
Mae Newidiadau ar Droed
Mae angen set unigryw o sgiliau ac ymddygiadau i ddod yn arweinydd newidiadau. Meistrolwch nhw gyda rhaglen Arweinyddiaeth a Rheoli PDC, a thrawsnewidiwch nid yn unig eich yfory, ond yfory eich tîm, sefydliad a thu hwnt. Mae gwir arweinwyr yn synio am yr hyn sy’n bosib, ac yn helpu eu pobl i wneud iddo ddigwydd. Caiff arweinyddiaeth ei hun ei lunio drwy symud eich ymagwedd ymlaen. Darganfyddwch a datblygwch y cryfderau sydd angen arnoch i wneud gwahaniaeth go iawn. Drwy fyfyrio hollbwysig, byddwch yn herio eich meddylfryd eich hun, yn ogystal â chanfod cyfleoedd i’ch sefydliad ddatblygu. Cynlluniwyd y rhaglen hon i’ch cymhwyso gyda gwybodaeth a hyder, fydd yn fodd i chi wireddu datrysiadau digidol mwy effeithiol a sbarduno newidiadau arwyddocaol.
Os ydych yn rheolwr canol ar hyn o bryd neu’n anelu at fod, gyrrwch eich llwybr i lwyddiant drwy fynd â’ch set sgiliau i safon strategol newydd, a datblygu i fod y grym trawsnewidiol sydd ei angen ar eich sefydliad.
Mae Newidiadau ar Droed
CYSYLLTWCH Â NI
E-bost: [email protected]
Gellir darparu'r cyrsiau uchod trwy ein rhaglen mynediad agored (rhithwir) neu fel rhaglenni pwrpasol yn eich sefydliad. Os ydych yn gobeithio cael gafael ar gyllid ar eich cyfer chi neu eich sefydliad, archwiliwch ein llwybrau cyllido neu wneud ymholiad i siarad â'n cynghorwyr.

Nod y rhaglen hon yw eich helpu i greu map ffordd newydd i gefnogi eich tîm a'ch sefydliad wrth lywio trwy newid

Cryfhau eich sgiliau a chadw i fyny gyda'r meddylfryd busnes diweddaraf ar ein hystod o ddosbarthiadau meistr rhyngweithiol, rhyngweithiol, hanner diwrnod arbenigol.