Nod y Clinig Busnes yw datblygu’r berthynas rhwng y byd academaidd a diwydiant, sy’n galluogi myfyrwyr PDC i ennill y sgiliau personol, yr ymwybyddiaeth a’r ddisgyblaeth sy’n hanfodol yn y gweithle.
Mae’n gynllun addysg lle mae grŵp o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn ‘cwmni ymgynghori’ er mwyn rhoi cyngor i’n cleientiaid. Cynigir y gwasanaeth i gwmnïau o bob math, o fusnesau bach a chanolig, i sefydliadau aml-genedlaethol ac nid-er-elw. Mae’r myfyrwyr yn mynd at wraidd y broblem, sy’n arwain at adroddiad manwl a chyflwyno eu hargymhellion.

Sut mae’n gweithio:
Yn y flwyddyn olaf, mae myfyrwyr yn cynnig profiad ymgynghori llawn. Ar ôl cwmpasu’r prosiect, gall cleientiaid ddisgwyl grwpiau o dri/pedwar myfyriwr i fynd i’r afael â phroblem y sefydliad mewn ffordd ymarferol. Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu ymweld â’r sefydliad, cyfathrebu â chleientiaid ynglŷn â’u cynnydd, cynnal gwaith ymchwil sylfaenol neu eilaidd ar ran y cleient ac, yn olaf, gwneud argymhellion ar ffurf adroddiadau a chyflwyniadau.
Meysydd cymorth posibl:- Adolygiad logisteg ac argymhellion
- Archwiliad adnoddau dynol ac argymhellion
- Astudiaethau dichonoldeb ar benderfyniadau strategol neu ehangu
- Marchnata digidol ac archwiliadau’r cyfryngau cymdeithasol
- Adolygiadau marchnata strategol
- Perthynas tair ffordd (Sefydliadau / Ysgolheigion / Myfyrwyr)

Os oes gan eich sefydliad broblem benodol neu fwlch yn ei wybodaeth, byddai’r Clinig Busnes yng Nghyfnewidfa PDC wrth ei fodd petaech yn cysylltu â ni.