Mae ein Hysgol Haf yn cynnig cyfle i fyfyrwyr brofi astudio ar lefel prifysgol trwy raglen o sesiynau pwnc-benodol a gwybodaeth, cyngor ac arweiniad addysg uwch rhyngweithiol.
Mae lleoedd yn yr Ysgol Haf yn gyfyngedig a chânt eu dyrannu i fyfyrwyr Blwyddyn 12 ysgol a choleg o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch ar hyn o bryd, ac sy'n cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd yn unol â Chynllun Ffioedd a Mynediad 2020-21 y Brifysgol. Nid oes angen talu i fynychu'r Ysgol Haf.
Bydd myfyrwyr sy'n mynychu'r digwyddiad ac yn cofrestru ar gwrs gradd israddedig amser llawn 3 neu 4 blynedd ym mis Medi 2023 , yn gymwys ar gyfer Bwrsariaeth Ysgol Haf PDC, gwerth £500 i'w wario ar dechnoleg neu ddeunyddiau eraill i gefnogi eu dysgu.
Darllenwch mwy am ein Hysgol Haf ddiwethaf yma.