Helpu Gweithwyr Proffesiynol i Lwyddo
Mae ein hamrediad cyffrous o gyrsiau arbenigol yn ffordd wych o symud ymlaen yn eich gyrfa, i ddysgu gwybodaeth ddiweddaraf y diwydiant neu i ddysgu rhywbeth newydd.
Mae ein cyrsiau byr wedi'u cynllunio ar gyfer unigolion sydd am loywi neu ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd mewn maes penodol. Gallwch gyfuno unrhyw ddetholiad o raglenni i greu eich taith ddysgu eich hun lle rydych yn gosod y cyflymder.
Mae'r rhaglenni hyn hefyd yn cynnig ffordd hyblyg a chost-effeithiol i sefydliadau ddatblygu unigolion neu dimau. Gallwn addasu unrhyw gyfuniad o raglenni gydag elfennau pwrpasol ychwanegol i greu atebion newydd wedi'u teilwra i anghenion eich sefydliad.
CYSYLLTWCH Â NI
E: [email protected]
F: 01443 482482
Twitter: @USWCommercial
Arweinyddiaeth
Wedi'i ddylunio i arfogi arweinwyr gyda'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol i arwain timau mewn byd busnes sy'n newid yn barhaus.
Cinio Dysgu
Cymerwch seibiant a dysgwch rywbeth newydd gyda ni.
Bydd ein sesiynau micro-ddysgu yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau o fewn gwahanol feysydd pwnc sy'n ceisio tanio eich diddordeb a darparu tecawê y gallwch ei roi ar waith ar unwaith yn y gweithle.
Rheoli Prosiect
Mae'r cyrsiau hyn yn canolbwyntio ar wybodaeth a sgiliau rheoli prosiectau eang ar draws cylch bywyd y prosiect.
Trawsnewid Digidol
Yn y cyrsiau byr hyn byddwch yn archwilio sut mae'r dirwedd dechnolegol sy'n symud yn dod â buddion iddo y gellir eu harnesu gan eich sefydliad er budd eich gweithwyr a'ch cwsmeriaid
Cyrsiau byr ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol
Mae'r rhaglenni hyn hefyd yn cynnig ffordd hyblyg a chost-effeithiol i sefydliadau ddatblygu unigolion neu dimau. Gallwn addasu unrhyw gyfuniad o raglenni gydag elfennau pwrpasol ychwanegol i greu atebion newydd wedi'u teilwra i anghenion eich sefydliad. Gwnewch ymholiad i gael ymgynghoriad pwrpasol.