
Mae'r momentwm y tu ôl i gynaliadwyedd yn cynyddu – mae Prifysgol De Cymru yn deall yr angen cynyddol am dryloywder a chyfrifoldeb, ac rydym yn ymfalchïo yn y mesurau cynaliadwyedd sydd ar waith yn ein cyfleusterau, ein partneriaethau a'n hymchwil. Rydym yn helpu i greu byd mwy diogel a chynaliadwy gyda'n hymchwil amlddisgyblaethol arloesol mewn hydrogen, ecoleg, treulio anaerobig, a systemau pŵer datblygedig.
Mewn partneriaeth â chwmnïau lleol a byd-eang, rydym yn gweithio i gyflawni'r allbwn mewn ffyrdd sydd o fudd i'r brifysgol ac i'r gymuned ehangach. Drwy ymgorffori cynaliadwyedd drwy ein cwricwlwm cyfan, rydym yn darparu'r sgiliau angenrheidiol i'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol i'w helpu i wynebu heriau byd-eang yn y dyfodol mewn ystod o sectorau.
Ein cwricwlwm
O ddatgarboneiddio gwres a phŵer i'r economi gylchol, ynni hydrogen, a gwyrddio diwydiant, mae'r defnydd o beirianneg, technoleg a phrosesau adnewyddadwy a chynaliadwy yn dod â chyfleoedd newydd yn eu sgil. Mae ein harbenigwyr, sy'n arwain y byd yn eu meysydd, yn defnyddio eu hymchwil arloesol i ddatblygu cwricwlwm sy'n helpu ein myfyrwyr i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r byd, nawr ac yn y dyfodol.
Ein cyrsiau:
Ein hymchwil
HYDROGEN

Mae hydrogen yn cynyddol bwysig fel ffordd o storio a chludo ynni gan mai dim ond dŵr pur mae’n ei greu fel sgil-gynnyrch pan gaiff ei losgi fel tanwydd neu ei ddefnyddio o fewn cell danwydd.
ANAEROBIG
Mae treulio anaerobig yn defnyddio prosesau biolegol yn absenoldeb ocsigen i drosi/ailgylchu nwyon diwydiannol a gwastraff defnyddwyr yn gyfansoddion organig gwerthfawr, ac i drin dŵr gwastraff.
AMGYLCHEDD CYNALIADWY
Mae ymchwil genedlaethol sy'n arwain y byd o fewn ein Canolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) yn ffocysu ar ddatblygu technolegau ar gyfer cynhyrchu, storio,
DEUNYDDIAU ADEILADU CYNALIADWY
Mae llawer o weithgarwch y ddynol ryw yn effeithio'n negyddol ar yr amgylchedd rydyn ni’n byw ynddo. Nid yw adeiladu, gyda deunyddiau fel dur a choncrit, yn eithriad.

