
Mae'r Cyflymydd Arloesedd Creadigol yn gweithio i greu ymyriadau creadigol ac uchel eu heffaith sy'n helpu ein rhanddeiliaid, ein partneriaid a'n cymunedau. Mae'n rhyngddisgyblaethol, yn gweithio gyda’r cyfadrannau a’r gwasanaethau proffesiynol i gyd i fanteisio’n llawn ar arbenigedd o bob rhan o PDC er mwyn arloesi a darparu atebion i heriau sy'n wynebu'r llu o bartneriaid a diwydiannau rydym yn gweithio gyda nhw.
Mae economi Cymru’n dibynnu ar lwyddiant gweithlu sydd mewn sefyllfa dda i fod yn hynod lythrennog yn ddigidol, a gall PDC weithredu fel galluogwr ar gyfer newid gwirioneddol i'r genedl a gweithlu’r dyfodol yn y maes hwn.
Boed yn cefnogi ecosystem arloesi ar gyfer piblinell o gynnyrch a gwasanaethau’r cyfryngau newydd, neu’n datblygu cwricwla ac Academi Trawsnewid Digidol Dysgu Dwys fydd yn helpu arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon i gleifion, mae ein harbenigwyr ar flaen y gad o ran arloesi a datrys problemau’n greadigol.
Rydym yn gweithio gyda llawer o brifysgolion, sefydliadau, busnesau, a'r sector cyhoeddus i greu newid cadarnhaol mewn tirwedd lle deallir bod creadigrwydd ac arloesedd yn elfen hanfodol o’r ymdrech i drawsnewid busnes a sectorau.
EIN CWRICWLWM

Mae arloesi creadigol a digidol wrth wraidd ein cwricwlwm yn PDC. Rydym yn gallu cynnig hyfforddiant pwrpasol fel y gall partneriaid allanol fanteisio ar yr arbenigedd sydd ar gael yn PDC.
Bydd Academi Trawsnewid Digidol Dysgu Dwys newydd yn helpu arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon i gleifion.
Caiff yr Academi ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn helpu ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gyflawni prosiectau trawsnewidiol yn seiliedig ar atebion digidol, archwilio technolegau newydd a meithrin diwylliant o chwilfrydedd. Datblygwyd amrywiaeth o gyrsiau hyblyg gyda Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys, gan gynnwys cyfleoedd lefel ôl-raddedig a doethuriaeth o fewn Trawsnewid Digidol Blaenllaw.
Mae hyn o ganlyniad i waith partneriaeth ledled PDC, gydag academyddion o dair o'n cyfadrannau'n cydweithio i weithredu'r fenter.
EIN HYMCHWIL

Mae Consortiwm media.cymru, sy'n cynnwys Prifysgol De Cymru, yn brosiect gwerth £50m i ddatblygu clwstwr sy'n arwain y byd ar arloesi yn y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae Media.cymru yn dwyn 24 o sefydliadau ynghyd o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn cynnwys partneriaid sy'n gweithio ym meysydd addysg, darlledu, technoleg, cynhyrchu'r cyfryngau ac arweinyddiaeth leol i yrru twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy a £236m yn ychwanegol mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) erbyn 2026.
Ers 2006, mae'r Rhanbarth wedi sicrhau un o gyfraddau twf cryfaf sector y cyfryngau yn y DU, gan ddenu un o bob wyth o bob swydd newydd yn y DU ym myd ffilm/teledu, ac wedi cynhyrchu llwyddiannau byd-eang ym maes ffilm a theledu, gan gynnwys Sex Education, His Dark Materials, Doctor Who a Dream Horse.
Gan ymateb i'r datblygiadau a wnaed ym maes cynhyrchu rhithwir ac o bell yn ystod pandemig Covid-19, bydd media.cymru yn buddsoddi yn seilwaith digidol y Rhanbarth, gan ganolbwyntio ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg, a chynyddu gallu busnesau bach i ganolbwyntio ar arloesi a mynd i'r afael ag anghenion sgiliau.
Bydd ymchwilio i gyfres o feysydd her dan arweiniad y diwydiant, yn cynnwys cynaliadwyedd, cynhyrchu dwyieithog, amrywiaeth a chynhwysiant, twristiaeth a thechnoleg, yn golygu y bydd sector cyfryngau'r Rhanbarth mewn sefyllfa gref i roi cynnwys, dulliau a fformatau newydd ar brawf.
Bydd ymchwilwyr o PDC a Phrifysgol Caerdydd yn cyfrannu eu harbenigedd i gefnogi ecosystem arloesi, sy'n anelu at greu pibell fydd yn mynd â 100 o gwmnïau o’r cam syniadau cychwynnol i gynnig cynnyrch a gwasanaethau cyfryngau newydd parod i’r farchnad.
Mae PDC hefyd yn arwain strategaeth sgiliau gydlynol wedi’i harwain gan ymchwil, gan gysylltu darparwyr hyfforddiant gydag anghenion a seilwaith y diwydiant, gyda ffocws ar ddenu, datblygu a chadw talent, i gefnogi fformatau a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg.

