Mae Prifysgol Cymru wedi ymrwymo i gefnogi grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o unrhyw oedran, cefndir neu grŵp ethnig a sicrhau eu bod yn cael cyfle teg a chyfartal i astudio mewn modd a gefnogir.
O fewn Tîm Recriwtio Myfyrwyr y DU, mae tîm o staff sy'n cefnogi ac yn cyflwyno ystod o weithgareddau ar gyfer myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch ar hyn o bryd. Cysylltwch â'r aelod tîm perthnasol isod i ddarganfod sut y gallai PDC eich cefnogi chi a'r grwpiau rydych chi'n gweithio gyda nhw i gael mynediad i addysg uwch.
Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd i helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer addysg uwch. Os ydych chi'n meddwl y gallech chi a / neu'ch myfyrwyr elwa o'n cefnogaeth, cysylltwch â ni.

Carrie Williams
Mae Rebecca yn arwain gwaith y Tîm Ehangu Cyfranogiad.

Rebecca Breen
Mae
Rebecca yn darparu cefnogaeth i blant a theuluoedd milwrol, a myfyrwyr sydd
ag anawsterau dysgu ychwanegol, gan gynnwys awtistiaeth a dyslecsia, i
gael mynediad i addysg uwch.

Bronwen Rickard
Mae Bronwen yn gweithio gyda staff academaidd a
myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) ysbrydoledig i
ddarparu gweithgareddau perthnasol a rhyngweithiol ar gyfer myfyrwyr ysgol a
choleg, ynghyd â sefydlu cysylltiadau â chymunedau ehangach BAME. Mae Bronwen
hefyd yn gweithio gyda Rebecca i annog myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg i
ystyried astudio rhan o'u cwrs prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Alexandra Roberts
Mae Ali ar gael i ateb cwestiynau, a darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i oedolion 21+ sy'n ystyried addysg uwch ac nad sydd â chymwysterau cyfredol yn uwch na Lefel 3.

Oliver Stacey
Prif ffocws Oli yw gweithio gyda'r rhai o godau
post difreintiedig a nodwyd trwy systemau POLAR a TUNDRA. Mae Oli yn
cyflwyno gweithgareddau i gefnogi grwpiau sydd wedi ymddieithrio a chynyddu eu
dyheadau tuag at fynychu'r brifysgol.

Katie Whitmore
Mae Katie
yn cefnogi myfyrwyr sydd naill ai mewn gofal ar hyn o bryd, neu sydd
wedi bod mewn gofal ar ryw adeg yn eu bywydau, i gael mynediad i addysg
uwch.