A oes angen strategaeth arnom?

Strategy

A oes angen strategaeth arnom? 

Andrew Price , Y Ganolfan Datblygiad Proffesiynol 


Rwyf wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau mawr lle roedd strategaeth yn cael ei weld fel niwsans ac, a dweud y gwir, fel rhywbeth sy'n torri ar draws yr her o gadw pethau i fynd o ddydd i ddydd. Bob blwyddyn, neu bob 3 neu 5 mlynedd, mae'r ystafell fwrdd yn cael rhyw fath o bwl ac yn cynhyrchu dogfen sgleiniog sy'n cael ei "rholio allan" ar draws y busnes i ymateb o ddryswch neu ddifaterwch. Ond, os yw strategaeth yn ymddangos fel gwaith beichus, neu'n amherthnasol i'r gwaith o ddydd i ddydd, mae'n bryd ailfeddwl.  

Strategaeth yw un o'r geiriau a ddefnyddir yn rhy aml, ond heb lawer o ddealltwriaeth ohono, ym myd busnes. Yn seiliedig ar sawl degawd o brofiad ym maes rheoli ac ymgynghori, amwn i fod mwyafrif y bobl, gan gynnwys Byrddau, yn meddwl am strategaeth fel Cynllun Mawr Iawn (a drud). Nid yw hynny'n wir. Mae'r camddealltwriaeth yma o strategaeth yn golygu ein bod yn ei gwneud yn wael. Neu ddim o gwbl. Mae strategaeth - gwir strategaeth - yn hanfodol. Ond mae angen i ni ailfeddwl sut rydym yn ei gwneud. Dyma rai awgrymiadau ar ailfeddwl strategaeth:  


Mae strategaeth yn fwy na dogfen. Dychmygwch fod rhywun wedi addo coginio pryd o fwyd blasus i chi dim ond iddynt roi'r rysáit yn unig i chi. Neu, sut basech chi'n teimlo pe byddai rhywun wedi addo trip i Baris i chi ond mai'r cyfan gawsoch chi oedd cerdyn post o'r Twr Eiffel? Nid pryd o fwyd yw rysáit ac nid gwyliau yw cerdyn post. Yn yr un modd, mae strategaeth yn fwy na dogfen strategaeth. Mae'n bosib bod y ddogfen sgleiniog arferol hyd yn oed yn rhwystr i'r strategaeth gan fod timau rheolaeth yn amharod i newid ei chynnwys, hyd yn oed pan fod y byd wedi symud ymlaen.  


Mae strategaeth yn fwy na chynllunio. Mae hyn yn un anodd i'r rhan fwyaf o reolwyr ei deall, ond mae cynllunio a llunio strategaeth yn weithgareddau gwahanol iawn, o bosib gwrthwyneb â'i gilydd. Mae cynllunio yn ymwneud â dadansoddi pethau, rhannu cyfrifoldebau, llunio llwybrau critigol ac ati. Mae strategaeth yn ymwneud â dod â phopeth at ei gilydd i weld y darlun cyfan. Wrth reswm, mae strategaeth yn arwain at gynlluniau, ond ni allwch wneud eich strategaeth yn uniongyrchol gyda'ch cynllunio. Mae meddwl yn strategol yn ffordd o feddwl sydd angen ei meithrin. Mae'n agored ac yn chwilfrydig, yn cwestiynu ei rhagdybiaethau a rhagfarnau ei hun, yn gyfforddus gydag ansicrwydd ac yn barod i fentro camgymeriadau.  


Nid yw strategaeth yn rhywbeth ar gyfer yr ystafell fwrdd neu uwch reolwyr yn unig. Os mai'r tro cyntaf i fwyafrif y staff fod yn gynwysedig yw lansiad swyddogol y strategaeth, gallaf sicrhau y bydd y dasg o'r roi ar waith yn anodd neu'n amhosib. Mae strategaeth yn cychwyn gyda gwrando'n ofalus; i staff, budd-ddeiliaid, cwsmeriaid ac arbenigwyr y diwydiant. Dim ond pan fod gan y Bwrdd amgyffrediad da o'r hyn sy'n digwydd y tu mewn a'r tu allan i'r busnes, y mai'n gallai rhaeadru hyn i lawr i mewn i'r strategaeth.  


Felly, beth yw strategaeth? Set o weithrediadau creadigol, cydlynol a chynaliadwy gyda'r nod o oresgyn yr heriau critigol a wynebir gan y busnes wrth geisio bodloni ei diben:


  • Creadigol – gwnewch y defnydd gorau o'r sgiliau ac adnoddau o fewn y busnes, o bosib gan eu hadleoli neu hailbwrpasu.  
  • Cydlynol – er mwyn i'r holl fusnes fod yn tynnu ynghyd i gyflawni synergedd  
  • Cynaliadwy – rhaid i strategaeth fod yn bosibl - nid yn rhestr ddymuniadau a ffantasïau  
  • Heriau critigol - gall y rhain fod yn rhwystrau neu'n gyfleoedd  
  • Diben – yr hyn mae'r busnes eisiau ei gyflawni. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau'n weddol niwlog am hyn, ond oni bai eich bod yn gwybod, yn fwy na dim, yr hyn rydych chi eisiau ei gyflawni, ni fydd unrhyw ffocws i'ch strategaeth  

Mewn cyfnod o argyfwng, fel y pandemig cyfredol, does bosib bod gennym amser am strategaeth? Anghywir. Dyma'n union pam mae angen i chi gadw gafael ar beth sydd bwysicaf, pa gyfleoedd a bygythiadau sydd ar y gweill a beth allwch chi wneud amdanynt. Dyna'r hyn a gewch chi o strategaeth dda. Mae busnesau sydd â strategaeth dda yn monitro'r strategaeth yn gyson ac yn barod i wneud newidiadau, ond mae'r pandemig cyfredol yn gwneud hyn yn bwysicach fyth. Dyma ddau o'r pethau sydd angen i fusnesau eu gwneud  


Cofleidio'r "normal newydd". Os a phryd daw COVID-19 dan reolaeth, ni fydd yna ddychweliad llawn i sut yr oedd pethau o'r blaen.   Hyd yn oed heb y feirws, mae nifer o faterion mawr - Brexit, effaith y protestiadau yn erbyn hiliaeth, ymwybyddiaeth amgylcheddol - sy'n newid cymdeithas. Nid yw gobeithio y bydd yn diflannu yn ddewis dichonadwy. Yn hytrach, rhaid i ni wneud y gwaith caled o geisio gweld y cyfleoedd a'r heriau a ddaw gyda hyn  


Bod yn heini ac yn hyblyg. Yr ymadrodd mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd yw gallu strategol. Pa mor sydyn all eich busnes addasu a newid beth mae'n gwneud a sut mae'n gweithio? Mae gweithio hierarchaidd, analluedd i newid ffordd o feddwl a gwaith tîm gwael yn gwneud sefydliadau'n anystwyth ac yn araf. Mae cyfleoedd newydd yn agor i fyny a'r busnesau sy'n eu gweld ac sy'n gallu symud yn gyflym yw'r unig rai sy'n debygol o wneud yn dda o'r argyfwng cyfredol.