Darganfyddwch eich potensial
Gyrfaoedd

Cyngor gyrfaoedd, cyfleoedd gwaith, cyllido a phopeth yn y canol. Mae ein tîm gyrfaoedd pwrpasol yno i’ch helpu ar bob cam o’r ffordd.
Menter

Person llawrydd, rhedeg eich busnes eich hun neu’n ystyried hynny? Mae gan ein tîm menter profiadol yr holl offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Gostyngiadau

Mae pawb yn hoffi gostyngiad ac fel person graddedig o PDC mae modd i chi gael gostyngiad ariannol oddi ar astudiaethau ôl-raddedig, cyrsiau hyfforddi proffesiynol a mwy.
Llyfrgell

Fel person graddedig o PDC mae modd i chi ddefnyddio cyfleusterau dysgu a chael aelodaeth o’r llyfrgell am ddim. Cewch hefyd ddefnyddio ein mannau astudio ar unrhyw adeg.

Teulu PDC
Rhan enfawr o fod yn berson graddedig yw bod yn rhan o rywbeth am oes. Fel rhan o Deulu PDC, rydych mewn cymuned fywiog o dros 250,000 o raddedigion anhygoel ledled y byd.
Rydym yn ffodus o gael alumni mor amrywiol, o gynhyrchwyr ffilmiau, cyfreithwyr a phobl broffesiynol gofal iechyd i hyfforddwyr chwaraeon rhyngwladol, digrifwyr enwog, a pherchnogion busnesau bach.
Rydym wrth ein bodd yn rhoi sylw i’n graddedigion a hyrwyddo eich gwaith caled, boed yn ein cylchlythyr chwarterol, ein gwefan neu ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Dathlwch eich llwyddiant gyda ni, darllenwch hanesion eich cyd-raddedigion a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i weld eitemau nodwedd rheolaidd!
Ysgoloriaethau a Bwrsarïau
Fel un a raddiodd o Brifysgol De Cymru cewch fynediad at amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i'ch helpu yn eich astudiaethau pellach.
Mae ysgoloriaethau blynyddol fel Lydon Hodges a Worshipful Livery Wales yn benodol ar gyfer graddedigion PDC er mwyn helpu i wneud y gorau o'ch astudiaethau.
Oeddech chi'n gwybod eich bod chi hefyd yn cael gostyngiad o 20% ar gyrsiau Ôl-raddedig? Mae USW yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyrsiau ôl-radd ac mae ein tîm derbyniadau cyfeillgar bob amser wrth law i'ch helpu i ddod o hyd i'r un perffaith.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ostyngiad y cyn-fyfyrwyr a bwrsariaethau penodol isod!

Mae’r holl waith celf ar wefan Alumni PDC yn waith graddedigion.
Credydau delwedd:
Delwedd baner: Arhantika Rebello
Chwith i’r dde: Lerined Sanchez-Portes, Steffan Clifton, Aarthy Balaganesh
Teulu PDC: Curtis Hughes
Ysgoloriaethau a Bwrsarïau: Arhantika Rebello