
ADDYSG UWCH YN Y COLEG
Mae Prifysgol De Cymru yn gweithio gyda cholegau yn Ne Cymru, er mwyn eich galluogi i astudio cwrs prifysgol mewn coleg. Gallwch arbed amser, arian, parhau i weithio, cydbwyso bywyd teulu ac aros yn agosach i gartref.
Mae nifer o'n cyrsiau ar gael yn llawn amser neu ran-amser. Caiff rhai eu darparu yn ystod y dydd ac eraill gyda'r nos, sy'n ei gwneud yn haws i ffitio astudio o amgylch eich bywyd.
Os ydych eisiau gyrfa gyffrous yn gwneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau, beth am astudio cwrs PDC ar safle eich coleg lleol. Dyma gyfle i drawsnewid eich yfory.
NEWYDDION DIWEDDARAF COVID-19
Mae lles, iechyd a diogelwch ein myfyrwyr a staff yn bwysig i ni. Rydym yn ymrwymo i ddarparu ein cyrsiau, cyfleoedd ymchwil a gwasanaethau eraill mor ddiogel a phosib.

Gwella Pob Yfory
Am ragor o wybodaeth am gyrsiau a sut i wneud cais, cysylltwch â’r sefydliadau unigol yn uniongyrchol.
Cysylltwch â ni
Mae Tîm Recriwtio Myfyrwyr PDC yma i'ch helpu. Os oes gennych gwestiynau am astudio yn y coleg neu'r Brifysgol, cysylltwch â ni: [email protected]

Mae cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr, felly gall astudio fod yn fwy fforddiadwy nag yr ydych chi'n meddwl. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, fe allech chi fod yn gymwys ar gyfer grantiau, benthyciadau a lwfansau i helpu gyda ffioedd dysgu a chostau byw.
Os ydych angen cymorth ariannol gyda ffioedd dysgu a / neu'ch costau byw, gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr i'ch cefnogi gyda'ch astudiaethau. Bydd angen i chi wneud cais am eich cyllid cyn dechrau eich cwrs, gorau po gyntaf, a bydd rhaid i chi ailymgeisio am gyllid bob blwyddyn academaidd.
Unwaith i chi gyflawni cwrs Prifysgol yn eich coleg lleol, efallai y byddwch chi'n dewis dilyn cwrs atodol (top-up) i gyflawni gradd anrhydedd lawn ar un o safleoedd y Brifysgol. Os ydych yn gwneud hyn, gallwch ymgeisio am ein Bwrsariaeth Dilyniant PDC.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am gyllid.
Bwrsariaeth Dilyniant
Rydym yn cynnig Bwrsariaeth Dilyniant gwerth £500.* Mae myfyrwyr coleg sy'n astudio modiwlau atodol at eu HND neu radd sylfaen i radd Anrhydedd lawn trwy gwrs atodol ar gampws yn PDC yn gymwys.
Cymorth Ariannol
Mae cefnogaeth ariannol ar gael oddi wrth Cyllid Myfyrwyr Cymru, ar gyfer myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru.
Cymorth yn y Coleg
Bydd gennych fynediad i'r gwasanaethau cymorth amrywiol sydd ar gael yn y coleg lle byddwch chi'n astudio. I ddarganfod pa gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch â'ch coleg .
Cymorth yn PDC
Os ydych chi'n ychwanegu at radd Anrhydedd llenwi yn PDC, gallwch gyrchu'r holl gefnogaeth a chyfleusterau. Mae gennym Barthau Cyngor, gwasanaeth Anabledd, Gwasanaethau Lles, Tîm Cyngor Arian Myfyrwyr, canolfannau Caplaniaeth a Sgiliau Astudio.
Cymorth Myfyrwyr
Mae astudio cwrs PDC yn y coleg yn golygu y byddwch yn cael y gorau o'r ddau fyd. Gallwch ddefnyddio'r gefnogaeth a'r cyfleusterau sydd ar gael yn y coleg, yn ogystal â PDC.
Mae llawer o'n colegau partner wedi elwa o fuddsoddiad enfawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae ganddyn nhw gyfleusterau a lleoedd addysgu ardderchog. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfleusterau’r Brifysgol, gan gynnwys ein llyfrgelloedd ac Undeb y Myfyrwyr.
Gallwch ymuno ag Undeb y Myfyrwyr eich coleg yn ogystal ag un y Brifysgol. Mae Undeb y Myfyrwyr PDC yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn. Mae digonedd o glybiau a chymdeithasau i ymuno â nhw. Mae'r Undeb hefyd yn eich cefnogi gyda materion yn ymwneud â'ch llesiant a'ch cwrs a materion addysgol.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.


Ein Myfyrwyr
Mae cwrs prifysgol yn fuddsoddiad yn eich dyfodol. Gall wella eich rhagolygon gyrfa, eich helpu i lwyddo a chyflawni'ch llawn botensial.
Mae ein cyrsiau wedi'u dylunio gyda chyflogwyr. Rydym yn credu bod profiad gwaith yn amhrisiadwy, dyna pam mae cyfleoedd lleoliad gwaith yn llunio rhan o'n Graddau Sylfaen. Maen nhw'n gyfle i roi'r theori ar waith ac i adeiladu CV sy'n creu argraff dda.
Pan rydych wedi cwblhau'ch Gradd Sylfaen, HNC, HND, Tystysgrif AU neu radd Anrhydedd yn llwyddiannus, gallwch fynychu seremoni graddio. Byddwch chi'n cael eich gwahodd i seremoni raddio ym Mhrifysgol De Cymru os ydych chi'n astudio yng Ngholeg Caerydd a'r Fro, Coleg y Cymoedd, Coleg Gwent, neu Goleg Merthyr. Os ydych chi'n astudio yng Ngholeg Pen-y-Bont, Coleg Gwyr neu goleg NPTC, byddwch chi'n cael eich gwahodd i seremoni raddio eich Coleg,
Cefnogaeth PDC a'ch Coleg
- Cymorth i ysgrifennu CV
- Paratoi cais a chyfweliad
- Cyngor ar ddewisiadau gyrfa neu astudiaeth bellach
- Awgrymiadau profiad gwaith
- Cefnogaeth gyda chwilio am swydd
- Helpu gweithio ac astudio dramor
- Ffeiriau gyrfaoedd, digwyddiadau a gweithdai
Tysteb Myfyrwyr
"Astudiais Radd Sylfaen a symudais ymlaen i'r radd ychwanegiad yn y coleg. Erbyn graddio, roeddwn i'n barod ar gyfer y diwydiant, gan fy mod i wedi cael profiadau gwaith gwych. Roedd cydbwyso gwaith academaidd ac ymarferol yn hawdd, a chefais gefnogaeth ragorol gan fy nhiwtoriaid. "
Melissa Humphries, Gradd Sylfaen Adeiladu Gwisg ar gyfer y Sgrin a'r Llwyfan
Diwrnodau Agored
Arcwhilio PDC
Ymunwch â ni mewn diwrnod agored neu ddigwyddiad byw a darganfod y cyfleoedd sy'n aros amdanoch ym Mhrifysgol De Cymru.
Byddwch chi'n cael cyfle i archwilio ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd neu Pontypridd, cwrdd â staff academaidd a myfyrwyr cyfredol, dysgu am fywyd yn USW ac arian myfyrwyr, a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol sy'n gysylltiedig â'ch cwrs. I'r rhai na allant fynychu digwyddiad ar y campws, rydym yn cynnal digwyddiadau ar-lein ac ar alw. Mae yna ddigon o ffyrdd i ddarganfod beth yw pwrpas PDC.