Mae PDC yn rhan o Clwstwr - rhaglen bum mlynedd uchelgeisiol i greu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sgrin ac sy'n cynnwys prifysgolion, Llywodraeth Cymru, darlledwyr a busnesau'r diwydiant sgrîn. Nod Clwstwr yw rhoi arloesedd wrth wraidd cynhyrchu'r cyfryngau yn Ne Cymru - gan symud sector sgrin ffyniannus Caerdydd o sefyllfa lle mae’n gryf i un lle mae’n arwain.
Gyda ffocws ar ddiwydiannau’r sgrin – cynhyrchu ffilm a theledu a'u cadwyni cyflenwi – mae academyddion o dair prifysgol Caerdydd (PDC, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd) yn cydweithio i ddarparu ymchwil a all helpu'r diwydiannau hyn, sydd eisoes yn ffynnu yn ne Cymru, i gyrraedd eu llawn botensial.
Drwy System Arloesi Sgrin (SAS) a Labordy Arloesi Newyddion (LAN) – bydd y rhaglen Ymchwil a Datblygu (YaD) hefyd yn galluogi darlledwyr, busnesau a gweithwyr llawrydd i wneud ceisiadau am gyllid i ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau arloesol i greu cynnydd economaidd yn Ne Cymru.
Bydd y mentrau YaD hyn wedi'u cynllunio i ymateb i dechnolegau sy'n newid, i batrymau defnydd sy’n newid ac i’r buddion ddaw o ymasiad a chydweithio creadigol.
Mae Clwstwr hefyd yn creu llwyfan lle gall cwmnïau annibynnol, BBaCh, micro-fusnesau a gweithwyr llawrydd gystadlu â chwmnïau cyfryngau byd-eang, integredig.
Rhagor o wybodaeth:
Canolfan Astudio'r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bychain

Bu cynnydd sylweddol yn faint o’r ymchwil a wneir yn PDC sy'n arwain y byd yn ôl canlyniadau diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2021). Bu cynnydd o 49% mewn ymchwil sy'n arwain y byd (wedi'i gategoreiddio fel 4*) yn PDC ers y REF diwethaf yn 2014.
Mae PDC bellach yn bedwerydd yng Nghymru am effaith (i fyny o'r wythfed yn 2014, yn seiliedig ar 4* / 3*) gydag 81% o effaith ymchwil PDC yn cael ei hystyried yn un sy'n arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*). Mae gan bron dau o bob tri ymchwilydd PDC a gyflwynwyd i REF 2021 ymchwil sydd wedi'i chategoreiddio fel ymchwil sy'n arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (4* neu 3*).
EIN CYFLEUSTERAU
Yn ein campws yng Nghaerdydd, rydym wedi buddsoddi yn y dechnoleg, y feddalwedd a'r offer diweddaraf i sicrhau bod myfyrwyr yn defnyddio ac yn dysgu yn rheolaidd yn yr un cyfleusterau ag sydd ar gael o fewn diwydiant, ac mae gennym ddigonedd o fannau pwrpasol i fyfyrwyr gydweithio ar brosiectau. Mae hefyd yn caniatáu i ni weithio ar brosiectau ymchwil a masnachol arloesol gyda phartneriaid sy'n defnyddio offer sy'n arwain y diwydiant.
Mae hyn yn cynnwys:
TIWDIOS FFILM HD

