Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn un o brifysgolion mwyaf cyffrous ac uchelgeisiol Prydain. Yn arloesol, yn ffyniannus ac yn gynaliadwy, rydym yn gweithio i adeiladu dyfodol gwell i'n myfyrwyr, ein cymunedau a'n partneriaid yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.


Mae PDC yn gosod ymgysylltu, cydweithio a gweithio mewn partneriaeth wrth galon popeth a wnawn, gan weithio ochr yn ochr â busnes, diwydiant, a’r economi gymdeithasol, i fynd i’r afael ag anghenion a nodwyd a chyflawni’r canlyniadau gorau i ddysgwyr a sefydliadau unigol. Rydym yn gweithio ar y cyd â diwydiant, gan ymchwilio ac arloesi i ymdrin â rhai o'r heriau byd-eang mwyaf, o ynni ac iechyd i ddiogelwch a chynaliadwyedd.

Mae PDC yn brifysgol â ffocws galwedigaethol, sy'n paratoi myfyrwyr i gefnogi diwydiannau allweddol nawr ac yn y dyfodol. Mae cyflogwyr yn gweithio'n agos gyda PDC i gyd-greu cwricwlwm sy'n cefnogi eu hanghenion yn y dyfodol. Mae hyn yn rhoi gweithlu medrus a pherthnasol iddynt y gallant ddibynnu arno, gyda nifer fawr o raddedigion yn dod o PDC a'n sefydliadau partner bob blwyddyn. Rydym yn cynhyrchu’r gweithlu y mae cyflogwyr yn dweud wrthym y maent ei eisiau a’i angen.

Rydym yn brifysgol amlddisgyblaethol gyda hanes cryf o safbwynt ein partneriaethau, ehangu mynediad, a llwyddiant myfyrwyr, gyda bron i hanner y myfyrwyr yn PDC yn dod o ardaloedd sydd o fewn dau gwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) – sy’n arwyddocaol uwch na'r cyfartaledd ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a'r DU.

Gyda thri champws yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd, rydym mewn lleoliad da i’n staff a’n myfyrwyr allu mwynhau popeth sydd gan Dde Cymru i’w gynnig. Rydym hefyd wedi darparu ystod o lwybrau astudio cynhwysol, gan gefnogi dysgu gydol oes ac opsiynau hyblyg ar gyfer ein myfyrwyr. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n colegau partner, ac mae gennym ddau is-gwmni sy’n eiddo llwyr i PDC, sef Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Choleg Merthyr Tudful.

Cyflawniadau diweddar

Dysgwch fwy am PDC