Sefydlwyd y Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia yn 2004 i dynnu sylw at y trais a’r gwahaniaethu a brofir gan bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a cwiar (LGBTQ+).

Mae’r diwrnod yn cael ei ddathlu ar 17 Mai bob blwyddyn i gyd-fynd â phenderfyniad Sefydliad Iechyd y Byd i ddad-ddosbarthu cyfunrywioldeb fel anhwylder meddwl yn 1990. Mae’n gyfle i ysgogi newid cadarnhaol ac i gofio bod ffordd i fynd eto tan i holl bobl LGBTQ+ fod yn rhydd ac yn ddiogel rhag niwed.

Cymorth ac Adnoddau yn PDC

Mae nifer o ffynonellau cymorth, cyngor a gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr a chydweithwyr Prifysgol De Cymru sy'n ystyried eu bod yn LGBTQ+.

Modelau Rôl LGBTQ+

Mae Modelau Rôl LGBTQ+ PDC yn wirfoddolwyr sy’n frwd dros hyrwyddo cydraddoldeb LGBTQ+ o fewn y Brifysgol. Maent yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer cydweithwyr a myfyrwyr sy’n dod ar draws mater LGBTQ+ ac sydd am siarad amdano gydag unigolyn sy’n cael ei adnabod fel LGBTQ+.

Cymorth/Adnoddau ar gyfer Pobl Traws

Dolenni i adnoddau gyda chymorth a gwybodaeth bellach i fyfyrwyr traws a chyfoedion myfyrwyr, cydweithwyr traws, ac aelodau o gymuned y Brifysgol sy'n ystyried eu hunain yn bobl traws. Os na chaiff eich cwestiwn ei ateb yma, gweler tudalen Cymorth a Gwybodaeth LGBT+ PDC.

Rhestr Darllen LGBTQ+

Rhestr darllen yn cynnwys gwaith awduron LGBTQ+ a thestunau sy'n canolbwyntio ar themâu LGBTQ+.

Cymdeithas LGBT +

Mae Cymdeithas LGBT+ Undeb y Myfyrwyr yn lle diogel i bobl o bob rhywioldeb gymdeithasu heb ofni barn. Mae’r gymdeithas yn caniatáu i aelodau gysylltu a helpu i newid pethau ar draws y brifysgol. Maent yn cyfarfod o leiaf bob mis ac yn trefnu llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol trwy gydol y flwyddyn academaidd.

Ymgynghorwyr Urddas wrth Astudio

Ymgynghorwyr Urddas wrth Astudio yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cydweithwyr a myfyrwyr, ac maent yn gwrando ar bryderon mewn ffordd anfeirniadol. Maent yn darparu cyngor a gwybodaeth ac yn codi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i gydweithwyr a myfyrwyr sy'n profi aflonyddu neu fwlio.

Geirfa Hunaniaeth Rhywedd

Geirfa o dermau yn ymwneud â hunaniaeth rhywedd. Sylwch fod gwahanol bobl yn gweld termau gwahanol yn dderbyniol. Dylech bob amser ofyn i berson pa dermau sydd orau ganddynt wrth siarad â nhw/cyfeirio atynt. Wrth siarad â rhywun, fe allech chi ofyn iddyn nhw ‘beth mae hynny’n ei olygu i chi?’ 

Cynghorwyr Urddas yn y Gweithle

Mae Cynghorwyr Urddas yn y Gweithle yn cyfarfod â chydweithwyr a myfyrwyr sydd â phryderon ynghylch ymddygiad bwlio.

Cymorth Allanol

Yn ogystal â'r cymorth a gynigir gan Brifysgol De Cymru, mae llawer o sefydliadau'n gwneud gwaith da i gefnogi pobl sy'n nodi eu bod yn LGBTQ+. Am restr o ragor o sefydliadau sy'n cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth, ewch i'n tudalen Adnoddau Cynhwysiant.

Os hoffech chi argymell sefydliad sydd heb ei restru isod, cysylltwch â [email protected].

Stonewall Cymru

Mae Stonewall Cymru yn darparu cefnogaeth i bobl LGBTQ+ a'u cynghreiriaid. Maent wedi ymrwymo i rymuso pobl i greu newid yn eu cymunedau eu hunain.

Trans Aid Cymru

Mae Trans Aid Cymru yn helpu pobl Trawsrywiol, Anneuaidd a Rhyngrywiol (TIN) trwy gydgymorth. Mae'n cael ei redeg gan bobl TIN ar gyfer pobl TIN, sy'n golygu ei fod yn deall anghenion y gymuned.

