Wedi’i leoli yng nghanol y brifddinas, mae campws Atriwm PDC ychydig funudau ar droed o’r prif arcedau siopa, theatrau ac ardal caffis Caerdydd, a phum munud yn unig o Orsaf Ganolog Caerdydd. Mae yna hefyd ddigon o le parcio gerllaw, gyda’r M4 10 munud i ffwrdd mewn car.
Mae’r Atriwm yn gartref i gyfadran
diwydiant creadigol y Brifysgol ac yn cynnig ystod amrywiol o gyfleusterau cynadledda a digwyddiadau ar gyfraddau cystadleuol yng nghanol y ddinas.
CYFLEUSTERAU’R ATRIWM:
- Gofod Rhwydweithio a Chymdeithasu
- YstafelloeddCyfarfod a Chynadleddau
- Stiwdio Ddawns
- Stiwdio Deledu
- Sinema 130 sedd
- Prif ddarlithfa 160 sedd
- Siopau a chaffi
Gyda chefnogaeth tîm profiadol o weithwyr digwyddiadau proffesiynol yn barod i ddiwallu eich holl anghenion, mae’r Atriwm yn darparu cyfleusterau cynadledda a digwyddiadau cyfoes gyda’r holl fanteision o gael prifddinas ar stepen y drws
I GEFNOGI EICH DIGWYDDIAD, RYDYM YN CYNNIG:
- Wi-Fi am ddim
- Offer clyweledol
- Cefnogaeth dechnegol
- Arlwyo ar y safle a bwydlenni wedi’u teilwra’n arbennig
- Pecynnau rheoli digwyddiadau
- Pecynnau llety i fynychwyr gyda gwestai cyfagos
Mae Atriwm Caerdydd yn un o dri chyfleuster cynadleddau a digwyddiadau Prifysgol De Cymru. Mae cyfleusterau ychwanegol ac ategol wedi’u lleoli yn ein canolfan gynadledda bwrpasol ym Mhontypridd ac ar ein campws yng Nghasnewydd.


