
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi darparu addysg iechyd, gofal, a pherthynol ers degawdau. Yn unol â hynny, mae ganddi gyfoeth o brofiad ac arbenigedd, ac mae wedi’i rhwydweithio’n wych, ar draws ecosystem addysg iechyd a darparu gofal iechyd Cymru. Rydym wedi ein gwreiddio yn Ne Cymru ac wedi ein hysbrydoli gan y cyfle i wella iechyd a lles yn y rhanbarth, ac yn canolbwyntio ar gymhwyso’r egwyddorion hyn i sicrhau effaith o fewn y rhanbarth a thu hwnt. Mae ein harbenigedd mewn anhwylderau datblygiadol, anableddau deallusol, seicoleg wybyddol, a gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn helpu i fynd i'r afael ag ystod eang o faterion yn ymwneud â heneiddio'n iach, hybu iechyd y boblogaeth, a lleihau bylchau yn ansawdd y gofal a brofir gan grwpiau agored i niwed. Rydym yn gweithio ar y cyd ar draws PDC, cyfadrannau a gwasanaethau proffesiynol, i gael mynediad at yr ystod eang o arbenigedd sydd ar gael i arloesi a chreu hyfforddiant a arweinir gan ddefnyddwyr, cwricwlwm, ac atebion i fynd i’r afael â heriau y gall sefydliadau a busnesau fod yn eu hwynebu.
Ein cwricwlwm
Wedi’u datblygu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, mae ein cyrsiau iechyd, lles a chwaraeon yn darparu cymysgedd unigryw o wybodaeth wyddonol, arbenigedd ymarferol a phrofiad. Gyda phwyslais cryf ar ddysgu efelychiadol a seiliedig ar her, lleoliadau a chymwysterau proffesiynol, mae ein sbectrwm eang o gyrsiau sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd yn gwella sgiliau, arweinyddiaeth a gwybodaeth gymhwysol ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.
Mae PDC yn cael ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru, drwy Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), i ddarparu addysg ar gyfer gweithlu’r GIG yn awr ac yn y dyfodol mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau. O raddau israddedig cyn cofrestru i gymwysterau ôl-raddedig, DPP, a rhaglenni ymarfer uwch - mae PDC yn gwella setiau sgiliau i gefnogi datblygiad gyrfa, dilyniant a darpariaeth iechyd o ansawdd uchel i’r cyhoedd.
Yn draddodiadol, rydym wedi cynnig cyrsiau Bydwreigiaeth a Nyrsio, ac yn y tendr addysg iechyd cyn-cofrestru diweddaraf AaGIC, sicrhawyd contractau i ddarparu rhaglenni newydd mewn Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau, Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol o fis Medi 2022. Ategir ein cynnig craidd hefyd gan gynnig iechyd, llesiant, a gofal cymdeithasol ehangach.
Rhaglenni gofal iechyd cyn-cofrestru
Rhaglenni Iechyd a Lles
Mae PDC yn cynnig ystod eang o raglenni sydd â'r nod o ddatblygu a chefnogi iechyd a lles. O iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned i hyfforddiant chwaraeon proffesiynol, rydym yn cwmpasu sbectrwm eang o sgiliau sydd eu hangen i gefnogi poblogaeth iachach:
Ein hymchwil
Mae ymchwil amlddisgyblaethol PDC ym maes iechyd a lles yn cynhyrchu ymchwil gymhwysol, effeithiol sydd o fudd uniongyrchol i unigolion, grwpiau a sefydliadau ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn sicrhau bod ein haddysgu a’n dysgu yn seiliedig ar ymchwil, ac mewn rhai achosion, yn cael eu harwain gan ymchwil, gan sicrhau bod ein graddedigion yn derbyn gwybodaeth a sgiliau cyfoes, yn barod i gyfrannu at ein cymdeithas a’n heconomi.
Mae'r grŵp yn canolbwyntio ar bedair thema effaith glinigol a chymhwysol integredig swyddogaethol sy'n adlewyrchu diddordebau hirsefydlog mewn Iechyd Fasgwlaidd a Pherfformiad Chwaraeon: Labordy Ymchwil Niwrofasgwlaidd; Seicoleg Chwaraeon; Anafiadau, Llwyth Hyfforddi a Monitro, Adsefydlu; a Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon.
