Y Gymdeithas er Rheoli Prosiectau (APM) yw'r corff proffesiynol annibynnol mwyaf yn Ewrop sy'n ymroddedig i reoli prosiectau a rhaglenni. Mae eu cymwysterau'n corffori cymysgedd o offer, technegau, prosesau a sgiliau ac yn cynnig strwythur cynyddol sy'n dangos eich cyraeddiadau rheoli prosiect. Wedi'i redeg gan reolwyr prosiect ar gyfer rheolwyr prosiect, mae aelodau APM yn rhannu brwdfrydedd dros y proffesiwn, ac yn parhau i fod ar y rheng flaen o ran safonau ac arferion proffesiynol gan eirioli rheoli prosiect a chyflwyno syniadau newydd i'r byd rheoli prosiect.
Ar gyfer pwy mae hwn?
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at reolwyr prosiect, y sawl sy'n dyheu at fod yn rheolwyr prosiect neu weithwyr prosiect sy'n dymuno ennill cymhwyster proffesiynol.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?
Mae cymhwyster APM yn darparu cydnabyddiaeth i ymgeiswyr o ddealltwriaeth drylwyr o reoli prosiect. Defnyddir esiamplau ac astudiaethau achos o'r byd go iawn i gyflymu'r dysgu. Ymhlith y pynciau a fydd yn cael eu hastudio: rheoli prosiect mewn cyd-destun, cynllunio'r strategaeth, rhoi'r strategaeth ar waith, technegau, busnes a masnach, trefn a llywodraethu, pobl a'r proffesiwn.
Hanfodion Prosiect APM - 2 ddiwrnod - mae'r cymhwyster hwn yn berthnasol i unrhyw un heb unrhyw brofiad neu ychydig brofiad blaenorol o reoli prosiect sy'n dymuno dysgu terminoleg ac iaith gyffredin hanfodol rheoli prosiect.
Cymhwyster Rheoli Prosiect APM - 5 diwrnod - mae'r cymhwyster hwn yn asesu pob maes o reoli prosiect, o oblygiadau strategol a masnachol y rôl, i'r sgiliau technegol, sefydliadol a rheoli pobl sydd eu hangen i gyfranogi'n effeithiol o fewn tîm prosiect.
Cymhwyster Rheoli Prosiect APM (Llwybr carlam ymarferwyr P2) – 3 diwrnod – Cymhwyster Rheoli Prosiect APM cwrs carlam yw hwn sy'n galluogi i'r sawl gyda chymhwyster Ymarferwr PRINCE2®, a enillwyd o fewn y 5 mlynedd diwethaf, i ennill Cymhwyster Rheoli Prosiect APM trwy fformat dwys 3 diwrnod.
*I fwcio lle ar gwrs carlam 3 diwrnod cwrs rheol prosiect APM e-bostiwch uswcommercial@southwales.ac.uk gyda'ch rhif ymarferwr P2.*
Pam dewis y cwrs hwn?
Dangos eich bod yn weithiwr prosiect medrus a phroffesiynol gyda gwybodaeth ddofn am arferion gorau mewn perthynas â thechnegau rheoli prosiect
Datblygu dealltwriaeth o sut mae elfennau rheoli prosiect yn cydweithio
Gallu rhoi fframwaith safonol y gellir ei defnyddio ar draws y diwydiant ar waith ar draws timau ac adrannau, gan gynyddu effeithiolrwydd
Cyrsiau sydd ar ddod
APM PMQ (5 dydd):
Decharau 20 Ionawr
Ddyiadau: 20, 21, 22, 28 & 29 Ionawr
Ymholwch nawr
APM PFQ (Ar-Lein):
Decharau 8 Chwefror
8,9,10 Chwefror 2021 - Ymholwch nawr
