16-07-2019
Mae Prifysgol De Cymru wedi cytuno i werthu safle’r hen gampws yng Nghaerllion i Redrow.
Cytunwyd ar bris o £6.2m. Mae prisiad annibynnol yn nodi bod hyn yn cynrychioli ei werth teg ar y farchnad.
Gan nad yw PDC yn defnyddio’r hen gampws na'i angen erbyn hyn, mae gwerthu’r safle yn rhan o rwymedigaethau elusennol PDC i ddefnyddio’i hasedau yn y ffordd orau bosibl er mwyn cefnogi addysgu a dysgu mewn addysg uwch.
Bydd y gwerthiant hwn yn galluogi PDC a’i bartneriaid i symud ymlaen ac ymchwilio i’r hyn sydd bellach yn bosibl o ran dewisiadau amseru ac ariannu ar gyfer datblygu addysg uwch yng nghanol dinas Casnewydd. Byddwn yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd ar ddyfodol yn y ddinas.
Bydd y perchennog newydd nawr yn gweithio gyda’r Cyngor ar ddyfodol safle Caerllion.
13-01-2020
07-01-2020
01-12-2019
01-11-2019
29-10-2019
23-10-2019
16-07-2019
09-07-2019
04-07-2019