Trawsnewid digidol a phenderfyniadau wedi'u gyrru gan ddata
Nid prosiect technoleg yn unig yw Trawsnewid Digidol, mae'n brosiect pobl.
Trawsnewid digidol yw’r broses o ddefnyddio technolegau digidol i greu prosesau busnes, diwylliant, a phrofiadau cwsmeriaid newydd - neu addasu rhai cyfredol i fodloni gofynion newidiol busnesau a'r farchnad. Trawsnewid digidol yw ail-drefnu busnes yn yr oes ddigidol.
Mae data yn dweud cymaint wrthym am y byd rydyn ni'n byw ynddo, y bobl a'r cwsmeriaid rydyn ni'n gweithio gyda nhw a sut gallwn ni ddatblygu a gwella. Sut allwn ni ddefnyddio hyn er budd i ni a gwneud gwelliannau mawr ym mhroses fusnes, diwylliant a phrofiadau cwsmeriaid ac yn y pen draw symud ein busnesau ymlaen yn y byd newydd. Mae'r podlediad hwn yn archwilio'r hyn y gall data ei ddweud wrthym, yr hyn y dylem fod yn ei wneud ag ef i gael atebion i gwestiynau am ein busnes
Gwestai: Paul Laughlin
Os ydych am glywed mwy o’r Podlediad Rheoli Newid neu’r rhaglen Crewyr Newid, cliciwch yma. Diolch am wrando a diolch i’n gwestai Paul Laughlin.