Mae’r Tîm Recriwtio Myfyrwyr wedi datblygu pecyn o adnoddau ar-lein i’ch cefnogi chi, eich myfyrwyr, eu rhieni a’u gofalwyr gyda’r daith addysg uwch tra eich bod chi i ffwrdd o’r ysgol.

Gydag ystod o adnoddau rhyngweithiol ar gael gan ein Cyfadrannau, bydd ein hadnoddau pwnc-benodol ar-lein yn cynnig blas go iawn ar astudio’r pynciau hyn yn y Brifysgol. Mae pob un o'n sesiynau yn cael eu darparu yn unol â Chwricwlwm Cymru a'r mesysydd dysgu a phrofiad cysylltiedig.

Rydym yn gobeithio bod yr adnoddau hyn yn helpu ac yn cynnwys digon o wybodaeth ddefnyddiol. Os oes pwnc penodol yr ydych chi eisiau i ni ganolbwyntio arno, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i weithio gyda chi.

Sesiwn Efelychu Ystafell Masnachu Ariannol

Dyddiad: Hyblyg - cysylltwch i drefnu sesiwn.

Trwy ddefnyddio ein sesiwn efelychu Lab Cyllid Buddsoddwyr Byd-eang, bydd myfyrwyr yn ymateb i newidiadau mewn prisoedd ac eitemau newyddion sy’n berthnasol i bortffolio o gyfrannau a nwyddau.

Cyflwynir y sesiwn gyffrous hon ar lein yn unig, a bydd yn darparu blas go iawn ar y sgiliau a’r seicoleg sy’n rhan o fasnachu ariannol.

Bydd lleoedd yn cael eu neilltuo ar sail system gyntaf i’r felin.

*Sesiwn Saesneg

>> Neilltuwch eich lle

Helfa Drysor Seiberddiogelwch

Mae angen sgiliau datrys problemau da ar swyddi Seiberddiogelwch, Rhaglennu Cyfrifiaduron ac ar gyfer llawer o swyddi digidol eraill – rhowch brawf ar eich sgiliau yn y gweithgaredd helfa drysor hwn.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y gweithgaredd


Casglu Gwybodaeth Ffynhonnell-Agored (OSINT - Open Source Intelligence Gathering)

Gwybodaeth sy’n cael ei chasglu gan ffynonellau cyhoeddus yw gwybodaeth ffynhonnell-agored, fel ffynonellau o’r rhyngrwyd.

Wrth i bobl rannu rhagor o’u bywydau ar-lein, gall yr wybodaeth yma gael ei chamddefnyddio drwy Wybodaeth Ffynhonnell-Agored.

Dysgwch ragor am yr elfen hon o Seiber-ddiogelwch mewn cyflwyniad byr gan Elaine Haigh, sy’n ddarlithydd yn yr Academi Seiber-ddiogelwch Genedlaethol, Prifysgol De Cymru.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn

>> Agor cyflwyniad 


Y Rhyngrwyd pethau (The Internet of Things)

Beth yw y Rhyngrwyd Pethau, beth mae’n ei wneud a sut bydd yn newid ein bywydau ? 

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn


Y Rhyngrwyd Pethau gyda Deallusrwydd Artiffisial

Sesiwn sy’n cyflwyno prif ddiffiniadau y rhyngrwyd pethau a’i gymwysiadau ynghyd â’r cyfleoedd gwahanol y mae technegau dysgu peirianyddol yn eu cynnig.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn


Rhesymu Niwlog / Fuzzy Logic

Mae Rhesymeg niwlog yn dechneg Deallusrwydd Artiffisial (AI) sy’n cynrychioli pethau aneglur. Mae ganddo nifer o gymwyseddau, gan gynnwys rheoli peiriannau.

Dyma ddogfen sy’n rhoi cyflwyniad byr i AI gyda taenlen y gellir ei defnyddio i arbrofi gyda rhesymu niwlog.

*Sesiwn Saesneg

>> Gweithgaredd

>> Taenlen

Pam astudio Ffasiwn?

Oes gen ti ddiddordeb mewn ffasiwn a’r diwydiannau creadigol? Darganfydda mwy am Ffasiwn PDC !

