09-07-2019
Mae Jayne Ludlow wedi cael Cymrodoriaeth gan Brifysgol De Cymru.
Mae Jayne Ludlow, rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, wedi cael Cymrodoriaeth gan Brifysgol De Cymru (PDC).
Y wobr hon yw’r anrhydedd ddiweddaraf i Ms Ludlow, a dderbyniodd MBE am ei gwasanaethau i bêl-droed menywod yng Nghymru yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines ym mis Mehefin 2019. Yn gynharach yn 2019 fe arweiniodd hi Gymru o fewn trwch blewyn i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd i Ferched yn Ffrainc.
Mae PDC yn rhoi Cymrodoriaethau i bobl eithriadol sy’n arweinwyr go iawn yn eu maes, gan eu gwahodd i ddod yn rhan o’r gymuned academaidd drwy’r anrhydedd sylweddol hwn.
Ar ôl derbyn y Gymrodoriaeth, dywedodd Ms Ludlow: “Mae’n hollol wych. Mae eleni wedi bod yn flwyddyn enfawr i ni fel grŵp o staff, chwaraewyr, ac i mi yn unigol.
"Mae’n debyg ei fod yn golygu llawer mwy na nifer o bethau dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd lle’r ydym ni – yn fy nghymuned i. Plentyn o’r Rhondda ydw i, aeth fy chwaer i’r brifysgol hon, ond fe benderfynais i deithio ymhellach.
“Ond un o’r prif resymau pam y penderfynais ddod yn ôl i Gymru oedd i wneud yn siwr ein bod yn ysgogi mwy o fenywod i gymryd rhan yn y gêm a'i datblygu, ac mae cael sefydliad fel PDC i gydnabod gêm y menywod yn arbennig i ni fel tîm cenedlaethol, ac i bob menyw ifanc yn y dyfodol sydd eisiau dod drwy’r system hon.”
Dywedodd yr Athro Julie Lydon, Is-ganghellor PDC: “Rydym yn falch iawn o anrhydeddu Jayne gyda’r Gymrodoriaeth hon.
“Mae gwaith diflino Jayne fel rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol, a’i hymdrechion i hyrwyddo datblygiad y gêm, yn ysbrydoliaeth i filoedd, a bydd yn sicr o ddenu mwy o ferched i gymryd rhan yn y gamp.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hi ar ddatblygu hyfforddiant chwaraeon ymhellach ymysg menywod, a gofyn am ei barn am sut y gall PDC barhau i wella’r cyrsiau chwaraeon rydym yn eu cynnig i filoedd o israddedigion.”
Dywedodd Rob Griffiths, Dirprwy Bennaeth Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer Proffesiynol ym Mhrifysgol De Cymru, yn y seremoni raddio lle dyfarnwyd y Gymrodoriaeth i Ms Ludlow: “A hithau'n teimlo'n angerddol am addysg, mae hi’n parhau i ddatblygu ei hun a’r bobl o’i chwmpas.
“Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio fel llysgennad chwaraeon i Brifysgol De Cymru gan chwarae rhan annatod yn y gwaith o'n helpu i gyflawni ein nod strategol o annog mwy o fenywod i astudio graddau sy’n gysylltiedig â chwaraeon.
“Mae Jayne yn gwneud cyfraniad hanfodol i’n prosiect uchelgeisiol Menywod mewn Chwaraeon sy’n ceisio cefnogi a mentora myfyrwyr a datblygu’r sgiliau graddedig sydd eu hangen i weithio ym maes chwaraeon menywod.”
13-01-2020
07-01-2020
01-12-2019
01-11-2019
29-10-2019
23-10-2019
16-07-2019
09-07-2019
04-07-2019