MAE NEWIDIADAU AR DROED
Mae angen set unigryw o sgiliau ac ymddygiadau i ddod yn arweinydd newidiadau. Darganfyddwch a datblygwch y cryfderau sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth go iawn gyda chynnig Arweinyddiaeth a Rheoli Strategol Datblygiad Proffesiynol PDC. Bydd y rhaglen hon yn eich gadael yn barod i arwain. Drwy gyfrwng dysgu drwy brofiadau, byddwch yn herio eich agwedd, yn ogystal â chanfod cyfleoedd i’ch sefydliad sicrhau datrysiadau digidol mwy effeithiol, datblygu ei ecosystemau a sbarduno newidiadau arwyddocaol.
Cysylltwch â ni

P'un a ydych chi'n uwch reolwr neu'n dyheu am arweinyddiaeth, pŵerwch eich llwybr i lwyddiant drwy fynd â'ch sgiliau i lefel newydd.

I reolwyr canol sy'n ceisio sbarduno newid, magu hyder a chymryd y cam nesaf i arweinyddiaeth.

Rydym yn cynnig amrediad o gyrsiau arbenigol, gan roi cyfle i chi adnewyddu eich gwybodaeth, i ennill oriau datblygiad proffesiynol parhaus neu i archwilio maes newydd i ddiddordeb.
Gellir cyflwyno'r cyrsiau uchod drwy ein rhaglen mynediad agored (rhithwir) neu fel rhaglenni teilwredig o fewn eich sefydliad. Os ydych yn bwriadu cael gafael ar gyllid ar eich cyfer chi neu'ch sefydliad, archwiliwch ein llwybrau ariannu neu gwnewch ymholiad i siarad â'n cynghorwyr.