Yn 2021, lansiwyd ein Gwobrau Athrawon a Chynghorwyr cyntaf, ar y cyd â First Campus.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno i athrawon a chynghorwyr o ysgolion uwchradd a cholegau ar hyd y DU sydd wedi dangos rhagoriaeth yn ystod y flwyddyn academaidd 2020/21, mewn 4 categori. Mae pob enillydd wedi derbyn £500 tuag at gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol ac/neu fentrau lles staff yn eu hysgol/coleg.
Cafwyd ymateb gwych i'r gwobrau, gyda 64 o enwebiadau ar draws y 4 categori, gan ysgolion a cholegau ar hyd y DU. Ar Ddydd Gwener 9 Gorffennaf, cynhaliwyd Seremoni Wobrwyo Rithiol a chyhoeddwyr yr enillwyr. Gallwch weld manylion yr enillwyr a'r rhai wnaeth gyrraedd ein rhestr fer ym mhob categori isod, a hefyd gwylio recordiad o'r Seremoni.
Dyfyniadau gan Ein henillwyr



Gwyliwch y seremoni rithiol isod:
Rydym wedi ein syfrdanu gan ymrwymiad, dyfalbarhad, angerdd a gwytnwch athrawon a chynghorwyr trwy gydol y cyfnod hwn. Rydych chi wedi dal ati a chadw'r dysgu i fynd i'ch myfyrwyr o dan yr amodau mwyaf heriol. Sêra Evans, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr y DU