Bu cynnydd sylweddol yn faint o’r ymchwil a wneir yn PDC sy'n arwain y byd yn ôl canlyniadau diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2021). Bu cynnydd o 49% mewn ymchwil sy'n arwain y byd (wedi'i gategoreiddio fel 4*) yn PDC ers y REF diwethaf yn 2014.
Mae PDC bellach yn bedwerydd yng Nghymru am effaith (i fyny o'r wythfed yn 2014, yn seiliedig ar 4* / 3*) gydag 81% o effaith ymchwil PDC yn cael ei hystyried yn un sy'n arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*). Mae gan bron dau o bob tri ymchwilydd PDC a gyflwynwyd i REF 2021 ymchwil sydd wedi'i chategoreiddio fel ymchwil sy'n arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4* neu 3*).
Ein cyfleusterau
Mae lle i gredu bod y Cyfleusterau Cemeg/Dadansoddi lawn cystal â'r rhai sydd ar gael mewn diwydiant. Mae myfyrwyr yn gwneud defnydd llawn o'r labordai yn ystod eu hastudiaethau ac yn cael profiad ymarferol gan ddefnyddio'r offer dadansoddol helaeth.
Wedi'u hadeiladu i'r safonau diogelwch diweddaraf, mae ein labordai'n cynnwys labordy Cemeg Organig pwrpasol, labordy Cemeg Anorganig/Ffisegol cyfunol, dau labordy offer cyffredinol, labordy ymchwil penodol i fyfyrwyr, a dau labordy arbenigol ar gyfer perfformio sbectrometreg cyseiniant magnetig niwclear (NMR) a microsgopeg sganio electronau (SEM).
Mae ein cyfleusterau peirianneg pwrpasol yn cynnwys Canolfan Awyrofod, sydd â’i hawyrennau ei hun, cyfres o gyfleusterau hyfforddi ymarferol wedi’u cymeradwyo gan y diwydiant awyrofod, a labordai electroneg wedi'u hategu gan dechnolegau Renesas sy'n arwain y byd. Rydym wedi diweddaru ein cyfleusterau'n barhaus, fel bod gan fyfyrwyr fynediad at yr offer a'r feddalwedd diweddaraf o safon diwydiant.
Mae'r Ganolfan Hydrogen yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil, datblygu ac arddangos technoleg ynni hydrogen newydd yng Nghymru.
Gan adeiladu ar ymchwil sefydledig y Brifysgol i ynni hydrogen drwy Ganolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC), mae'r Ganolfan Hydrogen ym Mharc Ynni Baglan ym Mhort Talbot, yn darparu llwyfan ar gyfer datblygiadau arbrofol o ran cynhyrchu hydrogen adnewyddadwy a storio ynni hydrogen newydd. Mae'r ganolfan yn galluogi ymchwil a datblygu pellach ar gerbydau hydrogen, cymwysiadau celloedd tanwydd a systemau ynni hydrogen cyffredinol. Mae’r Ganolfan yn ganolbwynt cyfres o brosiectau cydweithredol rhwng Prifysgol De Cymru a phartneriaid academaidd a diwydiannol eraill.
Mae'r Ganolfan Treulio Anaerobig (TA) ar Gampws Glyn-taf yn Nhrefforest yn cynnal gwaith ymchwil a datblygu wedi'i dargedu mewn cydweithrediad â diwydiant i wella effeithlonrwydd prosesau treulio anaerobig ac i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau arloesol yn y sector treulio anaerobig a biotechnoleg diwydiannol.
Mae gan y Ganolfan TA offer a chyfleusterau o'r radd flaenaf ac mae'n un o'r labordai sydd â'r offer gorau yn y wlad o blith y rhai sy'n ffocysu’n llwyr ar ddatblygu prosesau anaerobig gwell ac arloesol a hybu defnydd effeithlon o allbynnau'r broses. Mae hyn, ynghyd â dros ddeugain mlynedd o arbenigedd ymchwil a datblygu, a gwybodaeth gadarn am y diwydiant, yn golygu bod y Ganolfan mewn sefyllfa dda i gefnogi anghenion y diwydiant treulio anaerobig a bio-nwy, diwydiant sy’n prysur dyfu.
Ein partneriaethau

Yfory Gwyrddach
Mae arbenigwyr PDC yn gweithio gyda TATA Steel i wneud eu prosesau'n wyrddach ac yn rhatach.
Yn cwmpasu meysydd cynaliadwyedd, datgarboneiddio, cipio carbon a gwyddor data, mae llu o brosiectau ymchwil a diwydiannol yn sefydlu prosesau a fydd yn helpu i gyfyngu ar allyriadau a gwella effeithlonrwydd.
Mae TATA Steel yn gweithio fel partner diwydiannol ar amrywiaeth o brosiectau ymchwil gwerth miliynau o bunnoedd, gan gynnwys Canolfan Adnoddau Amgylchedd Cynaliadwy PDC (SERC), FLEXIS (Systemau Ynni Integredig Hyblyg) a RICE (Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol).

Datblygu tanwyddau cynaliadwy
Mae technoleg storio hydrogen newydd gam yn nes diolch i waith rhwng PDC a Chanolfan Ragoriaeth Hydro-Québec mewn Trydaneiddio Trafnidiaeth a Storio Ynni (CETEES).
Mae technoleg storio hydrogen â phatent, sy'n deillio o ymchwil PDC, wedi'i throsglwyddo i Hydro-Québec, i alluogi ei masnacheiddio fel rhan o ymdrechion parhaus i ddatgarboneiddio diwydiant a darparu ffynonellau ynni amgen a glanach.

Datgarboneiddio diwydiant yn Ne Cymru
PDC yw arweinydd academaidd Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), consortiwm sy'n datblygu cynllun ar gyfer datgarboneiddio diwydiant yn rhanbarth De Cymru.
Mae SWIC yn cynnwys rhai o sefydliadau diwydiant, ynni, seilwaith, cyfreithiol, academaidd a pheirianneg mwyaf blaenllaw Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r busnesau hyn yn cyflogi dros 100,000 o bobl ac maent wedi ymrwymo i greu economi ddi-garbon net yng Nghymru sy'n cefnogi swyddi a chymunedau cynaliadwy. Nod SWIC yw dod yn Glwstwr Diwydiannol cynaliadwy, arweiniol yn rhyngwladol, a all helpu i ddiwallu anghenion cymdeithasol, economaidd ac ynni De Cymru hyd at 2050 ac wedi hynny.