14-10-2020
Rydym yn gofyn ac yn disgwyl llawer gan ein pobl. Mae gweithio gartref, cyfathrebu rhithwir, technolegau newydd, ynysu, llai o gyswllt â chydweithwyr ymhlith rhai o'r newidiadau. Ychwanegwch at hyn yr heriau domestig fel risg i'n hiechyd, addysg gartref a throi'ch cartref yn “ofod gwaith”. Mae hyn wedi creu anawsterau na wynebwyd o'r blaen, mae gan weithwyr lai o fynediad at reolwyr, yn gwneud mwy o benderfyniadau eu hunain, yn cymell eu hunain, ac yn methu â chael help gan gydweithwyr agos.
Heb ymddiriedaeth mae llai o arloesi, cydweithredu, meddwl yn greadigol, a gallu cynhyrchu, ac mae pobl yn treulio'u hamser yn amddiffyn eu hunain a'u diddordebau.
Er mwyn creu timau cydlynol cryf, mae'n rhaid i ni feddwl am ffyrdd i adeiladu'r sylfeini cryf hyn o ymddiriedaeth wrth arwain, rheoli a chefnogi ein pobl i gyflawni'r heriau hyn a ffynnu. Efallai eich bod eisoes wedi clywed am waith Lencioni, mae'n tynnu sylw at ymddiriedaeth fel yr union sylfaen sydd ei hangen i adeiladu timau sy'n gweithredu ar lefel uchel.
Fe sylwch ar frig model Lencioni nad oes sylw i ganlyniadau, mae hyn yn her bellach i Reolwyr - sut ydyn ni'n rheoli perfformiad heb fawr o gyfle, os o gwbl, i arsylwi pobl yn gweithio yn gorfforol? Mae hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar ymddiriedaeth gan fod yn rhaid i Reolwyr ymddiried yn eu pobl i wneud eu gwaith yn dda. Mae angen i reolwyr fynd i'r afael â'r ansicrwydd a'r anghysur hwn mewn modd cadarnhaol, gan arwain trwy esiampl a dangos brwdfrydedd er mwyn parhau i ysgogi ein pobl.
Mae'r cyfleoedd a roddwyd i arweinwyr ar hyn o bryd yn cynnwys adeiladu ymddiriedaeth mewn adfyd, canolbwyntio ar y pethau pwysig sydd o bwys, ymrwymo i'r ffyrdd newydd o weithio, creu lleoedd diogel i roi cynnig ar ddatrysiadau creadigol i broblemau newydd a gwerthfawrogi gwahaniaethau ein cydweithwyr.
Mae angen i gyflogeion deimlo’n ddiogel er mwyn ymlacio a pherfformio, heb ofni gwneud camgymeriadau. Rhowch yr offer iddyn nhw ddatrys problemau gyda'i gilydd, megis trefnu sesiynau dysgu rhithwir.
Anogwch bobl i berchen ar eu gwaith, a dysgu o'u camgymeriadau, gwnewch hi'n hawdd gofyn am help, rhowch gyfleoedd iddynt herio'ch meddwl, anogwch nhw i gymryd risgiau rhesymol, rhannwch adborth yn agored, defnyddiwch sgiliau eich gilydd, peidiwch â gwastraffu amser ar wleidyddiaeth a gwnewch i bobl edrych ymlaen at eich cyfarfodydd tîm rhithwir, gydag agendâu deinamig a baratowyd ymlaen llaw sy'n cynnwys rhywfaint o hwyl.
Os yw aelodau'ch tîm yn ymddiried yn ei gilydd, maen nhw'n llawer mwy tebygol o rannu gwybodaeth, a chyfathrebu'n agored.
Rhowch gyfle a chefnogaeth i bobl weithio ar y cyd, gan werthfawrogi barn ei gilydd a datrys problemau gyda'i gilydd. Dyma gyfle gwych i gyflwyno hyfforddiant mewnol, sy'n gweithio'n dda ar blatfformau digidol.
Sicrhewch eich bod yn cyfathrebu mewn modd syml, clir a hynny'n rheolaidd. Trefnwch gyfarfodydd tîm wythnosol, cymerwch dro i fod yn hwylusydd, gwnewch y perfformiad yn glir ac yn weladwy, cynyddwch a gwellwch y gwobrau am bethau sy’n mynd yn dda, ewch i'r afael ag unrhyw broblemau yn sydyn a chrëwch sesiynau dysgu i ymdrin â chamgymeriadau. Gwnewch yr holl sesiynau hyn yn bleserus, mae angen rhywbeth ar bobl i edrych ymlaen ato.
Sicrhewch fod gan bobl nodau tymor byr syml a chlir gydag adolygiadau rheolaidd. Cofiwch gynnwys adborth dwyffordd agored ac adeiladol. Anogwch eich pobl i ddweud eu barn wrthych a pha syniadau sydd ganddyn nhw o ran gwelliannau.
Weithiau mae “cadw llygad” ar gydweithwyr yn cael ei bortreadu'n negyddol fel microreoli a gall wneud i unigolion gwestiynu lefelau ymddiriedaeth rheolwyr - Fodd bynnag, gallwch glustnodi peth amser anffurfiol yn y dyddiadur i wirio sut mae pobl yn teimlo, annog sgyrsiau ar werthoedd, teulu, neu hobïau a dangos eich cefnogaeth ar lefel bersonol.
Cyfeirnodau:
Patrick Lencioni – Pum camweithrediad tîm
04-03-2021
03-03-2021
09-02-2021
01-02-2021
18-12-2020
24-11-2020
23-11-2020
27-10-2020
14-10-2020