Ar gyfer sefydliadau gyda heriau penodol, gallwn greu rhaglenni teilwredig sy'n cynnwys ymgynghori, cyrsiau hyfforddi a datrysiadau dysgu digidol.
Rydym yn deall bod dim modd defnyddio'r un ymagwedd gyda phob sefydliad! Caiff ein rhaglenni eu teilwra i gynnig datrysiad cyflawn a fydd yn cyd-fynd â diwylliant, cyd-destun ac uchelgais eich sefydliad.
Gan ddefnyddio technegau megis meddylfryd dylunio, gemau ymgolli, coetsio a dysgu am weithrediadau, caffi arteffactau'r byd, adrodd straeon, delweddu, seicometreg a mannau gwyrdd.
Gan gydweithio â chi, gallwn ddarparu ymgysylltiad cychwynnol gyda staff, canolfannau asesu a datblygu, ymyrraeth ddysgu, cynaladwyedd o ran dysgu i ddod yn sefydliad dysgu a gwerthuso. Mae hyn oll yn ymgorffori'r ymddygiadau sydd eu hangen arnoch ac yn cychwyn eich sefydliad ar y daith at newid diwylliant.
Rydym yn cyd-greu datrysiadau dysgu gyda chi i ddarparu:
- Creu cysylltiadau clir gyda gwerthoedd sefydliadol
- Rhaglenni cyflawn - cychwyn/canol/diwedd
- Awyrgylch dysgu delfrydol
- Her gyfrifol
- Bywiog, diddordeb ac yn seiliedig ar brofiad