Trans Unite

Mae TransUnite yn adnodd cynhwysfawr i bobl yn y DU sy’n chwilio am gymorth yn y gymuned drawsryweddol. Mae eu cyfeiriadur yn helpu i gysylltu pobl â rhwydwaith sefydledig o grwpiau cymorth ar gyfer pobl traws.

Mermaids

Mae Mermaids yn cefnogi plant a phobl ifanc trawsryweddol, anneuaidd a rhyweddol-amrywiol tan eu pen-blwydd yn 20 oed, yn ogystal â'u teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'u gofal.

Erthyglau

Pam mae angen y Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia arnom

Ray Vincent, Caplan Cyswllt

Efallai y bydd rhai pobl yn gofyn pam, yn yr oes ‘oleuedig’ hon, mae dal angen IDAHOBIT arnom ni – y Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia.

Mae rhan o'r ateb yn y gair cyntaf - rhyngwladol. Mae yna dros 70 o wledydd yn y byd o hyd lle gall pobl gael eu carcharu neu hyd yn oed eu dienyddio am y ‘drosedd’ o garu. Yma ym Mhrifysgol De Cymru mae gennym ni fyfyrwyr o rai o'r gwledydd hynny.

Ond mae angen ymgyrchu yn erbyn homoffobia, deuffobia a thrawsffobia yma yn y DU o hyd. Rwy'n rhyfeddu at y newidiadau enfawr yr wyf wedi'u gweld yn fy oes. Roedd pethau fel priodas o'r un rhyw a chyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu yn annychmygadwy ddim mor bell yn ôl. Ar ôl byw fy holl fywyd ifanc yn guddiedig, rwy’n falch iawn o weld pobl ifanc yn byw’n hapus gyda’u partneriaid hoyw gyda bendith lawn eu teulu a’u ffrindiau. Ond dwi’n gwybod o hyd am bobl ifanc sydd wedi cael eu troi allan o’u cartrefi am fod yn hoyw, ac mae triniaeth llawer o bobl traws yn waeth byth.

Cefais fy syfrdanu braidd yn ddiweddar gan raglen deledu a gyflwynwyd gan Olly Alexander, y canwr a’r actor adnabyddus a gymerodd ran flaenllaw yn y ddrama deledu ‘It’s a Sin’. Mae'n ddyn hoyw balch a hyderus, ond siaradodd am ei brofiad ei hun o salwch meddwl a chyfweld â phobl eraill am eu profiad. Atgoffodd ni fod 40% o bobl hoyw yn dioddef o salwch meddwl. Er gwaethaf ymddangosiad derbyniad cyffredinol, mae llawer o bobl hoyw yn dal i fod ag ymdeimlad dwfn o gywilydd ac annheilyngdod nad ydynt erioed wedi gallu ei waredu.

Fel gweinidog Cristnogol dwi’n boenus o ymwybodol o’r rhan mae’r eglwysi wedi chwarae yn hyn. Mae gan lawer o Gristnogion cyffredin aelodau hoyw o'u teulu a ffrindiau y maent yn eu caru ac yn eu cefnogi - mae llawer yn hoyw eu hunain. Ond mae arweinwyr eglwysig - gydag ychydig eithriadau - yn dal i ofni herio'r athrawiaethau swyddogol, ac mae yna lawer o hyd sy'n credu'n gryf bod unrhyw ryw y tu allan i briodas heterorywiol yn bechod. Mae angen llawer o addysg a llawer o her o hyd.

Rwy’n gobeithio am ddyfodol lle na fydd angen diwrnod ‘yn erbyn’ dim byd ond y byddwn yn dathlu gydol y flwyddyn yr amrywiaeth gyfoethog o ffyrdd y mae pobl yn mynegi eu hunain a’r ffyrdd y maent yn caru ei gilydd.

Ray Vincent
Riley

Pwêr Baner

Riley Rattray,Swyddog Myfyrwyr LHDT+ Traws ar Gyngor Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru 

Shwmae. Fydd rhai ohonoch chi ddim yn fy adnabod i ond fy enw i yw Riley Rattray a fi yw’r Swyddog Myfyrwyr LHDT+ Traws ar Gyngor Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru ar hyn o bryd. Felly, dw i’n gwneud yn siŵr bod llais y myfyriwr a’r Gymuned LHDT+ yn cael ei glywed o fewn yr Undeb Myfyrwyr a’r brifysgol.

