Alexa, sut mae trawsnewid digidol yn gwella bywydau?

Ashley Bale

Pan fydd y rhan fwyaf ohonom yn meddwl am ddigidoleiddio rydym yn meddwl am dechnoleg sydd wedi gwneud ein bywydau ychydig yn haws – byth yn gorfod cario mapiau, arian parod na hyd yn oed ‘fasgedi’ siopa. Ond i rai, mae trawsnewid digidol yn mynd ymhell tu hwnt i hwylustod beunyddiol, gan fod y datblygiad ym myd technoleg wedi cael effaith sylweddol ar gymunedau bregus.

Mae un myfyriwr fu ar ein cwrs MSc mewn Arwain Trawsnewid Digidol yn defnyddio’r cymhwyster i ffurfioli’r camau a gymerodd eisoes yn ei yrfa yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Ashley Bale yn gweithio i Innovate Trust, elusen sy’n darparu gofal i unigolion ledled RCT, Caerdydd a Bro Morgannwg, ac sydd wedi bod yn ymroddedig i wneud gwahaniaeth arwyddocaol erioed.

“Dechreuais gyda Innovate Trust fel gweithiwr cymorth yn 2009,” meddai Ashley, “Rhoddodd ddealltwriaeth i mi o sut y gall technoleg wneud newid dylanwadol ym mywydau pobl.

“Fe sylweddolais fod grym trawsnewidiol technoleg yn help i fynd i’r afael â’r heriau ym mywydau bob dydd pobl. Gall datblygiad technoleg heddiw roi mwy o gyfleoedd i bobl ddod yn fwy annibynnol”.

Gweithiodd Ashley ar y prosiect Cynorthwyydd Personol Deallus (IPA), sy’n defnyddio cynorthwywyr llais, synwyryddion a thechnoleg brif ffrwd i gryfhau, hyrwyddo ac ymestyn annibyniaeth i unigolion ag anableddau - gan alluogi unigolion i reoli elfennau o’r cartref drwy ddyfeisiau wedi’u cysylltu â’r Rhyngrwyd Pethau (IoT).

Meddai: “Gyda chyllid grant roeddem yn gallu rhoi cymorth i ymchwil academaidd a rhoi cymorth i bobl gydag anableddau i fod ar flaen y gad o ran egin dechnolegau. Gwnaethom roi cymorth i bobl osod Seinyddion Clyfar a gweithio’n uniongyrchol gydag unigolion i ddysgu am y canlyniadau y gellid eu cael ac a oedd y dechnoleg o fantais yn eu bywyd bob dydd. Gwnaeth hynny ein harwain i adeiladu ein cartref clyfar cyntaf byw gyda chymorth yn y DU, gan ddefnyddio technolegau prif ffrwd – ers hynny, datblygwyd sawl eiddo ledled y DU yn sgil y model”

Mae Ashley hefyd wedi datblygu ap cymunedol arobryn rhad ac am ddim i oedolion ag anableddau ledled y DU i Innovate Trust. Mae ‘Insight’ yn cynnig dros 80 o weithgareddau byw ac yn y cnawd bob wythnos ac mae’n ofod cymdeithasol i bobl rannu, gwneud ffrindiau a chael eu cynnwys yn ddigidol mewn amgylchedd hygyrch a chyfeillgar.

Mae Ashley wedi gweld potensial aruthrol trawsnewid digidol a’r modd y gall barhau i gael effaith gadarnhaol ar sefydliadau a bywydau pobl. Meddai: “Fel cymdeithas mae’n rhaid i ni gofleidio technoleg. Does dim ffaith gudd fod technoleg am drawsnewid bywydau pobl, dim ond pa bryd y bydd yn dechrau magu pwysigrwydd, pa mor foesegol yw hi, a pha fath o ddatrysiad technoleg a ddefnyddir. Rydym ond yn gweld mymryn o’r hyn sydd allan yno ar hyn o bryd, mae cymaint mwy i ddod.”

“Rhaid i ni ddechrau meddwl mewn ffordd newydd. Y dull gorau yw ystyried bod popeth yr oeddech yn meddwl y byddai’n bosibl yn y dyfodol eisoes yn bosibl nawr. Beth bynnag fo’ch syniad, mae modd ei gyflawni, yn enwedig drwy ddefnyddio’r offer Deallusrwydd Artiffisial sy’n esblygu sydd ar gael, a does dim dewis gennym ond i esblygu gyda’r offer neu gael ein gadael ar ôl”.

Mae’r MSc mewn Arwain Trawsnewid Digidol wedi bod yn fodd i Ashley nid yn unig i gydweithio a rhannu ei brosiectau, ond mae hefyd wedi helpu i wella ei hyder yn ei alluoedd ei hun. Meddai: “Doedd gen i ddim cymwysterau academaidd cyn cyflawni’r MSc. Pan welais i’r cwrs hwn, meddyliais dyma fy nghyfle i ddilysu’n ffurfiol fy ngwybodaeth i gyfateb â’m profiad”.

“Drwy fod yn rhan o’r MSc rwyf hefyd wedi ymuno â chymuned ymarfer ar gyfer llythrennedd digidol a’r gallu i gael gafael ar dechnoleg ddigidol. Mae hyn yn dod â phobl at ei gilydd na fyddent wedi cyfarfod o’r blaen, mae wedi cynyddu’r cyfleoedd i ymgysylltu â phobl yn y GIG ac/neu ym maes iechyd na fyddwn yn ôl pob tebyg wedi’u cyfarfod.”

Nod ein MSc mewn Arwain Trawsnewid Digidol yw rhoi cymorth i arweinwyr herio arferion traddodiadol, bod yn fwy chwilfrydig ynghylch prosesau, a ‘meddwl yn ddigidol gyntaf’. Cewch fwy o wybodaeth yma: https://www.southwales.ac.uk/courses/msc-leading-digital-transformation/