Eu cenhadaeth yw gwella ansawdd bywyd ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i bobl ag anableddau deallusol a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Maent yn gwneud hyn trwy raglen integredig o ymchwil, addysg ac ymarfer anabledd deallusol sy'n cynnwys ffocws ar ofal diwedd oes; diogelu ac ymchwil cyfranogol.
Grŵp ymchwil amlddisgyblaethol bywiog yn cynnwys nyrsio, ffisioleg, seicoleg iechyd a daearyddiaeth ddynol, yn canolbwyntio ar ddwy thema ymchwil eang sy'n ymwneud ag iechyd sy'n berthnasol ar draws gydol oes: Atal ac Ymyrraeth, a Rhyngwyneb Polisi ac Ymarfer. Mae ganddynt hanes cryf o effeithio ar iechyd a lles, polisi cyhoeddus a gwasanaethau er budd cymunedau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Eu nod yw gwneud cyfraniad sylweddol at baratoi proffesiynol, addysg gyhoeddus, ac yn y pen draw at welliannau mewn gofal trwy ddefnyddio genomeg. Maent yn gwneud hyn drwy ein hymchwil, drwy gynhyrchu gwybodaeth newydd a chymhwyso’r wybodaeth honno i ddatblygiadau polisi ym maes iechyd ac addysg, a thrwy feithrin gallu ac arweinyddiaeth y gweithlu iechyd. Maent wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu polisi ac ymarfer mewn genomeg ar lefel genedlaethol a rhyngwladol gyda gwaith arloesol ym meysydd ymgysylltu â’r cyhoedd a hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol (yn enwedig nyrsys a bydwragedd).
Gan bontio'r rhaniadau niferus rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, eu nod yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth, a chymhwyso trylwyredd academaidd i realiti cymhleth y byd go iawn. Mae ganddynt enw da yn genedlaethol am effaith fel sefydliad ymchwil polisi iechyd a gofal blaenllaw, sydd wedi'i adeiladu ar lwyfan hunan-ariannu cadarn sy'n deillio o ddarparu ymchwil academaidd, gwerthuso ac ymgynghori rhagorol.
Maent yn cynnal ymchwil effeithiol i fodelu hygyrchedd daearyddol; delweddu tirwedd, cyffredinoli data gofodol, amcangyfrif poblogaeth a modelu ardaloedd bach; dylunio cartograffig awtomataidd, technegau optimeiddio seiliedig ar GIS; gwyliadwriaeth foesegol; modelu arwyneb digidol; a synhwyro o bell gan gynnwys arolygu a mapio UAV.
Mae Canolfan PRIME Cymru yn canolbwyntio ar ymchwil gofal sylfaenol a brys i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnal ymchwil ar bynciau o flaenoriaeth polisi cenedlaethol. Arweinir y Ganolfan ar y cyd gan Brifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol Abertawe.
Nod Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru yw adeiladu sylfaen dystiolaeth hollbwysig ar gyfer rhagnodi cymdeithasol yng Nghymru sy’n arwain y byd, gan ddefnyddio model ymchwil trosiadol i sicrhau bod canfyddiadau’n cael effaith fawr yn y byd academaidd, ymarfer, polisi ac addysg. Mae rhagnodi cymdeithasol yn ‘cysylltu dinasyddion â chymorth cymunedol i reoli eu hiechyd a’u llesiant yn well’. Yng Nghymru, mae rhagnodi cymdeithasol wedi’i leoli’n bennaf yn y gymuned, gyda rhagnodwyr cymdeithasol yn cael eu hariannu gan sefydliadau’r sector gwirfoddol. Gellir cyfeirio unigolion at ragnodi cymdeithasol trwy lwybrau clinigol a chymdeithasol, ac mae model hunan-atgyfeirio yn dod i'r amlwg.

Mae PDC wedi gweld cynnydd sylweddol yn swm yr ymchwil sy’n arwain y byd yn ôl canlyniadau diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2021). Bu gwelliant o 49% mewn ymchwil sy’n arwain y byd (wedi’i gategoreiddio fel 4*) yn PDC ers y REF diwethaf yn 2014.