Yn gynharach yn y flwyddyn, ar gampws Trefforest, cafodd newid bach ei wneud. Dim ond un peth. Cafodd baner ei chodi. I fod yn fanwl gywir, cafodd baner Balchder Cynnydd Ryngryw-Gynhwysol ei chodi yn lle'r faner Enfys draddodiadol rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â hi. Mae’n newid na fyddai llawer o bobl wedi meddwl amdano. Ond mae’n newid y byddai pobl yn cymryd sylw ohono. Fi gyflwynodd y syniad hwn. A dyma pam.

Wnes i awgrymu newid fel hyn oherwydd roeddwn yn teimlo ei fod o’n bwysig. Achos mai dyma oedd y peth iawn i’w wneud. Ar ddiwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia, roeddwn yn teimlo ei bod hi’n iawn egluro pwysigrwydd cymorth, cydnabyddiaeth a pharch yn y dyddiau tywyll hyn. Mae’r diwrnod hwn nid yn unig yn tynnu sylw at y casineb sy’n dal i yrru’r frwydr am ein hawl i fod yn ni hunain ond mae  hefyd yn ein hatgoffa o’r rhai rydyn ni wedi eu colli ar hyd y ffordd.

Rydyn ni’n byw mewn oes lle nad yw pethau’n gweithio o blaid y gymuned LHDT+ yn fy marn i, yn enwedig pobl T.R.A (Trawsrywiol, Ryngryw ac Anneuaidd) Ynysoedd Prydain, ac yn enwedig yng ngoleuni’r Gwaharddiad Therapi Trosi. Gyda hyn mewn golwg, dw i’n gobeithio bod y faner hon yn arwydd o obaith i fyfyrwyr ar ein campysau ac yn ein cymunedau lleol.

Mae’r faner hon yn un o blith nifer o ffyrdd o ddangos bod yr Hil Ddynol yn ffurf amrywiol iawn ar fywyd, ac mae angen i ni neilltuo amser i gofio am yr amrywiaeth honno a’i pharchu. Fydd rhai dim yn ddeall pethau fel hyn, nac yn uniaethu â nhw, ac mae hynny’n iawn. Ond dyw hynny erioed wedi meddwl nad oes modd treulio amser i ddod i ddeall. A ddylai peidio â deall rhywbeth fyth gyfiawnhau casineb. Ddylai fyth wneud hynny. Ond yn anffodus, fel hyn y mae rhai pobl yn ei gweld hi, a hyd yn oed yn y 2020au rydyn ni dal angen ymladd dros ein hawl i gael ein gweld a’n clywed.

Mae’r pŵer sydd gan faneri yn aruthrol. Maen nhw’n gallu uno torfeydd o bobl. Maen nhw gallu cael pobl ddiarth i siarad gyda’i gilydd. Gallan nhw hefyd gael pobl i feddwl yn wahanol. Agor eu llygaid i syniadau newydd. Mae’r faner balchder wedi gwneud hyn ers amser.

Ond y pŵer allweddol y tu ôl i fersiwn ddiweddaraf y Faner Balchder yw ei gallu nid dim ond i wneud i’r gymuned LHDT+ gael ei chlywed, a chael sylw a pharch, ond hefyd lleisiau pobl Draws a Rhyngryw yn ogystal â Phobl o Liw. Mae cynrychiolaeth yn gallu gwneud i bobl deimlo bod croeso iddyn nhw. Mae o’n gallu dod â phobl mas o’r tywyllwch a gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy cyfforddus nid yn unig gydag eraill ond gyda nhw eu hunain hefyd. I rai mae o’n gallu creu teimladau positif, yn cynnwys ewfforia. Gair cyffredin yn y gymuned LHDT+.

Drwy bŵer y faner hon mae pobl yn gallu dechrau teimlo’n hapusach am fod yn fwy agored ac onest i eraill ac weithiau iddyn nhw eu hunain hefyd. Mae’n rhywbeth prydferth gweld, clywed a theimlo’n digwydd, boed i ffrind, i aelod o’ch teulu neu chi eich hun. Bod rhywun yn blodeuo. Gyda’r nod yma yn fy meddwl yr es i ati i wneud yn siŵr bod baner fel hon yn  chwifio uwch ein pennau wrth gerdded o un lle i’r llall. A fyddai dim byd arall yn gwneud y tro i fi.