
Mae angen set unigryw o sgiliau ac ymddygiadau i ddod yn arweinydd newidiadau. Darganfyddwch a datblygwch y cryfderau sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth go iawn gyda chynnig Arweinyddiaeth a Rheoli Strategol Datblygiad Proffesiynol PDC.
Bydd y rhaglen hon yn eich gadael yn barod i arwain. Drwy gyfrwng dysgu drwy brofiadau, byddwch yn herio eich agwedd, yn ogystal â chanfod cyfleoedd i’ch sefydliad sicrhau datrysiadau digidol mwy effeithiol, datblygu ei ecosystemau a sbarduno newidiadau arwyddocaol. Mae gwir arweinwyr yn synio am yr hyn sy’n bosib, ac yn helpu eu pobl i wneud iddo ddigwydd. Os ydych yn uwch reolwr ar hyn o bryd neu’n anelu at arweinyddiaeth, gyrrwch eich llwybr i lwyddiant drwy fynd â’ch set sgiliau i safon newydd, a datblygu i fod y grym trawsnewidiol sydd ei angen ar eich sefydliad.
CYSYLLTWCH Â NI
E-bost: [email protected]
Gellir darparu'r cyrsiau uchod trwy ein rhaglen mynediad agored (rhithwir) neu fel rhaglenni pwrpasol yn eich sefydliad. Os ydych yn gobeithio cael gafael ar gyllid ar eich cyfer chi neu eich sefydliad, archwiliwch ein llwybrau cyllido neu wneud ymholiad i siarad â'n cynghorwyr.

This programme aims to help you forge a new roadmap to support your team and organisation in navigating through change

Strengthen your skills and keep pace with the latest business thinking on our range of expert-led, interactive, half-day masterclasses.