Wedi'u creu ar y cyd â'r diwydiant, mae ein cynlluniau graddedig yn datblygu talent yn benodol ar gyfer eu maes gwaith. Gan weithio gyda Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru ac Academi Wales, mae ein darpariaeth gyfredol yn cynnwys elfen MSc Gwasanaethau Ariannol Cymru, Gwyddor Data Cymru a Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Mwy na'ch rhaglenni meistr arferol, mae'r cynlluniau wedi cael eu dylunio i fodloni galw ac anghenion y diwydiant. Mae graddedigion yn cael eu recriwtio o amryw ddisgyblaethau yn seiliedig ar y weledigaeth o greu a chadw talent yn y rhanbarth.
Rhaglen Raddedig Gwasanaethau Ariannol Cymru
Mae Rhaglen Raddedig Gwasanaethau Ariannol Cymru yn rhaglen gydweithredol, amser llawn, dwy flynedd o hyd yn cynnwys elfennau gwaith, hyfforddiant ac astudiaeth academaidd sy'n unigryw i Gymru, ac a gyd-ddyluniwyd a chyd-gyflwynir gan sefydliadau gwasanaethau ariannol blaenllaw gyda'r nod o recriwtio 40 graddedig i ddatblygu cronfa dalent o weithwyr proffesiynol y diwydiant. Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop
Ymhlith y cyflogwyr sy'n cymryd rhan mae Admiral, Atradius, Vauxhall Finance UK plc, DS Smith, Hodge Bank, Lexis Nexis, V12 Retail Finance, Composite Legal Expenses, Banc Datblygu Cymru, Optimum Credit, Principality Building Society, Legal & General, Motonovo a Monmouthshire Building Society.
Bellach yn ei 7fed blwyddyn, mae'r MSC yn cynnwys Modiwlau Dysgu Seiliedig ar Waith sy'n cyd-fynd â'u prosiectau yn y gweithle. Mae hyn yn rhoi gwir fuddion i'r graddedigion a'r cyflogwyr. Hyd yn hyn, mae 95% o'r graddedigion a gwblhaodd y rhaglen wedi cael eu cyflogi gan aelod o'r consortiwm neu gwmnïau gwasanaethau ariannol eraill yn y rhanbarth.
Mwy Yma
Rhaglen raddedig gwyddor data Cymru
Diffinnir gwyddor data fel maes aml-ddisgyblaethol sy'n defnyddio dulliau, prosesau, algorithmau a systemau gwyddonol i echdynnu gwybodaeth a mewnwelediadau o ddata i ddatrys problemau. Yn seiliedig ar yr un model o gyflwyno â'r rhaglenni Gwasanaethau Ariannol, mae'r graddedigion yn cael eu lleoli mewn consortiwm o gyflogwyr ac yn cwblhau 3 lleoliad o fewn 8 mis. Maen nhw'n gweithio ar brosiectau ar gyfer eu modiwlau dysgu seiliedig ar waith sy'n cael effaith ar y busnesau maen nhw'n cael eu lleoli ynddynt er mwyn helpu i wella'r cynnyrch maen nhw'n cynnig.
Ymhlith y cyflogwyr sy'n cymryd rhan mae ActiveQuote, Admiral Group, Atradius, Centrica, GoCompare, Henry Howard Finance, Hodge Bank, LexisNexis Risk Solutions, MotoNovo Finance, Optimum Credit a Principality Building Society, Pricewaterhousecoopers, Talent Ticker.
Mae'r swyddi arferol yn cynnwys Modelwr Ystadegol, Peiriannydd Data, Dadansoddwr Mesurol, Dadansoddwr Risg Credyd, Dadansoddwr Prisio a Modelwr Daroganol/Gwyddoniaeth Penderfyniadau.
Mwy Yma
Rhaglen raddedig gwasanaethau cyhoeddus Cymru gyfan
Menter gan Academi Wales yw'r rhaglen hon i raddedigion a ddyluniwyd yn benodol i ddatblygu talent yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau arweinyddiaeth gref ar gyfer y dyfodol ac i roi hwb i agenda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ac ymgorffori Gwerthoedd Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru. Mae graddedigion yn astudio'r Radd Meistr mewn Arwain a Rheoli wrth iddynt weithio ar gylchdro o fewn clwstwr rhanbarthol. Mae'r MSc yn mynd i'r afael â'r theorïau arwain, arferion gorau a datblygiadau diweddaraf ac yn rhoi hyn ar waith yn y gweithle wrth i'r graddedig gwblhau modiwlau dysgu seiliedig ar waith a thraethawd hir ar sector penodol yn trafod materion go iawn yn y gwasanaetha gyhoeddus.
Mwy yma