Paradeim hyfforddi esblygiadol newydd mewn cyfnod o argyfwng.

Mick Timpson 


O dan fy nghoeden Nadolig yn 2022 oedd Flourish, llyfr gan y cynllunydd trefol, Sarah Ichioka a’r pensaer, Michael Pawlyn. Mae Flourish yn ymwneud â’r hyn y gall penseiri, cynllunwyr dinesig a pheirianwyr ei wneud i ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Er hynny, yr hyn sy’n gwneud y llyfr yn ddiddorol yw ei ganolbwyntio nid yn gymaint ar brosiectau ond ar ddatblygu cyfeiriadau meddwl newydd cysylltiedig ag asiantaeth bersonol, neu’r hyn y byddem yn ei alw yn beanddo™ – gweithredu ymwybodol (conscious action). Yr amser i weithredu yn ôl yr awduron, fel y gŵyr y rhan fwyaf ohonom eisoes, yw nawr.  Ond dyma ble mae ein problem, gan fod prin neb ohonom yn bresennol i fod yma, ar hyn o bryd. Rydym yn gwybod ym mhob math o hyfforddi helpu eraill i ddarganfod presenoldeb yw’r dasg gyntaf. Dim ond yn y nawr mae newid yn bosibl a thrawsnewid yr ymwybod drwy fod yn llwyr bresennol fydd yn help i wneud y byd ffynnu eto.


Mae Flourish yn nodi, ydy, mae’r dechnoleg a’r systemau gennym ni ond i wirioneddol drawsnewid a gweithredu’n llwyr, mae angen i ni agor a meithrin ffordd newydd o edrych ar ein hunain, ein gilydd a gweddill y byd byw. Mae angen i ni feithrin (neu ailddarganfod) cysylltedd dyfnach fel bod trawsnewid esblygiadol newydd yn bosibl cyn iddi fod yn rhy hwyr. Yr agwedd esblygiadol, bywyd mewnol o’r alwad hon i weithredu ydw i’n gweld yn gyffrous fel hyfforddwr (a phensaer).  Mae hyn yn newid, nid fel rhywbeth mecanyddol, allanol, wedi’i osod (y rheswm gwreiddiol am yr argyfwng hinsawdd) ond fel rhywbeth dynol, mewnol, byd-eang gyda’r galon yn ganolbwynt y gallwn i gyd gyd-fynd ag ef os dymunwn. Yr oll sydd ei angen yw symud ein persbectif a dyna’r hyn mae fy ymarfer hyfforddi yn ei gynnig. 

Does dim angen i chi gael rheolaeth bob amser

Ond a all symudiad o’r fath gael ei hyfforddi mewn cyfnod o ansicrwydd enfawr? Gall, â dweud y gwir byddwn yn dweud ei fod yn debygol mai dyma’r unig beth a fydd yn ein hachub. Rhaid i ni godi’r ddeialog y tu hwnt i’r newidiadau arferol i’n ffordd o fyw y mae’r cyfryngau’n dweud wrthym fod rhaid i ni eu llyncu fel moddion anfoddog. Mae’r holl ddata ar gael i ni, ond rydym yn colli golwg arno, yn ei wrthod, neu nid yw’r ewyllys na’r weledigaeth gennym i weithredu arno. Yn hytrach, rhaid i ni fynd yn ddyfnach a datgelu newid wedi’i yrru gan ffyrdd newydd o fodoli a gwneud gan gyd-fynd â llif cyfannol mwy.  Beth sydd ei angen yw cydnabod fod ansicrwydd yn rhan o’r fargen o ran dod o hyd i fyd mwy ffyniannus. Symud o’r hyn rydych yn ei ddisgwyl i beidio gwybod yn llwyr yw’r agwedd greadigol a greddfol o newid cadarnhaol sydd wedi cael ei wasgu o fodolaeth am rhy hir gan fusnesau mawr a llywodraethau di-glem.  Dyma’r peth cyntaf sydd angen ei uwchraddio. Bob amser, mae eisiau rheoli yn arwain at oedi, ailfeddwl a gwrthwynebu newid. Yn ei dro, mae gwrthwynebu’n achosi cynnen ac yna gwres – yr union beth nad yw’r byd angen mwy ohono ar hyn o bryd. Yma y bydd technegau hyfforddi’r unfed ganrif ar hugain yn help i feithrin persbectifau newydd, patrymau newydd o gysylltiadau sy’n cysylltu ymateb fesul eiliad gyda gweithredu dewr greddfol. 