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn


Dylunio Ffasiwn – creu naratif (rhan 1 & 2)

Adrodd stori drwy ddylunio a datblygu cysyniadau

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn 1

>> Agor y sesiwn 2


Gwneud ffasiwn yn fwy cynaliadwy

Trwy ddefnyddio enghreifftiau o’r byd go iawn, mae Ffasiwn PDC yn cyflwyno 5 gam tuag at gynaliadwyedd yn y diwydiant.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn


Dylunio Ffasiwn: Gweithdai Raeburn 

Gan ddilyn briff Raeburn, gwylia ein darlithydd academaidd yn creu dilledyn siarc a panda i dynnu sylw at benwythnos Ymwybyddiaeth y Siarcod a Diwrnod Cenedlaethol y Panda @raeburn_design

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn 1

>> Agor y sesiwn 2


Llyfrgell Adnoddau Digidol Dylunio Ffasiwn

Mae ein tîm ffasiwn wedi datblygu cronfa o adnoddau digidol sy'n cynnwys cymorth gyda'r broses ddylunio, ffibrau a ffabrigau, gwnïo, torri patrymau, hanes a theori ffasiwn.

*Sesiwn Saesneg 

>> Agor llyfrgell adnoddau

Datrys problem dylunio

Mae Graffeg PDC yn cyflwyno canllaw gweledol, cam-wrth-gam i ymateb i briff dylunio.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn

Cyflwyniad i Brotest

Amlinelliad o’r prif themâu yn hanes y brotest, yng nghyd-destun Prydain fodern.

Yn ystod y sesiwn, byddwn yn annog chi i adlewyrchu ar eich perthynas personol gyda phrotestio, gan archwilio sut mae protest yn rhan o berthnasau cymdeithasol a gwleidyddol bob dydd.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn

Dylunio Mewnol: Pethau i’w gwneud adref

Rhestr o weithgareddau ac adnoddau i gadw dylunwyr mewnol y dyfodol yn brysur yn y cartref.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y gweithgaredd

Modelu Mathemategol

Mae modelu mathemategol yn galluogi i ni ddeall a gwneud rhagdybiaethau am  systemau’r byd go iawn. 

Mae’r sgwrs hon yn cyflwyno cysyniad modelu mathemategol, gan ddefnyddio enghreifftiau i ddangos sut i adeiladu modelau ar gyfer problemau go iawn.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn


Systemau Dynamig

Sesiwn sy’n ymdrin â chysyniad y system ddynamig, gan edrych ar sawl enghraifft.

Yn ystod y sesiwn, bydd cyfle i astudio un system ddynamig yn benodol – sy’n gysylltiedig â rhywbeth o’r enw ‘rhifau hapus’.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn


Gyrfaoedd mewn Mathemateg 

Bydd y sesiwn yn trafod manteision astudio Mathemateg yn y brifysgol, a’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael i raddedigion Mathemateg.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn


Modelu Sombi

Ydych chi erioed wedi meddwl am sut i fodelu apocalyps sombiaid? Dyma’r sesiwn i chi! Yn y sgwrs hon, rydym yn trafod agweddau sylfaenol sy’n ymwneud â chreu modelau mathemategol a sut i’w defnyddio i ragweld sut fyddai sombiaid yn symud trwy ddinas. Fel mae’n digwydd, gellir defnyddio modelau tebyg wrth edrych ar ba mor gyflym y mae heintiau yn symud trwy boblogaeth, a’u defnyddio i ragweld pa mor gyflym y byddai sombiaid yn cymryd drosto! Mae’r sgwrs hon ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 13 a defnyddir differiad yn aml.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn

Busnes Cerddoriaeth - Pecyn Haf 

Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn wynebu heriau fel erioed o’r blaen. Dysgwch sut gallwch gael effaith gadarnhaol ar ddyfodol y diwydiant wrth iddo addasu i’r ‘normal’ newydd.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y Cyflwyniad


Creu Cerddoriaeth gyda ffon clyfar

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y Cyflwyniad

Gweld: hyfforddi dy lygaid

Dysga sut i wella dy lygaid gyda Ffoto-newyddiaduraeth PDC. Beth am ymuno â’n prosiect ar instagram (@photoj_usw_seeing)?

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn

Schizophrenia ac Anhwylderau Perthnasol 

Dr Phil Tyson yn trafod Schizophrenia ac anhwylderau perthnasol. 

Dyma ddosbarth meistr sy’n edrych ar hanes Schizophrenia ac anhwylderau eraill

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn


Seicoleg Fforensig – Dosbarth Mesitr 

Dosbarth Meistr gan Dr Rachel Taylor's sy’n edrych ar swyddogaeth amrywiol Seicolegwyr Fforensig. Beth yn union y maen nhw’n ei wneud?  

Bydd Dr Taylor yn trafod asesiadau risg, ymyriadau, theori ac enghreifftiau o ffactorau fforensig seicolegol.

