Canolfan Hyfforddi Cymru
Mae Canolfan Hyfforddi Cymru yn ganolfan o ragoriaeth ym maes coetsio yng Nghymru. Rydym yn cefnogi datblygiad a thwf hyfforddwyr trwy hyfforddiant, cymwysterau a'n gymuned o ymarfer
Mae coetsio'n golygu sgwrs rhwng yr hyfforddwr a'r cleient, gyda'r ffocws ar amcanion, strategaethau a chyrhaeddiad y cleient. Mae coetsio'n ymyrraeth hynod graff a phwerus, lle bydd unigolion yn tyfu, yn adlewyrchu ac yn dod yn ymwybodol o'u gwir amcanion trwy eglurder ac archwiliad.
Ar lefel sefydliadol, mae coetsio'n gallu symud hyd yn oed y busnes mwyaf cymhleth i fod yn sefydliad dysgu gyda diwylliant sy'n sicrhau datblygiad i unigolion ac sy'n hyrwyddo dysgu fel modd o 'fod', yn syml trwy gael sgyrsiau mewn arddull coetsio.
Gallwch ymuno ag un o'n cyrsiau agored, neu gallwn gyflwyno rhaglen deilwredig yn fewnol yn eich sefydliad.
CYSYLLTWCH Â NI
E: [email protected]
F: 01443 482482
Twitter: @MasnacholPDC
Gellir cyflwyno'r cyrsiau uchod drwy ein rhaglen mynediad agored (rhithwir) neu fel rhaglenni teilwredig o fewn eich sefydliad. Os ydych yn bwriadu cael gafael ar gyllid ar eich cyfer chi neu'ch sefydliad, archwiliwch ein llwybrau ariannu neu gwnewch ymholiad i siarad â'n cynghorwyr.