Mae’r pwyslais yma ar ymateb i bethau fel ag y maent yn hytrach na rhythu ar ddyfodol nad oes modd ei ragweld na’i wireddu. Disgwyliad ydyw, sy’n ceisio lasŵio atebion o’r dyfodol yn hytrach nag ymateb yn uniongyrchol, yn greadigol ac yn ddilys gyda’r hyn sydd wirioneddol yn digwydd.  Fel y byddai Iogïaid yn dweud, hyn yw bod yn bresennol, yn preswylio yn y nawr sydd yma oherwydd dim ond yn y presennol y gallwn ni weithredu a gyrru newid go iawn. 


Rydym yn gwneud hyn drwy symud ac uwchraddio ein persbectif tuag at bopeth rydym yn gwneud, teimlo, gweld, clywed, meddwl a dweud. Yr enw roddwn ar hyn yw Myfyrdod Modern a hwn yw craidd fy ngwaith addysgu a hyfforddi. Efallai nad ein bwriad yw newid y byd, ond gall unigolyn wedi’i sbarduno gael effaith ymhell tu hwnt i’w gyd-destun yn y fan a’r lle. 


Asiantaeth hyfforddi


Mae dwy agwedd i hyn sy’n gofyn am ddechrau ymwybodol o’r hyn rwy’n ei alw’n sgiliau fertigol a llorweddol. Fertigol yw’r gallu i fynd tuag at i mewn ac ymgysylltu gyda’r hunan drwy sylw ac ymwybyddiaeth bellach. Mae sylw a ddefnyddir yn y modd yma’n arwain at arsylwi, cysylltedd a chanolbwyntio dyfnach, tra bo sgiliau ymwybyddiaeth dyfnach yn arwain at ganfyddiad uwch, momentwm rhwydd, ac ymgorfforiad. Sgiliau llorweddol yw’r gallu i ymgysylltu tuag allan gyda llif a gweithgaredd y byd. Yma bydd ein hagwedd a’n gweithgaredd yn cael eu huwchraddio a fydd yn eu tro yn arwain at ymdeimlad o reolaeth gryfach, anhunanoldeb ac eglurder cysylltiedig â gweithgaredd wedi’i lunio gan adborth, creadigrwydd a diben diymdroi. 


Rhaid ymarfer yn rheolaidd, dilynwch yr hyfforddiant a byddwch yn dechrau canfod a thramwyo o gwmpas rhwystrau a fu hyd yn hyn yn hybu adweithedd anymwybodol, arferion greddfol a ddaeth yn rhagosodiad.  Dysgwch eich cleientiaid sut i sylwi ar, a thorri’r gosodiad hwn, gan wneud yr anymwybodol yn ymwybodol fel y dywedwn yn aml, a byddant yn darganfod sut i droi at gyfeiriadau meddwl newydd sy’n sianelu gweledigaeth a chreadigrwydd ac sy’n grymuso eu hunain ym mha beth bynnag maent yn ei wneud, ble bynnag y maent. Trawsnewidiad yw hwn sy’n dod o’r tu mewn allan, ac o brofiad mae o leiaf bum rhwystr mae fy math i o hyfforddi’n mynd i’r afael â hwy. 


