
Mae llawer iawn o gymorth ar gael i gydweithwyr a myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae cymorth ychwanegol ar gael yn yr A-Z Hunangymorth Llesiant.
Mae’r Ardal Gynghori yn cynnig cymorth mewn Parthau Cyngor ar y Campws, sydd i’w cael ym mhob un o bedwar prif gampws y Brifysgol. Galwch draw i siarad ag aelod o staff yn ystod y tymor rhwng 9am - 4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Myfyrwyr
CYNLLUN MENTORA MYFYRWYR
Nod y Cynllun Mentora Myfyrwyr yw cefnogi datblygiad myfyrwyr trwy gydol eu taith ym Mhrifysgol De Cymru. Mae myfyrwyr newydd yn cael eu cefnogi gan fyfyrwyr sefydledig, sydd wedi'u hyfforddi fel mentoriaid, wrth iddynt setlo i fywyd prifysgol a dechrau ar eu hastudiaethau. Yna, anogir y rhai sydd wedi cael eu mentora i ddod yn fentoriaid eu hunain tua diwedd eu blwyddyn gyntaf o astudio.
Mae mentoriaid myfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau personol a chyflogadwyedd, portffolio datblygiad proffesiynol, a gallant wneud cais am swyddi cyflogedig.

MENTORA GWASANAETH IECHYD MEDDWL
Mae Mentoriaid Arbenigol yn darparu cymorth un-i-un i fyfyrwyr â chyflyrau iechyd meddwl ac/neu Awtistiaeth (ASD/ASC), gan eu helpu i gyflawni eu llawn botensial yn y brifysgol.
Gall y mentoriaid ddarparu cefnogaeth a chymorth ar gyfer llawer o bethau, gan gynnwys trefniadaeth, rheoli amser, hyder, hunan-barch a gwydnwch emosiynol.

CYNRYCHIOLWYR CWRS
Mae Cynrychiolwyr Cwrs yn rhannu barn eu cyd-fyfyrwyr â’u Tîm Rheoli Cwrs fel y gellir gwella dysgu ac addysgu ar gyfer myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol. Maent yn ymdrin â materion fel amseroldeb adborth, cynnwys y cwrs, dulliau addysgu, argaeledd llyfrau yn y llyfrgell, cyfathrebu â staff, a mynediad i gyfleusterau ar ôl oriau.

CYNRYCHIOLWYR LLAIS MYFYRWYR
Nod Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr (SVRs) yw gwella dysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru. Maent yn mynychu cyfarfodydd cyfadran ac yn rhoi adborth i dimau cwrs, yn cynnig atebion i broblemau, ac mae ganddynt rôl weithredol yn nhrefniadaeth a rheolaeth y gyfadran. Mae’r cynllun SVR yn cael ei redeg gan Undeb Myfyrwyr PDC.

Cydweithwyr

ADNODDAU AR GYFER CYDWEITHWYR AG ANABLEDDAU A'U RHEOLWYR
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb. Rydym yn cydnabod y gallai fod angen rhai addasiadau ymarferol, cymorth neu arweiniad ar cydweithwyr ag anableddau i sicrhau, cyn belled ag y bo modd, bod gennym oll fynediad cyfartal at gyfleoedd ym Mhrifysgol De Cymru. Cymorth Anabledd ar Connect.
