bwrdd preifat, gyda lle i hyd at 32 o gynrychiolwyr gyda llu o gyfleusterau TG a chlyweledol.
Ystafelloedd Cyfarfod: Mae pob un o’n lleoliadau’n cynnwys amrywiaeth eang o ystafelloedd cyfarfod ar gyfer cynnal cyfarfodydd un-i-un, gweithdai a mwy. Mae gennym ni’r gofod delfrydol ar eich cyfer.
Cyfleusterau Chwaraeon: Mae ein cyfleusterau chwaraeon, sydd o'r
radd flaenaf, wedi cynnal gemau Cynghrair Genedlaethol Ymddiriedolaeth
Bêl-droed Cymru, Pencampwriaethau Saethyddiaeth y Byd, Pentref Athletwyr Gemau’r
URDD, a llu o wersylloedd hyfforddi ar y lefel uchaf.