
Mae ymchwil PDC wedi'i anelu at wneud gwahaniaeth yn y byd go iawn, gan newid bywydau a'r byd er gwell.
Mae ein hymchwil yn darparu atebion i'r heriau a wynebir gan gymdeithas a'r economi, gydag ymchwilwyr yn gweithio ar draws disgyblaethau i helpu busnesau, cymunedau a llunwyr polisi i elwa o'u hallbynnau ymchwil. Gwneir cyfraniadau gwerthfawr tuag at sawl agwedd ar yr economi, yr amgylchedd, diwylliant, ac iechyd a llesiant ehangach. Mae strategaeth PDC 2030 yn cydnabod y rolau allweddol y mae ymchwil ac arloesi yn eu chwarae, ac mae’n canolbwyntio ar gyflawni’r nodau a ganlyn.

Galluoedd ymchwil rhagorol yn rhyngwladol
Byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygiad cyflymach a buddsoddiad yn ein meysydd ymchwil sydd ag enw da yn rhyngwladol, ac sy'n cael effaith fawr ar amgylchedd cynaliadwy; trosedd, diogelwch a chyfiawnder; iechyd a llesiant, a chreadigol.
Datblygir arfer pedagogaidd arloesol â ffocws, gan gynnwys defnydd o dechnolegau newydd.

Effaith ymchwil ac arloesi
Bydd ein timau ymchwil amlddisgyblaethol yn canolbwyntio ar ddarparu atebion perthnasol ac effeithiol i broblemau sy'n effeithio ar gymdeithas a'r economi.
Bydd dysgu ac addysgu yn seiliedig ar fewnwelediadau a thystiolaeth o'n heffaith ymchwil ac arloesi mewn diwydiant a'r gymuned.
Byddwn yn cefnogi, meithrin ac arddangos talent ac uchelgais ein hymchwil a’n harloesedd.

Cyfnewid gwybodaeth a sgiliau er budd myfyrwyr a phartneriaid strategol
Bydd ein partneriaethau strategol sylweddol yn mynd i'r afael â heriau byd-eang ac yn gweithredu fel catalyddion ar gyfer dylanwad a chefnogaeth ehangach.
Bydd ein gwaith cydweithredol yn canolbwyntio ar greu lefelau uwch o gynhyrchiant, arloesedd ac effaith economaidd.
Bydd yn gweithredu fel pont ar gyfer cyfnewid gwybodaeth rhwng myfyrwyr, cyflogwyr a buddiannau cymunedol.
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i ysbrydoli a chefnogi entrepreneuriaeth myfyrwyr.