Mae PDC bellach yn bedwerydd yng Nghymru o ran effaith (i fyny o’r wythfed safle yn 2014, yn seiliedig ar 4* / 3*) gyda 81% o effaith ymchwil PDC yn cael ei ddosbarthu fel un sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*). Mae gan bron i ddwy ran o dair o’r ymchwilwyr PDC a gyflwynwyd i REF 2021 ymchwil sydd wedi’i gategoreiddio fel un sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4* neu 3*).
Anghenion hyfforddi pwrpasol
Mae ein profiad o hyfforddi ar sawl lefel, ynghyd â’n hymchwil cymhwysol, yn ein galluogi i ddatblygu pecynnau hyfforddi pwrpasol o ansawdd uchel. Mae arbenigwyr ar draws PDC yn gweithio gyda’i gilydd i arloesi a chreu hyfforddiant a arweinir gan ddefnyddwyr, cwricwlwm, ac atebion i fynd i’r afael â heriau y gall sefydliadau a busnesau fod yn eu hwynebu. Rydym yn datblygu ac yn darparu anghenion hyfforddi pwrpasol ar gyfer ystod eang o sefydliadau.
Academi Dysgu Dwys Trawsnewid Digidol
Mae cyflwyno Academi Dysgu Dwys Trawsnewid Digidol wedi cynnwys cydweithwyr o ddisgyblaethau ym mhob un o’r tair cyfadran yn PDC. Bydd yr Academi, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys, yn datblygu arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon i gleifion.
Ein datblygiadau
Yn PDC rydym yn gweithio’n barhaus i arloesi a gwneud yn siŵr ein bod yn darparu addysgu, dysgu ac ymchwil o ansawdd uchel a pherthnasol. Mae enghreifftiau'n cynnwys:
- Ein pentref iechyd digidol, sydd ag amgylchedd efelychu rhithwir, a lle bydd cyfleusterau efelychu ffisegol cyn bo hir hefyd. Bydd y rhain yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau wedi’u cyfoethogi gan dechnoleg, gan gynnwys realiti rhithwir ac estynedig, i flaenoriaethu’r gwaith o ddatblygu graddedigion sy'n deall y berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Datblygir y ddealltwriaeth honno drwy brofiad o ymarfer rhyngbroffesiynol ac amlddisgyblaethol ymdrochol i ddatblygu gofal sydd ag unigolion yn ganolog iddo.
- Ein gwaith ym maes iechyd a gofal digidol, lle rydym, er enghraifft, yn gweithio gyda'r sector tai i integreiddio technoleg mewn cartrefi i wella ansawdd yr aer a chynaliadwyedd. Rydym hefyd yn datblygu cyrsiau datblygu proffesiynol parhaus i helpu i uwchsgilio'r gweithlu iechyd a gofal presennol i gofleidio technoleg ddigidol.
- Defnyddio gwerth dros 25 mlynedd o brofiad gwerthuso polisïau iechyd a chymdeithasol gan Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru i gydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau i wella ansawdd gofal.
- Datblygu'r academi dysgu dwys mewn Arweinyddiaeth Ddigidol, sy'n cefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau arwain drwy’r sector iechyd a gofal cymdeithasol cyfan.
Ein cyfleusterau
Mae ein hymchwil, ein haddysg a’n hyfforddiant o ansawdd uchel yn digwydd yn ein llu o gyfleusterau modern, o’r radd flaenaf, o ganolfan efelychu a sefydlwyd i ddyblygu amgylchedd gofal acíwt y GIG, gan ddarparu cyfleusterau clinigol realistig, i’n Parc Chwaraeon 30-erw sy'n cynnwys cae pêl-droed 3G safonol FIFA dan do, swît dadansoddi nodiannol, ac ystafell cryfder a chyflyru.
Mae'r Clinig Ceiropracteg wedi'i leoli mewn cyfleuster a lleoliad addysgol hynod drawiadol o'r radd flaenaf sy'n darparu triniaeth effeithiol i gleifion a hyfforddiant arbenigol.
Mae'r Clinig, sy'n cael ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn cynnwys 20 ystafell driniaeth, swît pelydr-X digidol, uned uwchsain ddiagnostig, uned sganio DXA, ac mae ganddo fynediad at gyfleusterau MRI.
