Adeiladu Gwydnwch yn ystod cyfnod o Newid

resilience

Gwydnwch yw'r gallu i ymadfer ar ôl rhwystrau a chadw i fynd yn wyneb gofynion ac amgylchiadau anodd, gan gynnwys y cryfder parhaus a ddaw yn sgil ymdopi'n dda â digwyddiadau heriol neu lawn straen  (Cooper, Flint-Taylor, Pearn – Building Resilience for Success) 

Rydym wedi gweld Gwydnwch yn symud o'r canfyddiad mai adferiad ydyw i oresgyn gwendid - gyda goblygiadau negyddol - i'r syniad erbyn hyn mai cysyniad ydyw a all helpu cryfhau'r cryfaf.  

Mae'r newid hwn yn ein canfyddiad yn aml yn gysylltiedig â syniadau Seicoleg Gadarnhaol, yn benodol â gwaith Martin Seligman, a gynhaliodd ymchwil ar sut i helpu cyflogeion ymdopi ag awyrgylch gwaith heriol.  


Felly - dau gysyniad:

  1. Bod Adeiladu Gwydnwch yn gallu cael ei weld fel ymagwedd seiliedig ar gryfder  
  2. Bod modd dysgu Gwydnwch 


Pam fod angen i ni ganolbwyntio ar Wydnwch nawr?  

Mae hwn yn gyfnod o newidiadau enfawr a dramatig. Mae ein gweithleoedd yn wahanol, mae ein cyswllt cymdeithasol â phobl yn wahanol, mae ein trefn o ddydd i ddydd yn wahanol. Rydym yn bobl ddeddfol iawn ac rydym yn cael cysur o batrymau ac ymddwyn mewn modd penodol - mae hyn oll wedi troi wyneb i waered.  

I nifer ohonom, ar adegau, rydym wedi teimlo'n bryderus, allan o reolaeth ac yn bryderus am yr hyn a ddaw yn y dyfodol i ni ac eraill.  

Mae'n bosib bod hi'n arbennig o addas i ystyried sut rydym yn dod yn fwy Gwydn er mwyn ymdopi â'r heriau sy'n ein hwynebu ond hefyd, sut rydym ni fel arweinwyr a rheolwyr yn helpu eraill i ddod yn fwy gwydn ac ymdopi â'r heriau a ddaw yn y dyfodol.  

Sefydliadau Gwydn 

Mae ychydig o amheuaeth yn parhau am hyfforddiant Gwydnwch - sef y gallai fod yn "dric" gyda'r nod o roi mwy o bwysau ar gyflogeion ac ychwanegu at eu llwyth gwaith. Fodd bynnag, awgryma'r dystiolaeth bod Gwydnwch sy'n gysylltiedig â Llesiant yn y gweithle'n gallu rhoi hwb i dwf, llesiant a llwyddiant unigol a sefydliadol.  

Mae tystiolaeth bod arweinwyr sy'n defnyddio offer a thechnegau i helpu eu timau i dyfu a dod yn fwy gwydn yn helpu eraill i weld newid fel cyfle ac i aros yn optimistaidd yn ystod cyfnodau o drallod.  

Er mwyn deall gwydnwch yn well, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar yr unigolyn yng nghyd-destun y sefydliad a dyna le mae rôl yr arweinydd ac arddull yr arweinydd yn berthnasol.  

Yn fy mhrofiad i o weithio gyda sefydliadau yn y sector preifat a chyhoeddus, mae'r arweinwyr sy'n helpu a chefnogi eu timau i ddod yn fwy gwydn yn gwneud y canlynol:  

  • Dangos y ffordd  
  • Rhannu cyd-weledigaeth 
  • Herio'r broses ac yn edrych am newid cadarnhaol  
  • Galluogi eraill i gael llais a bod yn rhagweithiol  
  • Annog ac ymgysylltu'r galon i gael ymdeimlad o ddiben a pherthyn  

Mae'r arweinydd mwyaf llwyddiannus yn canfod cydbwysedd rhwng Herio a Chefnogi, felly peidiwch ag anghofio bod y rhan fwyaf o bobl yn gadael eu rheolwr, nid eu swydd!  

Pamela Heneberry, Y Ganolfan Datblygiad Proffesiynol 


Os hoffech ddarganfod mwy, trefnwch gyfarfod rhithwir gyda ni trwy e-bostio [email protected]