
Newid bywydau a’n byd er mwyn gwell yfory:
Bydd PDC yn brifysgol flaenllaw yn y DU sy'n cael yr effaith gadarnhaol fwyaf ymhlith ein myfyrwyr, partneriaid a'n cymunedau.
- Uchelgeisiol ar ran ein myfyrwyr a’n staff ac yn ymroi i gael effaith gadarnhaol
- Canolbwyntio ar gynhwysiant, menter a thwf
- Partner dibynadwy er ein budd a’n llwyddiant hirdymor ein gilydd
- Creawdwr arloesol wybodaeth a datrysiadau at y dyfodol
- Balch o gael ein gwreiddio yn Ne Cymru, gyda chyrhaeddiad byd-eang
Proffesiynol | Ymatebol | Creadigol | Ysbrydoledig | Cydweithredol
Mae Strategaeth y Brifysgol – USW 2030 – yn amlinellu ein cyfeiriad ar gyfer y degawd nesaf; llwybr i’r dyfodol sy’n feiddgar ac uchelgeisiol er mwyn sicrhau parhad ein llwyddiant a’n cynaliadwyedd hirdymor.
Mae ein gweledigaeth yn glir: rydym eisiau newid bywydau a’n byd er gwell. Mae ein byd yn newid ar gyflymder aruthrol a’n gwaith ni yw darparu’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad i’n myfyrwyr sydd eu hangen i hyrwyddo’u potensial a’u cyfleoedd yn y dyfodol i’r eithaf yn y byd gwaith.
Gan weithio ar y cyd â diwydiant, bydd ein hymchwil ac arloesi yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau byd-eang mwyaf o ynni i iechyd i ddiogelwch, ac yn darparu atebion i broblemau’r byd go iawn.
Yr Athro Julie Lydon OBE
Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredol
Dros y degawd nesaf, dyma yw ein huchelgeisiau:
- Bod yn brifysgol ranbarthol fawr gyda chynnig academaidd nodedig amser llawn a rhan-amser sy’n ddeniadol i’r farchnad gartref a’r farchnad fyd-eang
- Darparu profiad i fyfyrwyr sy’n rhagorol, cynhwysol ac ymgysylltiedig
- I sicrhau bod ein myfyrwyr yn cwblhau eu hastudiaethau yn llwyddiannus ac yn sicrhau cyflogaeth yn eu meysydd arbenigedd
- Ymgysylltu â phartneriaid i hyrwyddo ein heffaith ar eu hymdrechion i’r eithaf
- Ymrwymo i wella llesiant y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethau i’r dyfodol trwy weithredu unigol a chyfunol
- Darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ar draws y rhanbarth a thu hwnt i gyfranogi mewn addysg uwch a symud ymlaen at addysg uwch
- Bod yn gyflogwr ymgysylltiedig, wedi'i seilio ar werthoedd
- Bod yn gynaliadwy yn ariannol yng nghyd-destun amgylchedd addysg uwch deinamig
USW 2030 – Agweddau Allweddol
cyfleoedd i raddedigion
Byddwn yn darparu:
- Portffolio academaidd nodedig a pherthnasol yn canolbwyntio ar anghenion y myfyriwr a’r cyflogwr
- Profiad dysgu ac addysgu yn seiliedig ar her sy’n trawsnewid hunaniaeth ac uchelgais broffesiynol myfyrwyr
- Gweithle a dysgu gydol oes sy’n hyblyg, arloesol a hygyrch
Rhagoriaeth ymchwil ac arloesi
Byddwn yn darparu:
- Ymchwil effaith uchel, ag iddi enw da yn rhyngwladol mewn meysydd datblygu carlam: amgylchedd cynaliadwy - troseddu, diogelwch a chyfiawnder - iechyd a lles - creadigol
- Ymchwil ac arloesi cymhwysol sy’n darparu mantais fesuradwy i’r gymdeithas a’r economi
- Partneriaethau strategol cryf a buddiol i’r ddwy ochr, sy’n mynd i’r afael â heriau byd-eang, yn annog cyfnewid gwybodaeth ac yn ysbrydoli arloesi ac entrepreneuriaeth.
Ffocws allanol
Byddwn:
- Yn gweithio gyda phartneriaid i wneud addysg uwch yn fwy hygyrch i fwy o bobl
- Yn meithrin partneriaethau allanol er mwyn gwella lles y cymunedau a wasanaethwn yn y dyfodol
- Yn hyrwyddo gwerth economaidd a chyhoeddus ein campysau i’r eithaf
- Yn cyfrannu at ddatblygu’r Gymraeg
Trawsnewid Gweithredol
Byddwn:
- Yn cefnogi ac yn ymfalchïo yn ein staff talentog ac uchelgeisiol sy’n glir eu ffocws
- Yn cynnal gweithlu cynhwysol, hyrwyddo amrywiaeth, meithrin cydweithredu a lles
- Yn darparu amgylcheddau hyblyg, digidol estynedig i annog addysgu arloesol, ymchwil ac arferion cydweithio
- Yn croesawu darpariaeth gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i gefnogi cynaliadwyedd hirdymor
- Yn tyfu ac yn arallgyfeirio ein hincwm i gynhyrchu gwargedau i’w hailfuddsoddi yn ein diben craidd