Mae ein canolfan efelychu clinigol o'r radd flaenaf wedi'i sefydlu i efelychu amgylchedd gofal acíwt y GIG, gan ddarparu cyfleusterau clinigol realistig ar gyfer ein myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwys.
Mae'r ganolfan yn darparu hyfforddiant ar gyfer ystod eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol megis anesthetyddion, meddygon iau, myfyrwyr meddygol, ymarferwyr nyrsio, Ymarferwyr yr Adran Llawdriniaethau, parafeddygon, pediatregwyr, timau nyrsys arbenigol rhoddwyr organau a Gwasanaeth Meddygol y Fyddin Diriogaethol.

Fel rhan o’n graddau hyfforddi, gan gynnwys BSc (Anrh) Hyfforddi a Pherfformiad Pêl-droed, BSc (Anrh) Hyfforddi a Pherfformiad Rygbi, BSc (Anrh) Hyfforddi a Datblygiad Chwaraeon, a graddau cysylltiedig, gall myfyrwyr ymgymryd â lleoliadau mewn lleoliadau clwb proffesiynol neu gymunedol. Gall hyn gynnwys hyfforddiant ymarferol a gwaith datblygu cymunedol, gan amlygu myfyrwyr i'r amgylchedd a'r cyfleusterau y maent yn anelu at gael cyflogaeth ynddynt yn y dyfodol.
Cyfres o ystafelloedd modern a phwrpasol wedi'u cynllunio ar gyfer defnydd integredig o gyflwyno'r cwrs a darparu cwnsela a seicotherapi wedi'i gontractio'n allanol. Mae wedi’i leoli ar Gampws Casnewydd PDC, sy’n cynnig lleoliad delfrydol a hygyrch i bob pwrpas.
Mae Hydra yn ddarn soffistigedig o dechnoleg a ddefnyddir ar gyfer addysgu ar sail senarios mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a nyrsio. Mae'n gweithio trwy gyflwyno senario i'r myfyrwyr trwy gymysgedd o glipiau fideo, clipiau sain a thasgau ysgrifenedig. Yna mae’r system yn profi gallu’r myfyriwr i wneud penderfyniadau a gweithredu. Gall problemau amrywio yn ôl eich ymatebion. Mae hefyd yn dangos canlyniadau eich penderfyniadau i chi.
Mae gan y Labordy Ymchwil Niwrofasgwlaidd ddiddordeb yn bennaf yn yr addasiadau fasgwlaidd sy'n digwydd gyda gweithgaredd corfforol, heneiddio, bwyta'n iach, ac ymaddasu i uchder uchel.
Mae'n cynnig ystod gynhwysfawr o gyfleusterau ar gyfer dadansoddi biocemegol gan gynnwys sbectrometreg EPR, cemoleuni yn seiliedig ar yr osôn, gwaed ...
Mae Parc Chwaraeon PDC yn safle 30 erw gwych wedi’i leoli yn Nhrefforest ar Ystad Ddiwydiannol Trefforest. Mae ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn cynnal ystod eang o gyfleusterau chwaraeon gan gynnwys cae pêl-droed 3G safonol FIFA dan do sy’n gartref i System GPS Dan Do Catapult ClearSky, ystafell ddadansoddi nodiannol, ystafell cryfder a chyflyru, cae pob tywydd, cae 3G awyr agored a nifer o gaeau glaswellt aml-ddefnydd ymhlith pethau eraill. Defnyddir y Parc Chwaraeon fel canolfan hyfforddi ar gyfer llawer o glybiau chwaraeon lleol ac fe'i defnyddir hefyd gan nifer o glybiau proffesiynol.
Ein partneriaethau
Mae PDC yn gosod gweithio mewn partneriaeth wrth galon yr hyn a wnawn ac rydym yn falch o gyfrannu at ecosystem iechyd a gofal Cymru. Rydym yn canolbwyntio ar weithio gyda phartneriaid i ddeall eu blaenoriaethau a throsi hyn yn waith cydweithredol sy’n rhychwantu addysg, ymchwil ac arloesi. Mae'r astudiaethau achos isod yn dangos peth o'r gwaith a wnawn.