SUT I GYLLIDO EICH CWRS AR-LEIN
Yn PDC, mae gennym yr adnoddau ariannol a’r gefnogaeth i’ch helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol proffesiynol.
Mae amrywiaeth o opsiynau i’w hystyried wrth benderfynu sut i gyllido eich cwrs ar-lein:
- Hunan gyllido – Os ydych yn bwriadu cyllido dysgu ar-lein eich hunan, mae’r dewis gennych i rannu’r gost a thalu fesul rhandaliad.
- Cyllido rhannol neu gyflawn gan gyflogwr – Os oes gan eich cyflogwr gyllideb ar gyfer hyfforddi, mae’n bosibl y bydd modd i chi sicrhau cyllido cwrs yn rhannol neu’n gyflawn. Siaradwch ag aelod o’ch tîm AD.
- Defnyddio ein ffynonellau cyllido – Mae sawl cynllun cyllido ar gael, weithiau wedi’u cyllido gan y llywodraeth neu yn rhan o fframwaith cymeradwy ar gyfer dysgu a datblygu.
CYSYLLTWCH Â NI
EIN CYFLEOEDD CYLLIDO
Efallai eich bod yn gymwys i dderbyn cyllido rhannol neu gyflawn ar gyfer rhai o’r cyrsiau rydym yn eu cynnig. I ddarganfod os oes modd i chi gael mynediad i’ch cwrs drwy lwybr cyllido, edrychwch isod.
Mae’n werth gwneud ymchwil i weld beth sydd ar gael cyn gynted â phosibl, gan neilltuo digon o amser i wirio os ydych yn gymwys i dderbyn cyllido allanol a chofio am unrhyw derfynau amser cysylltiedig ar gyfer cyllido neu wneud cais am gyrsiau eu hunain.
Mae’r arfau a’r adnoddau ar gael gennym i archwilio’r hyn fydd yn eich helpu i wneud penderfyniad cytbwys. Neu gallwch drefnu ymgynghoriad 1-1 gyda’n tîm. I wneud hyn, byddwch cystal â llanw ein ffurflen ymholiad.

Ar gyfer unigolion yng Nghymru sy’n ennill llai na £29,534 y flwyddyn.

Ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Ar gyfer unrhyw unigolyn sydd â diddordeb mewn ymuno â sesiwn flasu fer

Ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n gweithio o fewn sefydliad yng Nghymru neu Loegr
Cyfraddau consesiynol
Mae gostyngiad ar gael ar gynhyrchion dethol ar gyfer archeb luosog.
Mae gostyngiad o 10% hefyd ar gyfer unrhyw fyfyriwr PDC, aelod o staff neu Gyn-fyfyrwyr.
Mae gennym hefyd ostyngiad o 10% i groesawu cwsmeriaid newydd. I drafod y cyfraddau hyn, siaradwch ag aelod o'n tîm wrth archebu.
Sylwch, nid yw cyfraddau consesiynau'n berthnasol os ydych yn defnyddio ein rhaglenni drwy lwybr a ariennir.