Stiwdios ffilm Diffiniad Uchel gydag ystod lawn o offer, yn cynnwys rigiau goleuo, cyfleusterau cipio symud, sgrin werdd a chynnig, stiwdio bocs du, cyfleusterau golygu Avid DU ac Adobe, cyfleusterau golygu sain a dybio, a chyfleusterau sgrinio rhagorol.
REALITI RHITHWIR

Realiti estynedig (RE) ac arbenigedd a thechnoleg realiti rhithwir (RRh).
STIWDIOS DYLUNIO

Mae ein stiwdios dylunio wedi'u cynllunio i efelychu stiwdios dylunio masnachol, o fannau cydweithio creadigol i'n hystafell cyflwyno syniadau, yn ogystal ag ystafelloedd Mac, amrywiaeth eang o ddyfeisiau cipio delwedd a hyd yn oed Raspberry Pi.
Stiwdo Sgrin Werdd
Stiwdios Ffotograffiaeth
Stiwdio Podcast
EIN PARTNERIAETHAU

Cynulleidfa'r dyfodol
Mae PDC yn helpu i greu profiadau ymdrochol arloesol, a harneisio technolegau realiti estynedig, realiti cymysg a rhithwir.
Drwy weithio gyda Tiny Rebel Games a Sugar Creative, yn rhan o gonsortiwm gyda Potato, maen nhw wedi derbyn grant ymchwil a datblygu gwerth miliynau o bunnoedd i archwilio ac arloesi gyda phrofiadau ymdrochol blaengar, yn rhan o raglen Cynulleidfa'r Dyfodol.
Mae un o'r prosiectau hyn wedi golygu gweithio gydag Aardman ar ap a phrofiad realiti estynedig hir-ddisgwyliedig Wallace and Gromit in The Big Fixup, a lansiwyd yn 2021 gyda digwyddiadau byw ledled y byd. Mae'r profiad realiti estynedig aml-ddefnyddiwr hwn yn dod â'r cymeriadau'n fyw mewn ffordd gwbl newydd, gan greu platfform newydd ar gyfer adrodd straeon.

Creu gwneuthurwyr ffilm yfory
Mae partneriaeth unigryw rhwng Ysgol Ffilm a Theledu PDC Cymru a Chynghrair Sgrin Cymru yn cynnig profiad gwerthfawr i'r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm.
Mae graddedigion a myfyrwyr PDC wedi gweithio ar amrywiaeth o gynyrchiadau teledu blaenllaw yn Wolf Studios Caerdydd, gan gynnwys cynhyrchiad mawr y BBC a HBO His Dark Materials gan Philip Pullman.

Gyrru trawsnewidad gofal iechyd
Bydd yr Academi Trawsnewid Digidol Dysgu Dwys yn helpu arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon i gleifion.
Caiff yr Academi ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn helpu ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gyflawni prosiectau trawsnewidiol yn seiliedig ar atebion digidol, archwilio technolegau newydd a meithrin diwylliant o chwilfrydedd. Datblygwyd amrywiaeth o gyrsiau hyblyg gyda Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys, gan gynnwys cyfleoedd lefel ôl-raddedig a doethuriaeth o fewn Trawsnewid Digidol Blaenllaw.