ILM Lefel 5 Arwain a Rheoli - Stori Fionnuala

ILM L5 Fionnuala

Beth wnaethoch chi fwynhau fwyaf am y cwrs?

Rhoddodd y cwrs gyfle i mi gyfarfod ag aelodau o staff ledled y bwrdd iechyd gydag amcanion gyrfa tebyg. Gwnaeth yr amrywiaeth o swyddogaethau swyddi yn ein carfan gynnig amgylchedd dysgu penigamp, ble roedd ein profiadau amrywiol yn cyfrannu i ddealltwriaeth ehangach o arweinyddiaeth a rheoli a’r modd y mae hynny wedi’i ymgorffori yn y GIG.

Sut ydych chi wedi defnyddio’r dysgu yn eich swyddogaeth?

Cefais rannu offer anhygoel o werthfawr yn ystod y cwrs. Rwyf nawr yn defnyddio dadansoddiad rhanddeiliaid yn ystod pob cam datblygu o’r gwasanaeth rwy’n gweithio ynddo. Mae’r dadansoddiad hwn yn cynnig fframwaith i ganfod grym a diddordeb rhanddeiliaid ac mae’n fodd i mi gyfathrebu’n effeithiol ar sail eu hanghenion unigol. Rwyf hefyd yn defnyddio The Coaching Spectrum a gyflwynwyd gan Myles Downey i ystyried yr ymagweddau y gallaf eu cymryd mewn ymateb i gyfle hyfforddi. Mae’r sbectrwm yn ddull gweledol o ganfod y graddau amrywiol o gyfarwyddyd o fewn hyfforddi a gall fod yn ddull gwych o ganfod pa ymagwedd sydd ei angen i roi’r cymorth gorau i anghenion aelodau o’r tîm rydych yn ei arwain ym maes y gwaith hwnnw.

Pa effaith gafodd y cwrs arnoch chi’n bersonol/yn broffesiynol, neu’r ddau?

Rhoddodd y cwrs hyder i mi gamu i mewn i swyddogaethau rheoli o fewn y bwrdd iechyd ac mae wedi meithrin sgiliau gydol oes rwy’n gobeithio y byddaf yn eu cadw drwy gydol fy ngyrfa. Bu hefyd yn fodd i mi ehangu fy rhwydwaith personol a phroffesiynol gydag aelodau o staff na fyddwn wedi cael cyfle i wneud hynny fel arall. Mae hyn wedi datblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol rhwng timau ledled y bwrdd iechyd yr ydw i’n falch i fod yn rhan ohonynt.

Pam wnaethoch chi ddewis y llwybr prentisiaeth?

Prentisiaeth oedd yn ymddangos fel y llwybr gorau i’w ddilyn am ei bod yn fodd i mi barhau i weithio yn fy swydd gyfredol o fewn y bwrdd iechyd. Roedd dulliau dysgu amrywiol ar y cwrs y llwyddais eu haddasu i’m hamserlen waith, yn cynnwys dysgu yn yr ystafell ddosbarth, aseiniadau ysgrifenedig a datblygu portffolio o dystiolaeth. Roedd yn fodd i mi ddysgu wrth wneud fy ngwaith sydd yn hanfodol ar gyfer cymhwyster arweinyddiaeth a rheoli yn fy marn i. Bu bwrdd iechyd a’r brifysgol yn hynod o gefnogol er mwyn i mi allu cwblhau fy astudiaethau a gweithio llawn amser ar yr un pryd.

Sut ydych chi’n meddwl y bu’r rhaglen o help i chi gael eich dyrchafiad diweddar?

Mae’r rhaglen heb os wedi rhoi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i mi o’r hyn sydd ei angen i ddod yn arweinydd effeithiol. Ymhlith nifer o bynciau diddorol, roedd creu amgylchedd sy’n annog menter yn faes dysgu pwysig i mi, a hyn yn benodol, rwy’n credu a wnaeth fy helpu i gael fy nyrchafiad diweddar i swydd sy’n golygu arwain ‘Cymru Gyfan’ i ehangu gwasanaeth ar-lein y GIG.

Beth fyddech chi’n ddweud wrth rywun sy’n ystyried ymuno â phrentisiaeth gyda PDC?

Rwyf wedi cael profiad gwych yn ystod fy nghyfnod yn astudio gyda PDC. Bu pob aelod o staff yn y brifysgol yn anhygoel o barod eu cymwynas, o’r staff oedd yn darlithio, staff gweinyddol, ac asesydd fy rhaglen. Bu cyfathrebu amlwg drwy gydol y cwrs ac roeddwn bob amser yn teimlo fy mod yn cael cefnogaeth yn ystod fy astudiaethau.

Sut oeddech chi’n gallu dygymod â’r ymrwymiad i’r rhaglen brentisiaeth yn ogystal â’ch swydd o fewn BIAP?

Roedd y cwrs yn hynod o hyblyg, gyda rhai modiwlau wedi’u nodi’n benodol ar fy nghyfer i’w cwblhau oherwydd perthnasedd fy swyddogaeth. Gwnaeth fy asesydd fy helpu i ddefnyddio’r gwaith roeddwn yn ei gynhyrchu ar gyfer fy ngwasanaeth er mwyn ei ddefnyddio fel tystiolaeth o arweinyddiaeth a rheoli, a oedd yn bodloni llawer o feini prawf y cwrs. Er i mi gwblhau’r aseiniadau ysgrifenedig yn fy amser fy hun, roedd y bwrdd iechyd yn cefnogi’r ffaith fy mod yn mynychu sesiynau yn yr ystafell ddosbarth a chyfarfod â’m hasesydd drwy gyfrwng Teams i gwblhau’r modiwlau FfCCh.

Roedd fy asesydd bob amser yn gweithio o amgylch fy amserlen waith brysur ac rwy’n gwerthfawrogi hynny’n fawr. Rwyf bron â chwblhau fy nghwrs SARh5 a byddwn yn bendant yn argymell y llwybr hwn i’r rhai sydd â chyfrifoldeb rheoli neu ddarpar arweinwyr.

Edrychwch ar ein cyrsiau achrededig ILM yma

Gweld ein cyrsiau byr Arweinyddiaeth a Rheolaeth