CYNGHRAIR HYFFORDDI CYMRU GYFAN
Amdanom Ni
Rhwydwaith hyfforddwyr annibynnol, nid er elw yw Cynghrair Hyfforddi Cymru Gyfan ac fe’i sefydlwyd yn 2019 gan grŵp o hyfforddwyr o’r un anian, a oedd yn awyddus i ehangu’r arfer da o hyfforddi yng Nghymru yn wirfoddol. Gweledigaeth a diben y grŵp hwn yw hyrwyddo a chynnal rhwydwaith bywiog ar gyfer ymarfer hyfforddi ledled Cymru. Mae ymuno a bod yn rhan o'r mudiad hwn ar gyfer hyfforddi yng Nghymru yn rhad ac am ddim
Ymwadiad: Mae PDC yn gysylltiedig â Chynghrair Hyfforddi Cymru Gyfan ac mae ei chyfranogiad yn wirfoddol. Mae PDC yn cynnal y tudalennau gwe a'r rhith amgylchedd dysgu yn rhad ac am ddim a heb ragfarn.
Cychwyn y ganolfan
Nod y grŵp yw rhannu ymchwil, ymarfer, technegau a digwyddiadau a fydd yn datblygu’r frawdoliaeth hyfforddi yng Nghymru tuag at gymuned ymarfer.
Diben ac Amcanion:
Pwrpas Cynghrair Hyfforddi Cymru gyfan yw creu cysylltiad rhwng grwpiau hyfforddi ledled Cymru a thu hwnt. Yn darparu arena ar gyfer trafodaeth, calendr canolog ar gyfer digwyddiadau ac ystorfa o adnoddau ac ymchwil i bob hyfforddwr yng Nghymru.
Ein nod yw darparu lle ar gyfer myfyrio dwfn a chysylltiad i wella ein harfer hyfforddi yn barhaus. Rydym yn cwrdd i gefnogi ein gilydd ac i fod o fudd i'r gymuned yr ydym yn rhan ohoni, trwy fod y gorau y gallwn fod.
Rydym yn cysylltu a chryfhau rhwydweithiau hyfforddi presennol ac yn cysylltu hyfforddwyr o bob sector er mwyn:
- Rhannu profiad, darparu cyfleoedd cyd-hyfforddi, goruchwylio a datblygu.
- Cefnogi sefydliadau sy'n ceisio ymgorffori hyfforddiant yn eu diwylliant
- Newid ansawdd sgyrsiau yn y gweithle.
- Dysgu o'n gilydd.
- Helpu Cymru a'r gymdeithas ehangach i ddod yn gymuned ddysgu dan arweiniad cynaliadwyedd.
Ein Hymrwymiad:
Y nod yw cyflawni hyn trwy ddwyochredd a chyd-gefnogaeth, wrth gadw at ein cod ymddygiad. Mae aelodau'r gynghrair yn cytuno i'r canlynol:
- bod yn bresennol a pharchu aelodau eraill y Gynghrair
- bod yn anfeirniadol, gan ddarparu man diogel ar gyfer trafodaeth agored a gonest
- bod yn gefnogol ac yn galonogol
- cadw ffydd, gan ddiogelu preifatrwydd aelodau'r Gynghrair
- peidio â defnyddio'r grŵp hwn fel man i farchnata gwasanaethau a chynnyrch a gynigir gan aelodau.
Aelodaeth y Gynghrair:
Mae aelodaeth y gynghrair yn agored i bob hyfforddwr ledled Cymru a hoffai fod yn rhan o fudiad yng Nghymru i yrru agenda ymarfer hyfforddi ymlaen, archwilio'r newydd a rhannu dysgu mewn amgylchedd cefnogol diogel. Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim. Gofynnwn i bob aelod gyfrannu'n gadarnhaol i helpu i gefnogi eraill i ymestyn eu harfer hyfforddi.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected]
Gwahoddiad i ymuno â Chynghrair Hyfforddi Cymru
Ydych chi'n hyfforddwr proffesiynol neu'n rhywun sy'n ceisio defnyddio sgiliau hyfforddi yn eich gwaith bob dydd neu yn eich cymuned? Gallwch ein helpu i greu cymuned ymarfer hyfforddi gryfach trwy wneud y canlynol:
CYSYLLTWCH Â NI
Os oes gennych rywbeth i'w gynnig, neu os hoffech gymryd rhan, cliciwch ar y cwmni yr hoffech drafod eich opsiynau ag ef.
Partners
