Mae gan alumni PDC, yn ogystal â chyn-fyfyrwyr Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru, Casnewydd a sefydliadau blaenorol hawl i sawl gostyngiad ledled y Brifysgol. Mae mwy o wybodaeth ar gael isod!
Astudiaeth Ôl-raddedig
Oeddech chi’n gwybod bod dros 5,500 o fyfyrwyr yn dewis astudio cwrs ôl-radd gyda ni bob blwyddyn?

Rhowch eich hun ar y blaen gyda chymhwyster ôl-radd neu broffesiynol gan PDC! Mae gennym amrywiaeth eang o gyrsiau i’w cynnig a gall graddedigion gael hyd at 20% o ostyngiad.
Datblygiad Proffesiynol
Atgyfnerthwch eich sgiliau a datblygwch eich hunan gyda chwrs sy’n hyblyg ac yn gweddu i’ch ffordd o fyw.

O gyrsiau byr i gymwysterau proffesiynol, mae amrywiaeth o raglenni datblygu ar gael gyda gostyngiad o 10% i alumni PDC. Nodwch Alumni PDC ar ôl i chi ddod o hyd i’ch cwrs delfrydol!
Argraffu a Dylunio PDC
Gall
ein tîm cyfeillgar, profiadol a chymwynasgar helpu gyda’ch holl anghenion
argraffu, dylunio a chopïo, gyda thri dyluniwr graffeg a chyfleusterau
argraffu ardderchog ar y safle ar Gampws Trefforest.

Os ydych yn bwriadu ail-frandio eich busnes, codi eich cynnwys cyfryngau cymdeithasol i lefel uwch neu argraffu graffeg arddangos, mae Argraffu a Dylunio PDC wrth law i helpu. Mae gan raddedigion hawl i 10% o ostyngiad oddi ar holl wasanaethau Argraffu a Dylunio PDC.
Cynadleddau, Digwyddiadau a Chyfleusterau
Os ydych yn chwilio am ddatrysiadau proffesiynol a chost effeithiol i gynnal cynadleddau, cyfarfodydd, sesiynau hyfforddi, trafodaethau panel a dyddiau asesu diwrnodau llawn, gall ein tîm cynadleddau profiadol helpu.

Pa un ai ar gyfer cyfarfodydd neu ddigwyddiadau, cyfleusterau arlwyo neu dechnegol, bydd ein tîm pwrpasol wrth law yn cyflawni eich holl anghenion ac yn rhagori ar eich disgwyliadau gyda gostyngiad o 10% i raddedigion.
Cyfnewidfa Fusnes PDC
Cyfnewidfa PDC yw prif ffynhonnell ymgysylltu busnes yn PDC. Mae ein tîm o Reolwyr Ymgysylltu wedi’u paratoi i gefnogi amrywiaeth o heriau busnes drwy ddefnyddio’r dalent, yr arbenigedd a’r cyfleusterau sydd yn PDC.

Gall graddedigion ddefnyddio mannau cyfarfod, mannau cydweithio a chael cefnogaeth ddiagnostig 1:1 gan ein Rheolwyr Ymgysylltu am ddim yn ogystal â chael cyfleoedd i gael gafael ar gyllid dichonoldeb a chwmpasu ar gyfer Ymchwil a Datblygu a chydweithio.
Aelodaeth o’r Gampfa
Rhowch
gychwyn egnïol
i’ch taith ffitrwydd gyda’r FitZone ar Gampws Trefforest. Gydag amrywiaeth o
ddosbarthiadau a chyfleusterau trawiadol i’ch helpu i fyw bywyd iach ac egnïol. Beth bynnag fo’ch
nod, mae rhywbeth yno i bawb.

Fel person graddedig o PDC mae hawl gennych i gael gostyngiad alumni oddi ar bob aelodaeth o FitZone. Cewch ddefnyddio cyfleusterau fel y gampfa, ystafell gryfder a dosbarthiadau iechyd a ffitrwydd am ddim cost ychwanegol! Cofrestrwch heddiw a chymerwch yr awenau gyda’ch iechyd.
Mae’r holl waith celf ar wefan Alumni PDC yn waith graddedigion.
Credydau delwedd:
Delwedd baner: Arhantika Rebello
Chwith i’r dde: Lily Watts, Rhianne Oakley, Arhantika Rebello, Anastassia Svets, Matthew Lofthouse