“Mae Strategaeth y Brifysgol - PDC 2030 - yn nodi ein cyfeiriad ar gyfer y degawd nesaf; llwybr ar gyfer y dyfodol sy’n feiddgar ac uchelgeisiol i sicrhau ein llwyddiant parhaus a’n cynaliadwyedd hirdymor.

“Mae ein gweledigaeth yn glir, rydym eisiau newid bywydau a’n byd er gwell. Mae ein byd yn newid ar gyflymder dwys a'n gwaith ni yw rhoi'r sgiliau, y wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i wneud y gorau o'u potensial a chyfleoedd yn y dyfodol yn y byd gwaith.

“Gan weithio ar y cyd â diwydiant, bydd ein hymchwil a’n harloesedd yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau byd-eang mwyaf o ynni i iechyd i ddiogelwch, a darparu atebion i broblemau’r byd go iawn.”

Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredol

Vice-Chancellor Dr Ben Calvert at Newport Campus

Ein gwerthoedd

Yn PDC, rydym yn dal ein gwerthoedd yn agos at ein calonnau. Mae ein cymuned yn:

Ein pwrpas

Welcome Fest 2021 - Treforest

Yn PDC, rydym yn:

  • Uchelgeisiol ar ran ein myfyrwyr a staff, ac wedi ymrwymo i sicrhau effaith gadarnhaol
  • Canolbwyntio ar gynhwysiant, menter a thwf
  • Partner dibynadwy er budd a llwyddiant hirdymor i'r ddwy ochr
  • Creawdwr arloesol gwybodaeth ac atebion ar gyfer y dyfodol
  • Falch o fod wedi ein hangori yn ne Cymru gyda chyrhaeddiad byd-eang.

Ein huchelgeisiau

BEng Civil engineering - Adnen Ahmed

Dros y degawd nesaf, ein huchelgeisiau yw:

  • Bod yn Brifysgol fawr, ranbarthol gyda chynnig academaidd amser llawn a rhan-amser nodedig sy'n ddeniadol i farchnadoedd cartref a byd-eang
  • Darparu profiad rhagorol, cynhwysol, ymgysylltiol i fyfyrwyr
  • Sicrhau bod ein myfyrwyr yn cwblhau eu hastudiaethau yn llwyddiannus a sicrhau cyflogaeth yn eu meysydd arbenigedd
  • Ymgysylltu â phartneriaid i gael yr effaith fwyaf bosibl ar eu hymdrechion
  • Ymrwymo i wella llesiant y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn y dyfodol trwy weithredu unigol a chyfunol
  • Darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ar draws y rhanbarth a thu hwnt i gymryd rhan a symud ymlaen i addysg uwch
  • Bod yn gyflogwr ymgysylltiol, seiliedig ar werthoedd
  • Bod yn ariannol gynaliadwy yng nghyd-destun amgylchedd addysg uwch deinamig.

Ein nodau

Ein galluogwyr

EIN CYFLYMWYR