Eleni, rydym yn cynnal Gwobrau Ysgolion a Cholegau Ysgol Ffilm a Theledu Cymru am y trydydd tro, ar y cyd ag Into Film Cymru a Screen Alliance Wales.
Rydyn ni eisiau dathlu’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud wrth ddefnyddio ffilm mewn ysgolion a cholegau, a’r dalent arbennig ymhlith pobl ifanc. Er mwyn cydnabod angerdd pobl ifanc tuag at ffilmiau a thynnu sylw at ein sêr disglair a chanmol ein haddysgwyr mwyaf dylanwadol, rydyn ni wedi creu cyfres o wobrau ar y cyd ag Into Film Cymru a Screen Alliance Wales i ddathlu gwaith rhagorol ein pobl ifanc greadigol.
Mae pob categori ar agor i bobl ifanc 11-15 a 16-19 oed sy'n astudio mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru a Lloegr.
Categorïau
Ffilm Naratif (Ffuglen)
Mae'r wobr hon ar gyfer unigolyn neu grŵp sy'n creu'r ffilm naratif gwreiddiol gorau (ffuglen) yn 2020-21. Dylai'r ffilmiau'n para rhwng 3 i 20 munud, ac mae'n rhaid bod gwneuthurwyr ffilm yn cwrdd â gofynion y categori oedran perthnasol adeg gynhyrchu'r ffilm.
Ffilm Naratif (Dogfen)
Mae'r wobr hon ar gyfer unigolyn neu grŵp sy'n creu'r ffilm naratif gwreiddiol gorau (dogfen) yn 2020-21. Dylai'r ffilmiau'n para rhwng 3 i 20 munud, ac mae'n rhaid bod gwneuthurwyr ffilm yn cwrdd â gofynion y categori oedran perthnasol adeg gynhyrchu'r ffilm.
Ffilm Arbrofol, Nad yw Naratif neu Animeiddio
Mae'r wobr hon ar gyfer unigolyn neu grŵp sy'n creu'r ffilm arbrofol neu'r ffilm nad yw naratif gwreiddiol gorau yn 2020-21. Gellir cyflwyno fideos cerdd, ffilmiau cerdd neu ffilmiau animeiddio. Dylai'r ffilmiau'n para rhwng 2 i 20 munud, ac mae'n rhaid bod gwneuthurwyr ffilm yn cwrdd â gofynion y categori oedran perthnasol adeg gynhyrchu'r ffilm.
Adolygiad Ffilm Gorau
Mae'r wobr hon ar gyfer yr adolygiad ysgrifenedig neu glyweledol gorau o ffilm unigol a luniwyd yn 2020-21.
Llysgennad Sinema (Gwobr Athrawon)
Mae'r wobr hon ar gyfer athrawon neu diwtoriaid sydd wedi creu diwylliant o werthfawrogi ffilm, ac wedi ysbrydoli pobl eraill, trwy glwb ffilm neu sinema, prosiect neu fenter arall yn 2020-21. Dylech ddangos effaith y clwb, prosiect neu fenter, a gallwch wneud hyn ar ffurf ysgrifenedig neu glyweledol.
Sut i wneud cais
Mae ceisiadau bellach wedi cau. Byddwn yn cysylltu ag enillwyr pob categori ym mis Medi. Pob lwc!
Enillwyr 2020
Y llynedd, cynhaliwyd dathliad ar-lein, oedd yn cynnwys clipiau o'r enillwyr, sylwadau gan ein beirniaid a'r gwaith anhygoel gafodd ei gyflwyno ar gyfer ein Gwobrau 2020.
Roedd safon y gwaith yn uchel iawn eto eleni ac roeddem yn arbennig o falch o’r gwaith anhygoel gafodd ei gyflwyno yn ystod cyfnod mor ansicr.