*Sesiwn Saesneg 

>> Agor y sesiwn

Archwilio sector gwasanaethau cyhoeddus

Bydd y sesiwn hon yn ystyried gwasanaethau cyhoeddus o safbwyntiau domestig, rhyngwladol ac ar draws sectorau gwahanol, gan ganolbwyntio’n benodol ar faterion strategol a materion y rheng flaen.

*Sesiwn Saesneg

Hyd: 45 munud

>> Agor y sesiwn

Effeithiau Gweledol – Beth yw VFX?

Cyflwyniad i’r byd Effeithiau Gweledol (VFX). Gan edrych ar ble gallwn eu ffeindio a sut maen nhw’n cael eu creu.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn


Effeithiau Gweledol- Nuke: Mapio prosiectau

Sesiwn ar y pecyn meddalwedd NukeX, sy’n cael ei ddefnyddio yn y diwydiant VFX. Dysgwch y technegau cywir i droi Paentiadau Digidol 2D (DMP) i mewn i olygfa gyda chamera symudol.

*Sesiwn Saesneg 

>> Agor y sesiwn


Graffeg Symudol - Cinema4D: Ffiseg a Hwyl (Motion Graphics)
Cyflwyniad i nodweddion sylfaenol ffiseg Cinema 4D, gan ddefnyddio technegau goleuadau a modelu i greu darnau graffeg symudol hwyl wedi’u gyrru gan ffiseg.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn


Cyfres Bioleg Maes 

Yn y gyfres yma, bydd y Dangosydd Technegol Harri Little yn rhannu ei arbenigedd a dangos sut gallwch chi ddatblygu eich sgiliau bioleg o’r ardd gefn.

*Sesiwn Saesneg

>> Sesiwn 1: Cyflwyniad

>> Sesiwn 2: Cofnodi nodiadau maes

>> Sesiwn 3: Braslunio a thynnu lluniau

>> Sesiwn 4: Recordio'r cofnod dyddiol

>> Sesiwn 5: Defnyddio ffonau clyfar i wneud nodiadau gwaith maes

>> Sesiwn 6: Adnabod Rhywogaethau


Astudio Meddygaeth

Yn y cyflwyniad hwn, bydd Dr Lewis Fall yn trafod y broses ymgeisio i ysgol feddygaeth, a’r llwybrau amgen sydd ar gael i fyfyrwyr nad ydynt yn llwyddiannus ar y tro cyntaf. Llwybr amgen yw gradd BSc (Anrh) Gwyddorau Meddygol sy’n paratoi myfyrwyr i fynd i ysgol meddygaeth ar ôl graddio.

*Sesiwn Saesneg

>>Sesiwn agored

Webinar Cymhwysedd Digidol 

Cyflwynwyd gan ddarlithydd Addysgu Cynradd Mat Pullen. Sesiwn a fydd yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau digidol angenrheidiol fydd eu hangen i fod yn fyfyriwr addysg cynradd.  

*Sesiwn Saesneg

>> Sesiwn


Pecyn Adolygu’r Gymraeg 

Defnyddiwch y pecyn yma i’ch i ddatblygu ac ymarfer eich sgiliau Cymraeg cyn dechrau’r cwrs Addysg Gynradd gyda statws athro cymwysedig.

>>Sesiwn agored


Bywyd Myfyriwr Addysg

Ydych chi eisiau bod yn athro/athrawes? Bydd y gweithdy yma yn rhoi braslun o beth i’w ddisgwyl a sut i baratoi ar gyfer y cwrs Addysg Gynradd gyda statws athro cymwysedig ym Mhrifysgol De Cymru.

>> Sesiwn agored


Cyngor ar sut i lwyddo yn eich cyfweliad Addysg Gynradd

Er mwyn ymuno â'n cwrs BA (Anhr) Addysg Gynradd gyda SAC, bydd rhaid i ti gael cyfweliad ar-lein. Yn y fideo yma, bydd arweinydd y cwrs, Kelly, yn rhannu ei chyngor ar sut i lwyddo yn eich cyfweliad. 

>> Sesiwn agored

Darganfyddwch pam fod astudio''r gwyddorau iechyd yn wahanol a beth fydd disgwyl i chi wneud fel myfyriwr. Sut mae myfyrwyr, clinigwyr ac arbenigwyr proffesiynol yn y maes gofal iechyd yn edrych ar y byd?


>> Sesiwn agored

Gweminar Theori Gwaith Cymdeithasol: Addressing The Fear Factor

Bydd myfyrwraig BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol Becky Slater yn ymddangos ar banel gweminar gyda myfyrwyr eraill y DU yn trafod theori gwaith cymdeithasol.

*Sesiwn Saesneg

>> Agor y sesiwn