
Yn ogystal â’r gwasanaethau a gynigir gan Brifysgol De Cymru, mae llawer o sefydliadau allanol a all eich helpu os ydych angen gwybodaeth a chymorth.
Rydym wedi llunio rhestr o sefydliadau a all gynnig cyngor os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, angen cymorth. Os hoffech chi argymell sefydliad sydd heb ei restru isod, cysylltwch ag [email protected].
Ceir rhagor o wybodaeth am sut i gael cymorth yn ein A-Z Hunangymorth Llesiant.
Mind Cymru
Mae Mind yn darparu cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sy'n profi problem iechyd meddwl. Maent yn ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hybu dealltwriaeth.
Race Council Cymru
Mae Race Council Cymru yn cynrychioli a chefnogi sefydliadau a chymunedau llawr gwlad yng Nghymru i herio'n strategol unrhyw anghydraddoldeb hiliol, rhagfarn neu wahaniaethu.
Diverse Cymru
Mae Diverse Cymru wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy’n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu oherwydd oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Shelter Cymru
Mae Shelter Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i helpu pobl nodi'r opsiynau gorau i atal digartrefedd, i ddod o hyd i gartref a'i gadw, ac i'w helpu i reoli eu bywydau eu hunain. Maent yn cynnig cyngor tai cyfrinachol ac annibynnol am ddim.
Stonewall Cymru
Mae Stonewall Cymru yn darparu gwybodaeth a chymorth i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, cwiar, yn cwestiynu, ac ace (LGBTQ+) a'u cynghreiriaid.
Anabledd Cymru
Mae Anabledd Cymru yn ymdrechu i sicrhau hawliau, cydraddoldeb a byw'n annibynnol i bobl anabl yng Nghymru.
Cymorth i Fenywod Cymru
Mae Cymorth i Fenywod Cymru yn gweithio i roi terfyn ar gam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod. Maent yn darparu gwasanaethau achub bywyd i oroeswyr trais a chamdriniaeth – menywod, dynion, plant, teuluoedd – ac yn darparu ystod o wasanaethau ataliol arloesol mewn cymunedau lleol.
Mencap Cymru
Mae Mencap Cymru yn gweithio i sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfartal, yn cael eu clywed a'u cynnwys. Gallant roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddeall hawliau pobl ag anabledd dysgu a’u cefnogi i gael mynediad at wasanaethau neu herio penderfyniadau.