Mae tîm o arbenigwyr Prifysgol De Cymru yn gweithio gyda ysgolion a cholegau ledled y DU i ddarparu gweithdai i fyfyrwyr er sy'n eu cadw nhw'n hysbys am addysg uwch , gan eu cefnogi nhw wrth bontio i'r brifysgol. Gweler manylion llawn ein gweithdai addysg uwch isod.
Mae ein gweithdai yn cael eu cynnig am ddim. Maen nhw ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae modd i ni gyfuno pynciau neu weithdai os oes gennych anghenion penodol. Rydym yn hapus i addasu ein sesiynau i fodloni anghenion eich myfyrwyr.
Bydd
pob un o'n sesiynau yn cael eu cynnal ar-lein yn ystod tymor yr Hydref.
Gallwn ni eu darparu yn fyw ar adeg sy'n gyfleus i chi.
Os hoffech drefnu gweithdy addysg uwch ar-lein neu mewn person, anfonwch ebost atom ni.
Maen nhw wedi dod allan o’r sesiwn yn gyffro i gyd. Dywedon nhw fod y sesiwn yn ddefnyddiol a pha mor ddiflas bydda eu datganiadau personol wedi bod heb eich cyfraniad heddiw. Diolch am ymweld a rhannu gyda ni. Darlithydd, Coleg Gwent