  1. Does gen i ddim pŵer – Mae’r pŵer rydych ei angen eisoes gennych – does dim pwynt chwilio am fwy. Mae angen meithrin maes o bosibilrwydd o’ch cwmpas a thu mewn i chi am fod sinigiaeth, amheuaeth a cheidwadaeth yn flinderus ac yn mygu a chau pob opsiwn.  Byddwch yn agored i’r pŵer sydd gennych. Bydd Myfyrdod Modern yn eich helpu i wneud hynny.
  2. Rydw i mor unig – Dydych chi byth ar eich pen eich hun – Rydym i gyd yn gysylltiedig yn lleol a heb fod yn lleol. Cysylltiedig â phopeth. Rydych chi a fi, byd natur i gyd, popeth yn cael ei bweru gan yr un ffynhonnell. Mae’n hybu eich gwaith, eich mynegiant yn y byd yn yr un modd ag y mae’n hybu’r coed, y sêr a’r gwenyn. Bydd Myfyrdod Modern yn eich helpu i wneud hynny.
  3. Yn syml does gen i ddim digon o amser – mae gennych chi gymaint o amser ag y dymunwch. Anghofiwch gyflymder a disgwyliadau tymor byr, ac yn hytrach ewch am y presennol a pharatowch am y nawr hir – gweithiwch o ble mae gofod ac amser yn annherfynol a’r unig le y gallwch wneud newid gwirioneddol. Bydd Myfyrdod Modern yn eich helpu i wneud hynny.
  4. Rhaid i mi fod ar y blaen i’r Gystadleuaeth – I beth? Does dim ras. Mae’n dwyll wedi’i gynllunio i’ch rheoli chi. Yn hytrach, peidiwch barnu, peidiwch gwneud cymariaethau, ac yn hytrach chwiliwch am ffyrdd i fod yn ‘gydweithredwr gwych’ gydag eraill a’r byd. Byddwch agored. Mae doethineb creadigol gwirioneddol i’w gael yn y mannau mwyaf annhebygol. Bydd Myfyrdod Modern yn eich helpu i wneud hynny. 
  5. Rwy’n teimlo na fydd dim yn newid – mae newid yn gyson, ym mhobman. Chwiliwch amdano, teimlwch ef a chanfyddwch sut i’w gyfarwyddo a meithrin gwe newydd o gysylltiad, momentwm a thwf, y tu mewn a’r tu allan. Bydd Myfyrdod Modern yn eich helpu i wneud hynny.

Ni fydd yr un ohonom yn ffynnu oni bai ein bod yn gallu canfod sut i gyflymu dull mwy o newid yn yr hyn rydym yn ei wneud a sut ydym yn ei wneud. Nid yw aros y tu mewn i’r cysur a grëwyd gennym ein hunain bellach yn ymarferol nac yn iach. 


Mae Michael Timpson yn bensaer, artist, awdur, hyfforddwr ac athro ioga modern a myfyrdod. Yma mae’n cyflwyno ei dechneg hyfforddi seiliedig ar Fyfyrdod Modern sy’n cael sylw yn ei lyfr sydd ar fin ymddangos A Modern Way to Meditate. Gallwch ddarllen mwy am addysgu ioga a myfyrdod Mick yn ei lyfr diwethaf, Making Happy Work. Canllaw dechreuwr i dramwyo’r byd modern.   

Mae Mick yn cynnal rhaglenni ioga a myfyrdod i hyfforddi athrawon, hyfforddi, gweithdai, dosbarthiadau a digwyddiadau drwy ei fenter hyfforddi beanddo™. Mae’n dysgu strategaethau personol yn seiliedig ar Fyfyrdod Modern ar gyfer creadigrwydd, hunan rymuso, dyfalbarhad ac arferion lleihau straen ledled sawl sefydliad. Mae’n gweithio un-i-un, yn ogystal â mewn grwpiau bach. Mae’n annerch mewn digwyddiadau’n rheolaidd am effaith yr hyn mae’n ei alw’n ‘Conscious Action’ ble mae unigolion yn darganfod sut i fod y person y maen nhw go iawn a’r hyn y gallant ei wneud.